Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Y Bennod Ddiwethaf ||

Rhestr Termau

No Comments Rhestr Termau

1 Rhestr Termau

TERMAU

ACRONYM (os yn berthnasol)

Disgrifiad

Addasu

Ystyr cyffredinol hwn yw'r gwaith ffisegol sy'n angenrheidiol i newid defnydd adeilad o ddefnydd penodol, a ddosbarthwyd yn y gorchymyn dosbarthiadau defnydd, i ddefnydd arall. Gall hefyd olygu isrannu eiddo preswyl i fod yn fflatiau neu randai hunan cynwysedig

Adeilad Rhestredig

Sef adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Caiff adeiladau rhestredig eu graddio'n radd I, II* neu II, a gradd I yw'r uchaf. Gellir rhestru adeilad ar sail y tu mewn iddo yn ogystal â'r tu allan, ac unrhyw adeiladau neu strwythurau parhaol.

Adennill (yn nhermau mwynau)

Gweithredoedd a luniwyd i ddychwelyd ardal i gyflwr amgylcheddol derbyniol, un ai ar gyfer ail ddechrau'r defnydd blaenorol neu ar gyfer defnydd newydd. Mae'n cynnwys gweithgareddau adfer, ôl-ofal, trin pridd, llenwi a chyfuchlin.

Adferiad (yn nhermau mwynau)

Camau i adfer y tir effeithiwyd gan echdyniad mwynau i safon uchel yn addas ar gyfer ôl-ddefnydd a gytunwyd ac yn cynnwys ailosod isbridd, pridd ar y wyneb neu ddeunydd creu pridd yn ofalus.

Adfer/ cael cyflwr (yn nhermau bioamrywiaeth)

Adfer cynefin sydd gan olion arwyddocaol o'r cynefin gwreiddiol yn ôl i'w gyflwr gwreiddiol. Mae cael cyflwr yn golygu bod cynefin yn mynd o gyflwr sâl i gyflwr da.

Adnau

Cam ffurfiol o ymgynghoriad lle gwahoddir sylwadau ar y fersiwn drafft llawn o'r CDLl.

Adnoddau mwynau

Dyddodyn mwynau (deunydd crai basig o'r Ddaear) sydd gan werth i gymdeithas a gellir ei echdynnu yn economaidd, neu gall fod yn hyfyw yn y dyfodol agos.

Adroddiad Monitro Blynyddol

AMB

Adroddiad a gyflwynir i Lywodraeth Cymru gan awdurdodau cynllunio lleol sy'n asesu effeithiolrwydd y CDLl yn erbyn cyfres o ddangosyddion a thargedau.

Agregau

Tywod, graean, carreg fal a deunydd mawr arall ddefnyddir gan y diwydiant adeiladu.

Ailgylchu

Adferiad deunydd o'r llif gwastraff ar gyfer ei ail-ddefnyddio neu eu newid i ddeunydd arall.

Amcan

Datganiad o beth fwriedir, gan ddweud beth yw'r newid a ddymunir.

Angen (yn nhermau manwerthu)

Y cydbwysedd rhwng y cyflenwad a'r galw rhwng manwerthwyr a defnyddwyr. Yn cael ei ddangos fel gwariant personol ar gael i gefnogi siopau ychwanegol a/ neu estyniadau i siopau presennol.

Ardal Cadwraeth Arbennig

ACA

Safle a ddynodwyd dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y Gymuned Ewropeaidd i warchod cynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol

Ardal Cadwraeth

Ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, y mae'n ddymunol cadw neu wella eu cymeriad neu olwg.

Ardal Chwilio Strategol

AChS

Ardal sydd wedi cael ei adnabod ar lefel strategol gan TAN8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddol (LlC, 2005) fel un sydd gan nodweddion cyffredinol sy'n golygu y gall ymdopi gyda ffermydd gwynt mawr.

Ardal Gwarchodaeth Arbennig

AGA

Safle a ddosbarthwyd dan Gyfarwyddeb y Gymuned Ewropeaidd ar Adar Gwyllt i ddiogelu rhywogaethau adar o bwysigrwydd rhyngwladol.

Ardaloedd Marchnad Tai

Fe wnaeth yr Asesiad Marchnad Tai Lleol Gogledd Orllewin Cymru adnabod ardaloedd marchnad tai o fewn yr isranbarth yn seiliedig ar ardaloedd teithio i'r gwaith a gwybodaeth leol er mwyn deall lefelau galw ac angen o fewn yr ardaloedd yma.

Ardaloedd Prisiau Tai

Ardaloedd prisiau tai o fewn ardal y Cynllun a gafodd eu hadnabod yn yr Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy.

Ardal Rheoli Newid Arfordirol

Ardal lle mae 'dim ymyrraeth weithredol' neu aliniad a reolir' yw'r polisi cydnabyddedig yn y cynllun rheoli arfordirol.

Ardoll Seilwaith Cymunedol

CIL

Mae hwn yn ddull o sicrhau cyfraniadau cyffredinol gan ddatblygwyr. Deddfwyd ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol fel rhan o Ddeddf Cynllunio 2008. Dilynwyd hyn gan Reoliadau Gweithredu, a daeth yr Ardoll Seilwaith Cymunedol i rym yng Nghymru a Lloegr ar 6 Ebrill 2010.

Ardal Tirwedd Arbennig

ATA

Dynodiad heb fod yn statudol a ddefnyddir gan awdurdodau lleol mewn rhai rhannau o'r Deyrnas Unedig i adnabod tirweddau sensitif sydd un ai yn gyfreithiol neu fel mater polisi yn cael eu gwarchod rhag datblygiad anaddas neu ddylanwadau dynol eraill.

Argaeledd Tir ar gyfer Tai

Cyfanswm y tir sydd wedi ei neilltuo ar gyfer defnydd preswyl a heb ei ddatblygu.

Arolygiaeth Cynllunio

Asiantaeth weithredol o'r Llywodraeth Brydeinig sydd yn gyfrifol am archwiliad cyhoeddus o'r Cynllun.

Asedau Treftadaeth

Yn cwmpasu strwythurau a llefydd agored sy'n cael eu hystyried o werth hanesyddol, archeolegol neu artistig arbennig (e.e. Adeiladau Rhestredig, Parciau a Gerddi Hanesyddol a Henebion Cofrestredig) yn ogystal â Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Asesiad Amgylcheddol Strategol

AAS

Term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio asesiadau amgylcheddol o bolisïau, cynlluniau a rhaglenni. Mae Rheoliadau'r AAS yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal asesiad amgylcheddol ffurfiol o gynlluniau a rhaglenni penodol, yn cynnwys y rheini ym maes cynllunio a defnydd tir.

Asesiad Cymeriad Ardal Gadwraeth

Dogfen gyhoeddedig sy'n diffinio'r diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sy'n golygu bod yr ardal yn deilwng o gael ei dyrannu.

Asesiad Cynaliadwyedd

AC

Offeryn i arfarnu polisïau a chynigion i sicrhau eu bod yn adlewyrchu amcanion datblygu cynaliadwy (h.y. ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd). Mae Adran S62(6) y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol gynnal Asesiad Gynaliadwyedd y Cynllun. Mae'r math hwn o Arfarniad o Gynaliadwyedd yn ymgorffori gofynion Cyfarwyddeb yr Asesiad Amgylcheddol Strategol. Mae'r defnydd o'r term hwn yn y Cynllun yn cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol, oni nodir fel arall.

Astudiaeth Angen Tai

Astudiaeth o ardal neu anheddle penodol i gefnogi cymysgedd rhesymol a chytbwys o fathau a meintiau tai er mwyn cyfarch anghenion tai amrywiol o fewn ardal leol.

Astudiaeth Capasiti Trefol

Mae'r astudiaeth yma'n sefydlu beth yw capasiti'r Ganolfan Isranbarthol a'r Canolfannau Gwasanaeth Trefol a Lleol sydd wedi cael eu hadnabod yn y Cynllun i ddarparu mwy o unedau preswyl. Mae'n cyfrannu i ddeall y potensial ar gyfer mwy o ddatblygiad tai o fewn y Canolfannau yma.

Astudiaeth Marchnad Tai Lleol

AMTLl

Astudiaeth sy'n rhoi tystiolaeth am angen a galw am dai mewn ardal.

Asesiad Priodol

AP

Asesiad mwy manwl sydd angen ei wneud os yw Adroddiad Sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn dangos bod posibilrwydd y bydd y Cynllun yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle rhyngwladol un ai ar ben ei hun mewn ar y cyd gyda chynlluniau neu brosiectau eraill.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Mae Asesiad o'r fath yn un o ofynion Cyfarwyddeb Ewropeaidd 92/43/EEC sy'n asesu effeithiau posibl Cynllun Datblygu Lleol ar un neu fwy o safleoedd Ewropeaidd (safleoedd Natura 2000). Dylai'r asesiad ddod i gasgliad o ran p'un a fyddai cynnig neu bolisi yn y Cynllun Datblygu yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle dan sylw

Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy

Astudiaeth sy'n adnabod lefel tai fforddiadwy sy'n hyfyw i'w ddarparu ar safleoedd marchnad agored o fewn Ardaloedd Prisiau Tai yn ardal y Cynllun.

Awdurdod Cynllunio Lleol

Sef awdurdod cynllunio sy'n gyfrifol am baratoi'r Cynllun.

Banc Tir (Mwynau)

Stoc o geisiadau cynllunio (fel arfer yn berthnasol i fwynau heb-ynni) i ddarparu parhad mewn cynhyrchiad er gwaethaf y newid mewn galw. Fel arfer mae'n cael ei ddangos yn ôl y nifer o flynyddoedd yn seiliedig ar y patrwm diweddar o gyflenwi.

Banc Tir (Tai)

Nifer o unedau gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer tai.

Bioamrywiaeth

Term a ddefnyddir i ddisgrifio amrywiaeth bywyd ar y ddaear, yn cynnwys yr amrywiaeth eang o ecosystemau ac organebau byw, anifeiliaid, planhigion, eu cynefinoedd a'u genynnau.

Bond

Taliad wedi ei ddiogelu er mwyn sicrhau bod safle yn cael ei gynnal neu adfer.

Cadernid

Er mwyn cael ei ystyried yn gadarn, rhaid i Gynllun Datblygu Lleol fod yn gyfiawn (yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a chredadwy a'r strategaeth fwyaf effeithiol) ac yn effeithiol (cyfiawnadwy, hyblygac yn bosibl ei fonitro). Mae deg prawf cadernid a nodwyd mewn canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a'r Arolygiaeth Gynllunio, a chaiff y Cynllun ei fonitro yn eu herbyn

Cadw

Gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy'n gweithio i gael amgylchedd hanesyddol hygyrch ac yn un sy'n cael ei warchod i Gymru.

Canllawiau Cynllunio Atodol

CCA

Gall Canllawiau Cynllunio Ategol gwmpasu ystod o faterion, sef materion thematig a materion ar gyfer safleoedd penodol, a chynnig rhagor o fanylion polisïau a chynigion cynllun datblygu.

Canolfan drafnidiaeth

Man lle caiff teithwyr a llwythi eu cyfnewid rhwng cerbydau neu ddulliau teithio. Mae Canolfannau Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cynnwys gorsafoedd rheilffordd, gorsafoedd cludiant cyflym, safleoedd bws, safleoedd tram, meysydd awyr a glanfeydd llongau fferi.

Canolfannau Gwasanaeth Lleol

Mae'r rhain yn cael eu hadnabod fel canolfannau gyda chyfleusterau a gwasanaethau sy'n cwrdd â gofynion eu poblogaeth eu hunain a'u hardaloedd dalgylch eu hunain. Mae ganddynt ryw gymaint o gyfleoedd cyflogaeth a manwerthu a chysylltiadau da iawn gydag un ai Canolfan Wasanaeth Trefol neu Ganolfan Isranbarthol, prun bynnag yw'r agosaf.

Canolfannau Gwasanaeth Trefol

Mae gan y rhain swyddogaeth is-sirol yn nhermau darparu ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau ar gyfer eu poblogaeth eu hunain a rhannau o'r siroedd. Mae gan rai, h.y. Llangefni a Chaernarfon hefyd swyddogaeth weinyddol ar gyfer eu siroedd.

Canolfan Isranbarthol

Mae ganddi swyddogaeth drawsffiniol a lleol yn nhermau cyflogaeth, iechyd a chyfleoedd hamdden. Mae'n ganolfan fanwerthu nid yn unig ar gyfer ei phoblogaeth ei hun ond hefyd ar gyfer ardal ehangach.

Canol trefi

Yn cynnwys craidd ystod o ganolfannau siopa a masnachol o wahanol faint.

Carafanau: Carafan Sefydlog

Carafan sydd angen cerbyd cymalog i'w symud.

Carafanau: Carafan teithiol

Carafan ellir ei dynnu ar ôl cerbyd modur.

Cartrefi Gofal

Sefydliad sy'n darparu llety preswyl gyda gofal iechyd, yn arbennig i'r henoed.

Cartref Gofal Preswyl

Sefydliad lle mae nifer o bobl hyn yn byw, fel arfer mewn ystafelloedd sengl, ac sydd yn gallu cael mynediad i wasanaethau ar y safle sy'n darparu gofal personol yn unig - cymorth i ymolchi, newid a rhoi moddion.

Cartrefi Gofal Ychwanegol

Yn debyg i lety cysgodol, yn cynnig y gallu i fyw yn annibynnol ond yn elwa o ddarpariaeth gofal ar y safle.

Chalet

Strwythur un llawr sy'n lled-barhaol y gellir ei symud. Edrychir ar chalet fel un uned os gellir ei feddiannu gan un unigolyn/ teulu ar y tro hyd yn oed os oes ganddo ddwy echel.

Cyfarwyddeb Ewropeaidd

Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sydd yn dweud bod angen i rai sy'n perthyn iddo gyrraedd allbwn/ targed penodol.

Cyflenwad 5 mlynedd

Mae Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 1 yn dweud bod rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol sicrhau bod yna ddigon o dir wirioneddol ar gael i ddarparu cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai. Mae'n rhaid i'r cyflenwad tir yma ddylanwadu'r strategaeth sydd yn y cynllun datblygu.

Cynllun Adnau

Fersiwn drafft llawn o'r Cynllun Datblygu Lleol sy'n destun cyfnod ymgynghori ffurfiol.

Cymuned

Pobl sy'n byw mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig, neu sy'n rhannu'r un diddordebau

Cynllun Datblygu Lleol

Sef y cynllun datblygu statudol gofynnol ar gyfer pob ardal awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru dan Ran 6 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Cynllun defnydd tir ydyw sy'n destun archwiliad annibynnol, a fydd yn gynllun datblygu statudol ar gyfer ardal awdurdod lleol. Dylai'r Cynllun gynnwys gweledigaeth, strategaeth, polisïau i'w defnyddio ar draws yr ardal ar gyfer mathau o ddatblygiadau, dyraniadau tir, a pholisïau a chynigion ar gyfer ardaloedd allweddol o newid a diogelu lle y bo'n ofynnol.

Cynllunio defnydd tir

Mae'r fframwaith ar gyfer sut mae tir yn cael ei ddefnyddio a'i ddatblygu cael ei ddarparu'n bennaf gan y system cynllunio. Mae hwn yn anelu i gael y defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o dire r lles y cyhoedd ac i sicrhau bod y gwasanaethau a chyfleusterau angenrheidiol yn cael eu hadeiladu lle mae eu hangen nhw.

Cynllun Gofodol Cymru

Cynllun a baratowyd ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru dan adran 60 y Ddeddf, sy'n nodi fframwaith strategol i lywio datblygiadau ac ymyriadau polisi yn y dyfodol, p'un ai bod y rhain yn ymwneud â rheoli cynllunio defnydd tir ffurfiol neu beidio. Mae Adran 62 (5) (b) y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol ystyried Cynllun Gofodol Cymru wrth baratoi CDLl.

Cynllun Integredig Sengl

CIS

Mae hwn yn cynnwys gweledigaeth a chynllun gweithredu'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar gyfer y ddwy sir. Pwrpas y Cynllun ydy hyrwyddo cydweithio er mwyn gwella budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'n ceisio mynd i'r afael a materion cymhleth nad ellir eu datrys gan un mudiad yn gweithio ar ben ei hun. Mae'r Cynllun wedi cael ei greu mewn partneriaeth, gan gael mewnbwn partneriaid, defnyddwyr gwasanaethau, cymunedau a phreswylwyr.

Cynllun Mabwysiedig

Y fersiwn derfynol, gyfreithlon o'r Cynllun Datblygu Lleol a gymeradwywyd yn statudol.

Cynllun Rheoli Traethlin

CRhT

Dogfen nad yw'n statudol sy'n rhoi canllawiau strategol i gynorthwyo gwneud penderfyniadau am amddiffynfa arfordirol ar gyfer hyd benodol o'r arfordir dros y 50 mlynedd nesaf gydag adolygiadau fel arfer pob 5 mlynedd.

Cynllun Teithio

Mae cynllun teithio yn becyn o gamau gweithredu a baratowyd gan weithle, ysgol neu sefydliad arall i annog dewisiadau teithio diogel, iachus a chynaliadwy. Drwy leihau teithio mewn ceir, gall Cynlluniau Teithio wella iechyd a lles, rhyddhau mannau parcio, a gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r gymuned a'r amgylchedd.

Cytundeb 106

Cytundeb cyfreithiol dan adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae cytundebau adran 106 yn gytundebau cyfreithiol rhwng awdurdod cynllunio a datblygwr, neu rwymedigaethau unochrog a gynigir gan ddatblygwr, sy'n sicrhau y cyflawnir gwaith ychwanegol penodol sy'n ymwneud â datblygiad.

Cytundeb Cyflawni

Dogfen sy'n cynnwys amserlen yr awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer paratoi'r Cynllun ynghyd a'r Strategaeth Cynnwys Cymunedau, a gyflwynir i Lywodraeth Cymru i'w chymeradwyo

Clystyrau

Aneddleoedd gydag o leiaf 10 uned tai mewn gr?p sydd yn ddigon cydlynol i'w adnabod gyda chysylltiadau i aneddleoedd sydd yn uwch i fyny yn y goeden aneddleoedd.

Datblygiad

Datblygiad, yn ôl diffiniad cyfraith cynllunio, yw 'carrying out of building, engineering, mining or other operations in, on, over or under land. (Adran 55 Deddf Cynllunio 1990 fel y'i diwygiwyd).

Datblygiad Ardrawiad Isel

Datblygiad sy'n gysylltiedig â dulliau byw sydd gan ardrawiad amgylcheddol negyddol isel ac sydd un ai'n cyfoethogi neu nad yw'n lleihau gwerth amgylcheddol yn arwyddocaol ac maent a chysylltiad agos a dulliau rheoli tir cynaliadwy. Yn cael eu hadnabod fel Datblygiad Un Blaned hefyd.

Datblygiad cynaliadwy

Datblygu sy'n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain

Defnydd cymysg

Datblygiadau neu gynigion sy'n cynnwys mwy nag un math o ddefnydd tir ar yr un safle.

Diagram allweddol

Dehongliad o strategaeth ofodol y Cynllun ar ffurf diagram.

Dosbarth defnydd A1, A2 neu A3

Dyma rhai o'r Defnyddiau Tir sydd yn Rhybudd Cynllunio Tref a Chynllunio (Dosbarth Defnydd) 1987. Mae A1 yn cyfeirio at siopau, A2 yw sefydliadau gwasanaethau arian a phroffesiynol ac A3 yw llefydd bwyta, caffi, neu lefydd bwyd poeth i'w cario allan.

Dosbarth defnydd B1, B2 neu B8

Dyma rhai o'r Defnyddiau Tir sydd yn Rhybudd Cynllunio Tref a Chynllunio (Dosbarth Defnydd) 1987. Mae B1 yn cyfeirio at sefydliadau busnes, B2 yn sefydliadau 'diwydiant cyffredinol' a B8 yn sefydliadau storio neu ddosbarthu.

Dosbarth defnydd C2 a C3

Dyma rhai o'r Defnyddiau Tir sydd yn Rhybudd Cynllunio Tref a Chynllunio (Dosbarth Defnydd) 1987. Mae C1 yn cyfeirio at sefydliadau sy'n cael eu hadnabod fel Sefydliadau Preswyl ac mae C3 yn cael eu hadnabod fel T? Preswyl.

Dosbarth defnydd D1 a D2

Dyma rhai o'r Defnyddiau Tir sydd yn Rhybudd Cynllunio Tref a Chynllunio (Dosbarth Defnydd) 1987. Mae D1 yn cyfeirio at sefydliadau heb fod yn breswyl ac mae D2 yn cyfeirio at sefydliadau lle mae pobl yn cwrdd ac yn hamddena.

Elw cynllunio

Y buddion neu'r warchodaeth, yn aml er budd cymunedol, a geir trwy ymrwymiad cynllunio fel rhan o ganiatâd cynllunio ac fel arfer ar draul y datblygwr. Er enghraifft, tai fforddiadwy, cyfleusterau cymunedol neu fesurau lliniaru.

Fesul cam/ cam wrth gam

Datblygu safle'n raddol fesul cam dros gyfnod o amser yn hytrach nag oll ar yr un pryd.

Geoamrywiaeth

Ystod o gerrig, ffosilau, mwynau, pridd, tirffurf a phrosesau naturiol sy'n creu tirwedd a strwythur y Ddaear.

Gofodol

Nodwedd sy'n berthnasol i leoliad/ ardal

Gwaelodlin

Disgrifiad o gyflwr presennol yr ardal er mwyn mesur newid yn ei erbyn.

Gwarchod agregau

Gwarchod adnoddau agregau rhag sterileiddio heb fod angen gan fathau eraill o ddatblygu.

Gwarchodfa Natur Leol

Cynefinoedd o arwyddocâd lleol sydd ddim yn statudol sy'n cael eu hadnabod gan awdurdodau lleol lle mae gwarchodaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o gadwraeth natur yn cael ei annog.

Gwastraff

Unrhyw ddeunydd neu wrthrych nad oes ei angen dim mwy ac sydd angen ei waredu. Os gellir ail-ddefnyddio deunydd neu wrthrych mae'n cael ei adnabod fel gwastraff os ydy o wedi cael ei waredu.

Gweledigaeth

Datganiad a gytunwyd am amcanion oferôl y Cynllun.

Gwellhad

Mae gwellhad bioamrywiaeth yn welliant i gynefin/ boblogaeth rhywogaeth sydd uwchlaw beth sydd yno'n barod. Gall hyn fod trwy ychwanegu/ wella cynefinoedd neu gynyddu/ wella cyfleoedd ar gyfer rhywogaethau.

Hawliau Datblygu a Ganiateir

Newidiadau bychan o fath penodol ellir eu gwneud i dy neu fusnes nad oes angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio.

Henebion Cofrestredig

Henebion o bwysigrwydd cenedlaethol, olion archeolegol fel arfer, sy'n cael eu diogelu yn erbyn datblygiadau amhriodol drwy Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979.

Henoed Bregus eu Meddwl

Term ambarél i gynorthwyo i ddosbarthu ystod o salwch sy'n effeithio'r henoed yn bennaf.

Hoff Strategaeth

Rhan o gyfres o ddogfennau cyn-adnau sy'n amlinellu hoff strategaeth y Cynghorau ar gyfer twf a newid.

ICOMOS

Cyngor Rhyngwladol ar gyfer Henebion a Safleoedd ("International Council on Monuments and Sites").

Iawndal

Darparu rhywbeth sydd gyfystyr a'r hyn a gollwyd. Yn nhermau bioamrywiaeth, gall iawndal fod yn fwy na'r cynefin gwreiddiol oherwydd yr oedi mewn amser, yn aml flynyddoedd, i'r cynefin a ddaw yn sgil yr iawndal gyrraedd maint/ ansawdd y cynefin gwreiddiol.

Isadeiledd

Mae isadeiledd yn cynnwys gwasanaethau fel ffyrdd, cyfleusterau cludiant, cyflenwad dwr, carffosiaeth a chyfleusterau trin d?r budr cysylltiedig, cyfleusterau rheoli gwastraff, cyflenwad ynni (trydan a nwy) a rhwydwaith dosbarthu ac isadeiledd telegyfathrebu. Mae isadeiledd medal yn cynnwys TG a thelathrebu.

Isadeiledd gwyrdd/ glas

Diffinnir isadeiledd gwyrdd/ glas fel rhwydwaith o nodweddion tir a d?r sy'n cefnogi rhywogaethau cynhenid, yn cynnal prosesau ecolegol naturiol, yn atal llifogydd, yn cynnal adnoddau aer a d?r, ac yn cyfrannu i iechyd a lles bywyd cymunedau lleol

Landlord Cymdeithasol Cofrestredig

Cymdeithasau, ymddiriedolwyr neu gwmnïau annibynnol ar gyfer darparu tai cymdeithasol cost isel i bobl mewn angen am dai heb wneud elw. Mae unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gynnal tai presennol ac i gynorthwyo i gyllido rhai newydd.

LANDMAP

LANDMAPyw'r system wybodaeth genedlaethol, a ddyfeisiwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru gynt, ar gyfer ystyried y dirwedd wrth wneud penderfyniadau.

Lles cynllunio

Y manteision neu'r mesurau diogelu, yn aml er budd y gymuned, a ddaw yn sgîl rhwymedigaeth gynllunio fel rhan o gymeradwyo cais cynllunio, a ddarperir ar draul y datblygwr fel arfer. Er enghraifft, tai fforddiadwy, cyfleusterau cymunedol neu fesurau lliniaru.

Lleiniau wedi eu gwasanaethu

Lleiniau o dir sydd gan y gwasanaethau angenrheidiol yn eu lle er mwyn hyrwyddo defnydd arall yn y dyfodol.

Llety Gofal Arbenigol

Llety sy'n darparu gofal ar gyfer rhai sydd ag anghenion cefnogol mewn sector penodol, e.e. gorddryswch.

Lliniaru

Mesurau i osgoi, leihau neu wrthbwyso effeithiau andwyol sylweddol.

Lwfans Llithriad

I ganiatáu elfen o ddewis, nifer llai o unedau na ragwelwyd ar safleoedd a ddynodwyd neu ohiriad yn natblygiad safleoedd penodol o fewn cyfnod y Cynllun cafodd lwfans llithriad o 10% ei gynnwys o ran y ffigwr tai cyfan.

Mabwysiadu

Cadarnhad terfynol o statws cynllun datblygu gan awdurdod cynllunio lleol.

Map cynigion

Rhan o'r Cynllun sy'n dangos lleoliad y cynigion ar sail map yr Arolwg Ordnans.

Micro gynhyrchu

Cynhyrchu gwres a/ neu b?er o ffynonellau o adnoddau carbon isel.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Y dull swyddogol a ddefnyddir i fesur amddifadedd mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Mae'n ddull cymharol o fesur crynoadau o amddifadedd ar lefel ardal fach. Mae'n ystyried materion megis incwm, tai, cyflogaeth, mynediad i wasanaethau, iechyd, yr amgylchedd, addysg a diogelwch cymunedol.

Natura 2000

Rhwydwaith o safleoedd a warchodir ar draws yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys ACA, AGA a safleoedd Ramsar.

Newid defnydd

Newid yn y ffordd mae tir neu adeiladau'n cael eu defnyddio. Mae angen caniatâd cynllunio fel arfer i newid o un 'dosbarth defnydd' i'r llall.

Newid yn yr hinsawdd

Newidiadau hirdymor i dymheredd, dyddodiad, y gwynt ac agweddau eraill ar hinsawdd y ddaear. Yn aml tybir bod y newidiadau hyn wedi'u hachosi gan weithgareddau dynol a defnyddio tanwydd ffosil.

Nodyn Cyngor Technegol

NCT

Dogfennau a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru i ategu Polisi Cynllunio Cymru, sy'n rhoi canllawiau technegol manwl i Awdurdodau Cynllunio Lleol ar faterion cynllunio penodol. Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol eu hystyried yn ystod y broses o baratoi'r cynllun datblygu.

Nwyddau cymhariaeth

Nwyddau i'w gwerthu nad yw'n fyrhoedlog sydd ar gael yn aml mewn ystod o feintiau, steil, lliwiau neu ansawdd, gan gynnwys dodrefn, carpedi, teledu, ayyb.

Nwyddau hwylus

Nwyddau i'w gwerthu sy'n cael eu prynu'n aml, sydyn a gyda chyn lleied o ymglymiad emosiynol; mae'r categori'n cynnwys melysion, sigarennau, cyffuriau presgripsiwn, cylchgronau, a'r rhan fwyaf o nwyddau siop groser.

Nwyddau swmpus

Math o nwyddau a brynir sydd yn fawr (er enghraifft DIY, dodrefn, carped) sydd weithiau angen lleoedd mawr i'w cadw neu eu dangos.

Ôl-ddefnydd

Y defnydd tir terfynol ar gyfer safleoedd mwynau neu wastraff.

Parciau a Gerddi Hanesyddol

Ystyrir bod y parciau a gerddi hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol ac maent ar y Gofrestr o Barciau a Gerddi o Bwysigrwydd Hanesyddol Arbennig yng Nghymru gan Cadw/ ICOMOS. Mae'r Gofrestr wedi cael ei roi at ei gilydd i gynorthwyo gyda'r gwaith gan berchnogion, datblygwyr, awdurdodau cynllunio lleol, cyrff statudol ac eraill yngl?n â hwy. Mae'n anstatudol ac mae o mewn chwe chyfrol.

Parth Chwilio a Ffafrir

Ardal o fewn Bangor sy'n cael ei adnabod fel yr ardal a ffafrir ar gyfer lleoli llety pwrpasol i fyfyrwyr.

Parth Menter

Ardal a ddynodwyd yn arbennig lle rhoddir nifer o fanteision a chymelldaliadau i fusnesau megis credydau'r dreth incwm, ad-daliadau ar y dreth gyfarpar a chredydau'r dreth eiddo. Yn y bôn, mae'r ardal fenter yn ddull o dargedu ardal ddaearyddol benodol ar gyfer adfywio economaidd. Mae creu ardal fenter yn annog buddsoddi ac yn hybu twf economaidd yn yr ardal honno

Parth rhagod mwynau

Ardaloedd gwarchod o gwmpas gwaith mwynau sydd gan ganiatâd a rhai arfaethedig a fyddai'n sensitif i effeithiau andwyol, gan gynnwys ardaloedd preswyl, ysbytai ac ysgolion ac fe ddylid eu gwrthsefyll.

Pentrefi Gwasanaeth

Mae ganddynt nifer o gyfleusterau a gwasanaethau lleol, sy'n cynnwys o leiaf un gwasanaeth neu gyfleuster allweddol. Maent yn amlwg yn gallu cwrdd â gofynion dydd i ddydd aelwydydd ynddynt ac yn eu hardaloedd.

Pentrefi Lleol/ Gwledig/ Arfordirol

Polisi Cynllunio Cymru

PCC

Cyhoeddir y polisi hwn gan Lywodraeth Cymru gan nodi ei pholisïau defnydd tir cenedlaethol o ran meysydd cynllunio gwahanol.

Prif Ardal Siopa (yn nhermau manwerthu)

Ardal o fewn y canol tref diffiniedig lle mae manwerthu a nifer y siopau ar ei fwyaf.

Prifion cyhoeddus

Gwasanaethau cyhoeddus: nwy, trydan, dwr, carffosiaeth, teleffon

Profion Cadernid

Cysyniad a ddefnyddir i asesu'r Cynllun o dan Adran 64(5)(b) o'r Ddeddf 2004.

Pyllau benthyg

Gwaith mwynau dros dro ar gyfer prosiect adeiladu penodol.

Rhaglen Ynys Ynni Môn

Mae Rhaglen Ynys Ynni Môn yn ymdrech ar y cyd gan sawl rhanddaliaid o fewn y sector cyhoeddus a phreifat sy'n gweithio mewn partneriaeth i roi Ynys Môn ar y blaen o ran ymchwil a datblygiad, a chynhyrchu a gwasanaethu ynni er mwyn cael tal economaidd arwyddocaol.

Rhagolygon poblogaeth ac aelwydydd

Rhagfynegi poblogaethau'r dyfodol ar sail y strwythur oedran-rhyw presennol, a'r cyfraddau ffrwythlondeb, marwolaethau ac ymfudo presennol.

Rhanddeiliaid

Unigolyn neu gr?p gyda diddordeb arbennig yn allbwn y Cynllun.

Rhwymedigaethau neu Gytundebau neu Gyfraniadau Cynllunio

Cytundebau cyfreithiol rhwng awdurdod cynllunio a datblygwr, neu rwymedigaethau unochrog a gynigir gan ddatblygwr, sy'n sicrhau y cyflawnir gwaith ychwanegol penodol sy'n ymwneud â datblygiad. Er enghraifft, adeiladu priffyrdd. Gelwir y rhain yn gytundebau "Adran 106" weithiau.

Rhybudd Dosbarth Defnydd

Rhybudd Cynllunio Tref a Gwlad (Dosbarth Defnydd) 1987 sy'n rhoi defnydd tir ac adeiladau i wahanol gategorïau. Ni does angen caniatâd cynllunio pob tro i newid defnydd o fewn yr un dosbarth defnydd.

Rhywogaethau a warchodir

Planhigion a rhywogaethau anifeiliaid sy'n cael eu gwarchod dan Ddeddfau a Rheoliadau penodol.

Safleoedd Bywyd Gwyllt

SBG

Safleoedd o bwysigrwydd lleol o ran cadwraeth natur a fabwysiadwyd gan awdurdodau lleol at ddibenion cynllunio. (Gweler Gwarchodfa Natur Leol hefyd).

Safle o Ddiddordeb Daearegol Rhanbarthol

Safle sydd ddim yn statudol o ddiddordeb daearegol neu geomorffolegol (yn elfennol yn gysylltiedig â cherrig, strwythur y Ddaear a thirffurf).

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

SoDdGA

Safle a nodwyd dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000) fel ardal o ddiddordeb arbennig oherwydd ei fflora, ffawna, nodweddion daearegol neu nodweddion ffisiograffigol.

Safle Eithrio

Safleoedd graddfa fach sydd du mewn i neu gyfochrog a ffin datblygu sy'n darparu 100% tai fforddiadwy. Bydd gan safleoedd eithrio alluogwyd y nifer lleiaf o dai marchnad agored sy'n gwneud cynnig yn hyfyw.

Safleoedd Ewropeaidd/ Rhyngwladol

Unrhyw safle sy'n cael ei ddynodi fel un o bwysigrwydd cadwraeth natur ryngwladol fel Safle Gwarchodaeth Arbennig (SGA), Safle Cadwraeth Arbennig (SCA) neu safle Ramsar.

Safle/ Tir cyflogaeth

Tir a ddefnyddir at ddibenion cyflogaeth gan un neu fwy o'r canlynol: swyddfeydd, gweithgynhyrchu, ymchwil a datblygu, storio a dosbarthu.

Safle/ Tir Llwyd

Tir lle saif strwythur parhaol (heb gynnwys adeiladau amaethyddiaeth neu goedwigaeth) a seilwaith cysylltiedig sefydlog ar yr arwyneb, neu dir lle bu strwythur o'r fath yn y gorffennol. Mae hyn yn cynnwys cwrtil datblygu, adeiladau amddiffyn neu dir a ddefnyddir ar gyfer mwyngloddio a gwaredu gwastraff lle ni wnaed darpariaeth ar gyfer adfer y tir.

Safle/ Tir gwyrdd

Tir nas datblygwyd yn flaenorol, sef tir ffermio, glaswelltir neu weundir fel arfer.

Safleoedd hap

Safle na chafodd ei ddynodi yn benodol ar gyfer ei ddatblygu mewn cynllun datblygu, ond a ddaw ar gael yn annisgwyl i'w ddatblygu yn ystod cyfnod cynllun. Cyfeirir at "safleoedd ar hap" yng nghyd-destun tai gan amlaf.

Safleoedd posib

Mae'r Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol (Llywodraeth Cymru 2006) yn argymell y dylai awdurdodau cynllunio lleol ymgysylltu â datblygwyr a thirfeddianwyr ar y cam casglu tystiolaeth o broses y Cynllun er mwyn cael gwybodaeth am safleoedd datblygu posibl y gellid eu cynnwys yn y cynllun. Yn unol â hynny, ym mis Tachwedd 2010 estynnodd y Cyngor wahoddiad ffurfiol i ddatblygwyr, tirfeddianwyr, asiantau, adrannau'r Cyngor ac eraill sydd â buddiant mewn tir i gyflwyno safleoedd i'w hystyried ar gyfer datblygu neu ailddefnyddio drwy'r Cynllun Datblygu Lleol, a hynny at amrywiaeth o ddefnyddiau gan gynnwys tai, cyflogaeth, manwerthu, hamdden, gwastraff, trafnidiaeth (e.e. safleoedd parcio a theithio), mannau agored a defnyddiau cymunedol eraill.

Safleoedd Ramsar

Safleoedd a ddynodwyd dan Gonfensiwn Ramsar i ddiogelu gwlypdiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol, yn enwedig fel cynefinoedd adar d?r.

Safle Treftadaeth y Byd

Safle sydd ar y rhestr sy'n cael ei gadw gan y Rhaglen Treftadaeth y Byd rhyngwladol a weinyddir gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO.

Sail tystiolaeth

Sef y wybodaeth a'r data a gasglwyd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau "cadernid" y dull polisi a nodwyd yn y CDLl, yn cynnwys nodweddion ffisegol, economaidd a chymdeithasol ardal.

Seilwaith

Mae seilwaith yn cynnwys gwasanaethau megis ffyrdd, cyfleusterau trafnidiaeth, cyflenwadau d?r, carthffosiaeth a chyfleusterau trin d?r gwastraff cysylltiedig, cyfleusterau rheoli gwastraff, cyflenwadau ynni (trydan a nwy), rhwydweithiau dosbarthu a seilwaith telathrebu. Mae seilwaith meddal yn cynnwys TGCh a thelathrebu.

Siapio lle

Proses dylunio sy'n anelu i greu cymunedau integredig ac yn seiliedig ar ardaloedd o ansawdd uchel, gwahanol, hygyrch a fydd yn cynorthwyo i greu naws am gymuned gref a hyrwyddo ffordd o fyw iach.

Sipsiwn a Theithwyr

Unigolion gyda ffordd grwydrol o fyw beth bynnag yw eu hil neu darddiad, gan gynnwys unigolion sydd ar sail eu hanghenion iechyd neu addysg neu henaint nhw eu hunain neu eu teulu wedi gorffen teithio dros dro neu'n barhaol, ond nad yw'n cynnwys aelodau gr?p trefnus o bobl sioe neu syrcas sy'n teithio gyda'i gilydd.

Strategaeth Cynnwys Cymunedau

Mae'r Cynllun hwn yn nodi sut mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu cynnwys cyrff ymgynghori a'r cyhoedd yn y broses o baratoi'r CDLl. Caiff y Cynllun Cynnwys Cymunedau ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo fel rhan o'r Cytundeb Cyflenwi

Strategaeth Gweithredu Cludiant

SGC

Ei angen o dan TAN18 'Cludiant' (LlC 2007) fel rhan o'r broses asesu trafnidiaeth i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol i asesu addasrwydd cais yn nhermau galw am deithio a'i ardrawiad. Fe ddylai'r SGC osod amcanion a thargedau o ran rheoli galw am deithio ar gyfer y datblygiad a rhoi'r isadeiledd, mesurau rheoli galw a'r cyfraniadau arian angenrheidiol i'w cyflawni. Fe ddylai'r SGC osod fframwaith ar gyfer monitro'r amcanion a'r targedau, gan gynnwys yr ymraniad dulliau teithio yn y dyfodol i'r safleoedd datblygu.

Sui-Generis

Term a roddir i ddefnydd tir neu adeiladau nad yw'n disgyn i mewn i unrhyw un o'r dosbarth defnydd sydd yn y Rhybudd Dosbarth Defnydd, er enghraifft theatrau, golchdai, llefydd gwerthu ceir a gorsafoedd petrol.

Systemau Draeniad Trefol Cynaliadwy

SUDS

System draeniad a ddatblygwyd yn unol ag egwyddorion datblygiad cynaliadwy sy'n rhoi sylw i faint, ansawdd a mwynderau.

Sylwadau

Sylwadau a wnaed o blaid y Cynllun Datblygu Lleol neu i'w wrthwynebu.

Tai fforddiadwy

Tai, p'un ai ar rent, perchenogaeth a rennir neu brynu'n gyfan gwbl, a ddarperir am gost yr ystyrir ei bod yn fforddiadwy mewn perthynas ag incwm cyfartalog neu incwm llai na chyfartalog, neu mewn perthynas â phrisiau tai ar y farchnad gyffredinol.

Tai mewn Amlfeddiannaeth

TAF

Nid yw deddfwriaeth cynllunio ddim yn diffinio amlfeddiannaeth na TAF fel y cyfryw ond dibynnir ar y cysyniad o "aelwyd unigol" a "theulu" er mwyn gwahaniaethu ar gyfer pwrpas defnydd tir.

Tai Teg

Cofrestr ydy Tai Teg ar gyfer pobl yng Ngwynedd ac Ynys Môn sydd â diddordeb mewn bod yn berchnogion tai ond na allant brynu ar y farchnad agored yn llwyr.

Tir sydd ar gael ar gyfer tai

Cyfanswm y tir a gedwir ar gyfer defnydd preswyl sydd ar gael i'w ddatblygu.

Tirwedd hanesyddol

Tirwedd o werth a phwysigrwydd hanesyddol cenedlaethol sydd wedi cael eu cynnwys ar y Gofrestr o Dirwedd o Bwysigrwydd Hanesyddol yng Nghymru gan Cadw/ Cyngor Cefn Gwlad Cymru/ ICOMOS. Mae mewn dwy gyfrol ac mae'n adnabod 58 tirwedd o bwysigrwydd hynod neu arbennig, sy'n cael eu cyfrif fel enghreifftiau gorau o'r math o dirwedd hanesyddol yng Nghymru.

Trafnidiaeth gynaliadwy

Mae hyn yn aml yn golygu cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (a 'rhannu ceir' mewn rhai amgylchiadau), y tybir eu bod yn llai niweidiol i'r amgylchedd ac yn achosi llai o dagfeydd traffig nag un person yn teithio mewn car.

Treftadaeth Ddiwylliannol

Yn berthnasol i arteffactau ffisegol ac i briodoleddau anghyffwrdd gr?p neu gymdeithas sy'n cael eu hetifeddu oddi ar genedlaethau'r gorffennol ac sy'n cael cadw er lles cenedlaethau'r dyfodol.

Tu allan i'r Canol

Yn nhermau cynllunio, lleoliad sydd yn amlwg ar wahân i'r brif ardal siopa mewn canol tref ond nad yw o reidrwydd du allan i ffin ganol tref.

Tu allan i'r dref

Yn nhermau manwerthu, lleoliad sydd du allan i'r canol sy'n dir nad yw du mewn i ffin gyfredol canol tref.

Ty Menter Wledig

Mae mentrau gwledig perthnasol yn cynnwys busnesau gyda chysylltiad â'r tir gan gynnwys ffermio, coedwigaeth a gweithgareddau eraill sy'n derbyn eu prif gyfraniad o'r safle.

Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol

Mudiad ddim er elw a redir gan bobl leol i ddatblygu tai ac asedau eraill ar lefel fforddiadwy parhaol er lles cymunedol tymor hir. Mae'n endid cyfansoddiadol, cyfreithiol gyda'r gallu i gadw a rheoli asedau, ac fe'u diffinnir mewn deddfwriaeth.

Ymgynghoriad

Proses ffurfiol lle gwahoddir sylwadau ar bwnc penodol, cyfres o bynciau penodol neu ddogfen ddrafft.

Ymrwymiad

Yr holl dir sydd â chaniatâd cynllunio cyfredol ar gyfer datblygiad (yn enwedig datblygiad preswyl).

Y Bennod Ddiwethaf ||
Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult