Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Y Bennod Ddiwethaf || Y Bennod Nesaf

Crynodeb Gweithredol

Cyflwyniad

Gweld y Sylwadau (3) 1.1 Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd (y Cynghorau) baratoi cynlluniau datblygu lleol. Penderfynodd y Cynghorau weithio gyda'i gilydd i baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd (y Cynllun). Mae'r Cynllun hwn yn gosod y fframwaith polisi cynllunio defnydd tir dros gyfnod o 15 mlynedd (2011-2026). Mae'n cynnwys ardaloedd Awdurdod Cynllunio Lleol Ynys Môn a Gwynedd (ardal y Cynllun) - gweler map 1 ym Mhennod 2.

Gweld y Sylwadau (4) 1.2 Unwaith y bydd y Cynllun wedi cael ei fabwysiadu, bydd yn darparu'r man cychwyn ar gyfer yr amser y bydd Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd (y Cynghorau) yn ystyried ceisiadau cynllunio. Noda'r Cynllun sut y bydd y Cynghorau'n darparu ar gyfer cartrefi, swyddi, yr amgylchedd, a seilwaith. Fel ciplun, noda'r Cynllun:

  • Sut y bydd y cynghorau'n cefnogi trefi, pentrefi a chlystyrau o dai trwy ddosbarthu datblygiad;
  • Sut y bydd y cynghorau'n ceisio hyrwyddo datblygiad sy'n ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy;
  • Sut y bydd y cynghorau'n lliniaru ac yn addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd;
  • Sut y bydd y cynghorau'n hybu twf economaidd, cyflogaeth a menter;
  • Sut y bydd y cynghorau'n hybu potensial twristiaeth ardal y Cynllun;
  • Sut y bydd y cynghorau'n sicrhau bod canol ein trefi yn cael eu cadw'n hyfyw;
  • Faint o dir mae'r Cynghorau'n ei ystyried sydd ei angen i ddiwallu anghenion datblygu cyflogaeth h.y. busnesau newydd ac ehangu busnesau presennol, gan gynnwys y gofynion sy'n gysylltiedig ag adeiladu Wylfa Newydd;
  • Faint o gartrefi y mae'r Cynghorau'n ei ystyried sydd eu hangen i gwrdd ag anghenion ardal y Cynllun, dros gyfnod y Cynllun 2011 - 2026;
  • Faint o gartrefi fforddiadwy y mae'r Cynghorau'n ei ystyried y gellir eu cyflawni drwy gymhwyso'r polisïau tai fforddiadwy a gynhwysir yn y Cynllun;
  • Sut y bydd y cynghorau'n delio â gwneud darpariaeth ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr;
  • Sut y bydd y cynghorau'n gwarchod a gwella amgylcheddau naturiol a hanesyddol sy'n gwneud ardal y Cynllun mor arbennig.

Gweld y Sylwadau (3) 1.3 Mae'r Cynllun wedi mynd drwy gylchoedd blaenorol o ymgysylltu ac ymgynghori â'r cyhoedd a thrwy gydol y broses mae wedi cael ei addasu yn seiliedig ar sylwadau a thystiolaeth gefndirol ac asesiadau a baratowyd er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn 'gadarn'.

Y Broses o Baratoi'r Cynllun

Gweld y Sylwadau (1) 1.4 Mae'r ffigwr nesaf yn amlinellu'r broses o baratoi'r Cynllun:

Ffigwr 1: Y Broses o Baratoi'r Cynllun

(Darluniad yn unig)

Beth sy'n digwydd yn awr?

Gweld y Sylwadau (1) 1.5 Mae'r Cynghorau yn ceisio eich barn ar gadernid y Cynllun Adnau. Dyma ddrafft llawn o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

No Comments 1.6 Mae'r Cynllun Adnau yn cynnwys dwy ddogfen, a fydd gyda'i gilydd yn rhoi'r fframwaith ar gyfer rheoli datblygiad ac ymdrin â'r prif faterion cynllunio yn ardal y Cynllun hyd at 2026. Mae'r ymgynghoriad hwn ar y canlynol:

i. Datganiad Ysgrifenedig - prif ddogfen y Cynllun Adnau, sy'n nodi faint a pha fath o ddatblygiad fydd yn digwydd mewn gwahanol drefi, pentrefi a chlystyrau, yn ogystal â darparu polisïau cynllunio strategol a manwl a fydd yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

ii. Dogfennau Mapiau Cynigion - dynodi safleoedd penodol ar gyfer datblygu (e.e. tai, manwerthu, neu gyflogaeth) neu warchod (e.e. man agored) a fydd yn helpu i gyflawni'r polisïau yn y Datganiad Ysgrifenedig. Mae pob safle yn cael ei ddangos ar Fapiau Cynigion Cyffredinol neu ar Fapiau Mewnosod. Mae'r Map Cyfyngiadau ar lein yn dangos lleoliad ddaearyddol ac ystod ardaloedd dynodedig sy'n bodoli o dan ddeddfwriaeth neu brosesau du allan i broses cynllun datblygu (e.e. Ardaloedd Harddwch Naturiol Eithriadol).

No Comments 1.7 Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn ac ystyriaeth o'r sylwadau, bydd y Cynllun yn cael ei gwblhau a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol. Os yw'r Arolygydd Cynllunio yn canfod bod y Cynllun yn 'gadarn' yna gall y Cyngor ei fabwysiadu a bydd yn cael ei ddefnyddio i helpu penderfynu ar geisiadau cynllunio.

Sut i wneud sylwadau

No Comments 1.8 Bwriad y crynodeb gweithredol yw rhoi trosolwg i chi o'r polisïau sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun. Fodd bynnag, er mwyn i'ch sylwadau gael eu derbyn, rhaid i chi eu cysylltu â'r ddogfen Cynllun llawn.

Gweld y Sylwadau (1) 1.9 Ar y cam hwn mae'n bwysig iawn bod sylwadau:

i. wedi'u nodi'n glir;
ii. yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth;
iii. yn nodi pam nad yw'r Cynllun Adnau yn 'gadarn'.

No Comments 1.10 Os gwelwch yn dda, sicrhewch fod eich sylwadau yn cael eu cyflwyno trwy naill ai'r porth ymgynghori ar-lein neu ffurflen sylwadau Cynllun Adnau erbyn 5pm ar 31ain Mawrth 2015.

Gweld y Sylwadau (1) 1.11 Rhaid i chi lenwi ffurflen sylwadau ar wahân ar gyfer pob sylw ar wahân.

No Comments 1.12 Ni fydd unrhyw sylwadau a gyflwynwyd mewn fformat gwahanol neu a dderbynnir ar ôl y cyfnod ymgynghori yn cael eu hystyried.

Gweld y Sylwadau (3) 1.13 Gallwch wneud sylwadau naill ai ar-lein, trwy e-bost neu drwy'r post. Y ffordd gyflymaf i anfon sylwadau yw defnyddio ein porth ymgynghori ar-lein.

No Comments 1.14 Os ydych yn credu y dylid gwneud newid i'r Cynllun, dylech wneud yn glir yn benodol beth ddylai'r newid hwn fod, gan ystyried y materion cadernid. Dylech gefnogi eich sylwadau gyda thystiolaeth sy'n dangos pam y dylai'r Cynllun gael ei newid. Byddai'n ddefnyddiol petaech hefyd yn dweud mor fanwl ag y bo modd sut y credwch y dylai'r Cynllun gael ei newid.

No Comments 1.15 Gallwch awgrymu safleoedd neu ffiniau amgen ar gyfer ystyriaeth ('cynrychiolaeth dyraniad safle'). Byddai angen i'r rhain gyd-fynd â'r strategaeth arfaethedig yn y Cynllun a bod wedi'u profi gennych trwy ddefnyddio'r Arfarniad o Gynaliadwyedd.

No Comments 1.16 Bydd y Cynghorau'n ystyried pob un o'r sylwadau a dderbynnir trwy'r porth ymgynghori ar-lein neu ar ffurflen sylwadau Cynllun Adnau. Caiff eich sylwadau eu trosglwyddo i'r Arolygydd i'w hystyried yn yr Archwiliad i'w alluogi i wneud penderfyniad ynghylch p'un a yw'r Cynllun yn 'gadarn'.

Beth yw 'cadernid'?

Gweld y Sylwadau (2) 1.17 Mae'r Archwiliad yn sicrhau bod y Cynllun yn seiliedig ar wybodaeth a meddylfryd gadarn, a bod barn y rhai sydd â phryderon ynghylch y Cynllun wedi cael eu hystyried. Mae 10 o feini prawf ar gyfer asesu cadernid, sy'n perthyn i dri chategori: gweithdrefnol, cysondeb, cydlyniad ac effeithiolrwydd. Y rhain yw:

Profion Gweithdrefnol
P1: mae wedi ei baratoi yn unol â'r Cytundeb Cyflenwi gan gynnwys y Strategaeth Cynnwys Cymunedau


P2: mae'r cynllun a'i bolisïau wedi bod yn destun arfarniad o gynaliadwyedd gan gynnwys asesiad amgylcheddol strategol

Profion Cysondeb
C1: mae'n gynllun defnydd tir sydd wedi ystyried cynlluniau, polisïau a strategaethau perthnasol eraill sy'n ymwneud â'r ardal neu ag ardaloedd cyfagos


C2: mae'n ystyried polisi cenedlaethol

C3: mae'n ystyried Cynllun Gofodol Cymru

C4: mae'n ystyried y strategaeth/au cymunedol perthnasol

Profion Cydlyniad ac Effeithiolrwydd
CE1: mae'r cynllun yn nodi strategaeth gydlynol y mae ei bolisïau a'i ddyraniadau yn deillio'n rhesymol ohoni a lle bo materion trawsffiniol yn berthnasol, mae'n gydnaws â'r cynlluniau datblygu a baratowyd gan awdurdodau cyfagos

CE2: mae'r strategaeth, y polisïau a'r dyraniadau yn realistig ac yn briodol ac maent wedi ystyried y dewisiadau amgen perthnasol ac yn seiliedig ar sylfaen dystiolaeth gadarn

CE3: mae mecanweithiau clir ar gyfer gweithredu a monitro

CE4: mae'n rhesymol hyblyg i'w alluogi i ddelio ag amgylchiadau sy'n newid

Lle i weld y Cynllun a gwenud sylwadau

No Comments 1.18 Dyma'r restr o lefydd lle gallwch weld y Cynllun:

  1. Dewch draw i ddigwyddiad ymgynghoriad y Cynllun i gael gwybod mwy a llenwi ffurflen sylwadau;
  2. Ewch i www.gwynedd.gov.uk/cdll neu www.anglesey.gov.uk/cdll i weld y Cynllun a defnyddio'r porth ymgynghori ar-lein i wneud sylwadau neu lenwi ffurflen
  3. Ewch i'ch llyfrgell gyhoeddus leol yng Ngwynedd neu Ynys Môn; Siop Gwynedd (Caernarfon, Dolgellau, Pwllheli); Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (Llawr 1af Swyddfeydd Cyngor Dinas Bangor, Ffordd Gwynedd, Bangor LL57 1DT); Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn, Adran Gynllunio, Llangefni i weld y Cynllun a chael ffurflen sylwadau.

No Comments 1.19 Gellir cael copïau caled ar gais am ffi (ar gyfer costau argraffu a phostio), ac mae CDs ar gael yn rhad ac am ddim.

Y Datganiad Ysgrifenedig

Gweld y Sylwadau (1) 1.20 Mae'r Datganiad Ysgrifenedig yn nodi'r prif faterion yn ardal y Cynllun y gall y system cynllunio defnydd tir ddylanwadu arnynt. Er enghraifft, mae'n nodi bod angen cartrefi newydd i fodloni gofynion boblogaeth leol sy'n tyfu; bod angen tai fforddiadwy ar gyfer y rhai na allant fforddio prynu neu rentu cartref ar y farchnad agored; bod preswylwyr angen mynediad da at wasanaethau a chyfleusterau; bod angen cefnogi ac annog twf busnesau mewn trefi a phentrefi yn ogystal ag yn y cefn gwlad mewn ymateb i gyfleoedd sy'n gysylltiedig ag adeiladu Wylfa Newydd, yn ogystal â sectorau eraill a all ffynnu yn ardal y Cynllun; bod angen hwyluso datblygiadau a fydd yn cyfrannu at gynnal a chryfhau'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig; a'i bod yn bwysig gwarchod tirwedd o ansawdd uchel yr ardal y Cynllun.

No Comments 1.21 Mae hefyd yn nodi Gweledigaeth ar gyfer sut y bydd ardal y Cynllun yn edrych erbyn 2026 ac mae'n cynnwys datganiadau o le sy'n amlinellu sut y bydd y trefi mwyaf yn ardal y Cynllun wedi newid, yn ogystal â'r trefi a'r pentrefi ategol. O'r Weledigaeth, mae'r Cynllun yn nodi cyfres o Amcanion Strategol o dan 5 o Themâu, sy'n helpu darparu cyfeiriad i'r gyfres o Bolisïau Strategol a Manwl. Bydd y Polisïau hyn yn cael eu defnyddio i lywio datblygiad newydd a phenderfynu ar geisiadau cynllunio. Gweler y polisïau ym Mhennod 7 y ddogfen.

Y Ddogfen Mapiau Cynigion

Gweld y Sylwadau (1) 1.22 Ail ran y Cynllun yw'r Ddogfen Mapiau Cynigion, a gynhwysir dros ddwy gyfrol. Mae un yn cwmpasu Ynys Môn, tra bod yr ail yn cwmpasu ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd. Mae'r ddogfen hon yn dangos (trwy ddynodiadau neu bolisi ddiogelu) safleoedd yr ydym yn eu cynnig neu eu diogelu ar gyfer datblygu yn y dyfodol, a safleoedd y dylid eu gwarchod rhag cael eu datblygu. Defnyddir Mapiau Mewnosod i ddarparu mwy o fanylion ar lefel anheddle. Nid oes unrhyw ddyraniadau tai yn cael eu cynnig yn y Pentrefi Lleol/Gwledig/Arfordirol a Chlystyrau, ond paratowyd Map wedi'i Fewnosod ar gyfer pob un i ddangos y terfyn datblygiad arfaethedig, gan ddefnyddio ffin ddatblygu neu drwy dynnu sylw at graidd pob Clwstwr.

No Comments 1.23 Mae pob safle a ddyrennir ar gyfer tai wedi cael ei asesu yn erbyn Asesiad Methodoleg Safle i ganfod a allai'r safle fod yn addas ar gyfer datblygu, ynteu a oes unrhyw gyfyngiadau i ddatblygiad (megis perygl llifogydd). Mae'r Fethodoleg yn cynnwys cyfres o gwestiynau sy'n cwmpasu pynciau megis perygl llifogydd, cymeriad y dirwedd, capasiti'r seilwaith ac ystyriaethau bioamrywiaeth. Mae'r Fethodoleg wedi'i halinio â'r Fframwaith Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Effaith Iaith Gymraeg y Cynllun. Golyga'r asesiadau safle hyn bod y safleoedd mwyaf cynaliadwy mewn anheddle wedi'u nodi ar gyfer eu dyrannu. Ceir copïau o'r asesiadau a'r Methodolegau ar wefannau'r Cynghorau.

No Comments 1.24 Mae'r Mapiau Mewnosod hefyd yn adnabod y ffiniau datblygu a dynodiadau eraill, megis safleoedd cyflogaeth, canol trefi, ardaloedd siopa, a allai fod yn berthnasol wrth ystyried cynigion newydd yn y Ganolfan Isranbarthol, Canolfannau Gwasanaethau Trefol, Canolfannau Gwasanaeth Lleol, Pentrefi Gwasanaethau, Pentrefi Lleol/Gwledig/Arfordirol a Chlystyrau.

No Comments 1.25 Dynodiadau eraill a welir ar-lein yw'r Mapiau Cyfyngiadau. Dengys y Mapiau Cyfyngiadau leoliad daearyddol a maint y cyfyngiadau ar ddatblygiad a grëir gan ddeddfwriaeth neu broses y tu allan i'r cynllun. Er enghraifft, mae'n nodi Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd mewn perygl o lifogydd. Mae'r Mapiau Cyfyngiadau yn casglu gwybodaeth sy'n bodoli eisoes mewn dogfennau a/neu wefannau eraill a gellir eu diweddaru'n hawdd.

Y Strategaeth Ofodol

Gweld y Sylwadau (6) 1.26 Mae'r Strategaeth Ofodol yn amlinellu'r Goeden Aneddleoedd, sy'n rhestru'r trefi, pentrefi a'r clystyrau hynny lle bydd y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd yn digwydd. Mae'r polisïau hefyd yn caniatáu ar gyfer datblygiad cyfyngedig yn y cefn gwlad. Gweler yr Hierarchaeth Aneddleoedd yn y tabl canlynol:

Tabl 1: Y Goeden Aneddleoedd

CATEGORI

PA ANEDDLEOEDD

(yn nhrefn y wyddor)

SWYDDOGAETH

Canolfan Isranbarthol

Bangor

Mae gan y ddinas rôl is-ranbarthol, is-sirol a rôl leol. Mae'n cyflawni rôl drawsffiniol a rôl leol o ran cyfleoedd cyflogaeth, addysg, iechyd a hamdden. Mae'n ganolfan fanwerthu nid yn unig i'w phoblogaeth ei hun ond hefyd yr ardal ehangach.

Canolfan Gwasanaethol Trefol

Amlwch, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Caergybi, Llangefni, Porthmadog a Phwllheli

Mae gan y rhain rôl is-sirol ran darparu ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau ar gyfer eu poblogaeth eu hunain a rhannau o'r siroedd. Mae gan rai, h.y. Caergybi, Llangefni a Chaernarfon, hefyd swyddogaeth ar gyfer eu siroedd.

Canolfan Gwasanaethau Lleol

Abersoch, Abermaw, Bethesda, Biwmares, Benllech, Bodedern, Cemaes, Criccieth, Gaerwen, Llanberis, Llanfairpwll, Llanrug, Porthaethwy, Nefyn, Penrhyndeudraeth, Penygroes, Pentraeth, Rhosneigr, Tywyn, Y Fali.

Mae'r rhain yn cael eu cydnabod fel canolfannau ar gyfer cyfleusterau a gwasanaethau sy'n diwallu anghenion eu poblogaethau eu hunain a'u dalgylchoedd uniongyrchol. Mae ganddynt rywfaint o gyfleoedd cyflogaeth a manwerthu a chysylltiadau da iawn gyda naill ai Ganolfan Gwasanaethau Trefol neu'r Ganolfan Isranbarthol, p'un bynnag sydd agosaf.

Pentrefi Gwasanaethol

Bethel, Bontnewydd, Botwnnog, Chwilog, Deiniolen, Gwalchmai, Llannerch-y-medd, Niwbwrch, Rachub, Tremadog, Y Ffôr.

Maent yn cynnwys nifer o gyfleusterau a gwasanaethau lleol, gan gynnwys o leiaf un gwasanaeth neu gyfleuster allweddol. Yn amlwg maent yn gallu cwrdd ag anghenion bob dydd yr aelwydydd sydd oddi mewn iddynt ac yn eu hardal.

Pentrefi Lleol/Gwledig/Arfordirol

Rhy niferus i'w rhestru yma - gweler y rhestr ar ddechrau Atodiad 3 y Cynllun

Yn gyffredinol, mae llai o wasanaethau a chyfleusterau'n cael eu cynnig ynddynt, sy'n golygu eu bod â llai o ddylanwad. Mae rhai Pentrefi Arfordirol â nifer gymharol fwy o wasanaethau a chyfleusterau, ond golyga bodolaeth cyfran uwch o dai haf neu ail gartrefi bod angen rheoli newid pellach ynddynt.

Clystyrau

Rhy niferus i'w rhestru yma - gweler y rhestr ar ddechrau Atodiad 3 y Cynllun

Aneddleoedd gydag o leiaf 10 o unedau tai mewn gr?p sydd wedi'u gosod yn ddigon agos at ei gilydd fel y gellir eu diffinio'n hawdd, a gyda chysylltiadau at aneddleoedd uwch i fyny'r hierarchaeth aneddleoedd.

Cefn gwlad

Yn cynnwys bob ardal tu allan i ffiniau datblygu'r aneddleoedd a ffurf adeiledig y clystyrau a restrir uchod.

Yn gyffredinol, ceir dull mwy cynnil tuag at ddatblygu yn y cefn gwlad, er y bydd rhai mathau o ddatblygiad yn dal i gael eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys: addasu adeiladau ar gyfer datblygu economaidd, twristiaeth, defnydd cymunedol neu ddefnydd preswyl; anheddau yn lle rhai sy'n bodoli eisoes; tai fforddiadwy i bobl leol yn gyfagos at ffiniau datblygu; gweithgareddau amaethyddol a gwledig; seilwaith hanfodol; datblygiadau ynni a chynigion ar gyfer chwaraeon, hamdden, cyfleusterau cymunedol a chyfleusterau twristiaeth.

Gweld y Sylwadau (5) 1.27 Mae polisi ar ddatblygiad tai yn nodi'r gofyniad i hwyluso darparu 7,184 o gartrefi newydd erbyn 2026. Ychwanegwyd lwfans llithriad o 10% i ddelio ag amgylchiadau annisgwyl. O'r rhain, un ai adeiladwyd tua 50% ers 2011 neu mae ganddynt eisoes ganiatâd cynllunio (Ebrill 2014), sy'n golygu y byddai angen darparu 3,907 o gartrefi newydd ychwanegol drwy'r Cynllun. Bydd hyn yn cael ei ddiwallu'n bennaf trwy ddyrannu safleoedd ar gyfer tai, safleoedd ar hap a stoc adeiladau presennol yn yr aneddleoedd hynny a nodwyd yn yr Hierarchaeth Aneddleoedd uchod (ac eithrio Pentrefi Lleol/Gwledig/Arfordirol a Chlystyrau). Yn ogystal, ychwanegwyd lwfans er mwyn cydnabod y bydd datblygiadau preswyl ar raddfa fechan yn digwydd yn y Pentrefi Lleol/Gwledig/Arfordirol, Clystyrau a chefn gwlad trwy ddefnyddio safleoedd ar hap a stoc adeiladau presennol.

Gweld y Sylwadau (2) 1.28 Bwriedir dosbarthu'r gofyniad tai fel y nodir yn y tabl isod:

Tabl 2: Dosbarthiad Bras o Dai

Math o Aneddle Nifer yr Aneddleoedd Canran y Twf Nifer yr Unedau

Canolfan Isranbarthol & Chanolfannau Gwasanaethau Trefol

8

hyd at 55%

4,346

Canolfannau Gwasanaethau Lleol

20

o leiaf 20%

1,580

Pentrefi

87

dim mwy na 25%

1,502

Clystyrau

112

224

Cefn Gwlad Agored

-

250

No Comments 1.29 Dengys adran 7.4 o'r Cynllun hwn beth fydd hyn yn ei olygu i ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Sir Ynys Môn ac ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd, ar wahân.

No Comments 1.30 Mae polisi ar dir cyflogaeth yn nodi'r angen i ddiogelu a neilltuo o leiaf 800ha o dir cyflogaeth ar barciau diwydiannol neu fusnes i gwrdd ag anghenion busnesau yn y dyfodol.

No Comments 1.31 Mewn perthynas â datblygiad manwerthu, cynigir y bydd y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd yn digwydd yn y canol trefi diffiniedig yn yr aneddleoedd canlynol: Bangor, Caernarfon, Porthmadog, Pwllheli, Abersoch, Abermaw, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Criccieth, Llanberis, Nefyn, Penrhyndeudraeth, Penygroes, Tywyn, Caergybi, Llangefni, Amlwch, Benllech, Biwmares, Cemaes, Llanfairpwll, Porthaethwy, Rhosneigr, Y Fali.

Polisiau Rheoli Twf a Datblygiad

Gweld y Sylwadau (5) 1.32 Mae adran Polisïau Rheoli Twf a Datblygiad (Pennod 7) y Cynllun yn cynnwys nifer o bolisïau cynllunio strategol a manwl sy'n bwysig i holl ardal y Cynllun. Ceir ciplun o'r polisïau hyn yn y tabl canlynol:

Tabl 3: Cipolwg ar bolisïau rheoli datblygu

Cymunedau Diogel, Iach, Unigryw a Hyfyw

Diogelu a gwella'r iaith Gymraeg - trwy greu'r amgylchiadau iawn a fydd yn cyfrannu at gynnal a chreu cymunedau Cymraeg eu hiaith, e.e. hwyluso cymysgedd o dai (deiliadaeth a math), cyfleoedd cyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol.
Darparu seilwaith a chyfleusterau - trwy gefnogi ceisiadau sy'n gwella ansawdd ac ystod y gwasanaethau a chyfleusterau. Rhaid i ddatblygiadau newydd gynnwys unrhyw seilwaith a chyfleusterau angenrheidiol (megis ysgolion neu welliannau ffyrdd). Gwneir cais am gyfraniadau gan ddatblygwyr i gwrdd â'r angen am seilwaith neu gyfleusterau newydd.
Cefnogi gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol - trwy warchod cyfleusterau presennol (megis tafarndai a siopau pentref). Dim ond mewn amgylchiadau penodol y caniateir colli cyfleusterau (e.e. fel rhan o gais ehangach i wella darpariaeth gwasanaeth; nid oes ei angen). Cefnogir ceisiadau am wasanaethau a chyfleusterau cymunedol newydd neu well.
Darparu mannau agored cyhoeddus ar gyfer hamdden ac adloniant - trwy gynnal a gwella ansawdd, maint a hygyrchedd mannau agored. Nodir safonau a fydd yn sicrhau bod datblygiad newydd yn cael ei wasanaethu gan nifer ac ansawdd priodol o fannau agored. Dim ond mewn rhai amgylchiadau penodol y caniateir colli mannau agored presennol (e.e. nid oes eu hangen).
Gwella cludiant cynaliadwy - trwy leihau tagfeydd, gwella diogelwch a gwneud mwy o ddefnydd o gerdded, beicio a rhwydweithiau cludiant cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar gyfer darparu llefydd parcio mewn datblygiadau.

Byw'n Gynaliadwy

Egwyddorion datblygu cynaliadwy - trwy sicrhau bod datblygiad newydd yn gyson ag egwyddorion datblygiad cynaliadwy a pholisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol.
Integreiddio dylunio o ansawdd uchel - trwy ddiogelu a pharchu cymeriad amrywiol a golwg yr ardal trwy ddylunio, cynllunio, adeiladu a defnyddio datblygiadau newydd. Yn ogystal, bydd ceisiadau yn ceisio lleihau allyriadau carbon ac yn ymgorffori cymeriad lleol drwy eu dyluniad.
Rheoli peryglon amgylcheddol - trwy sicrhau bod datblygiad newydd yn cael ei gyfeirio at ardaloedd lle mae perygl llifogydd ar ei isaf, yn ogystal â chyfyngu d?r wyneb ffo ac ymgorffori systemau draenio cynaliadwy. Bydd y mathau o ddatblygiad sy'n dderbyniol mewn ardaloedd ger yr arfordir yn gyfyngedig.
Cefnogi'r sector ynni - trwy gefnogi datblygiad (e.e. niwclear, biomas, p?er solar a datblygiadau gwynt) lle mae unrhyw effeithiau andwyol sylweddol wedi cael eu hosgoi (e.e. s?n, ansawdd aer, traffig ac effaith weledol).Cefnogi'r sector ynni - trwy gefnogi datblygiad (e.e. niwclear, biomas, p?er solar a datblygiadau gwynt) lle mae unrhyw effeithiau andwyol sylweddol wedi cael eu hosgoi (e.e. s?n, ansawdd aer, traffig ac effaith weledol).
Gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o dir - trwy annog datblygiad dwysedd uwch lle mae gan y safle fynediad da at wasanaethau a chyfleusterau a chysylltiadau cludiant cyhoeddus. Cyfiawnheir dwysedd is mewn rhai mannau (e.e. lle mae'n cynnal cymeriad yr ardal).

Economi ac Adfywio

Cefnogi trawsnewid economi ardal y Cynllun - trwy amddiffyn rhwydwaith o safleoedd, dyraniadau neu adeiladau cyflogaeth sy'n bodoli eisoes; trwy ddarparu elfen o hyblygrwydd i fodloni'r gofyniad am leoliad penodol na ellir ei letya ar stad ddiwydiannol neu barc busnes a ddiogelwyd neu a ddyrannwyd. Cefnogir datblygiad sy'n darparu swyddi ar safleoedd priodol o fewn Canolfannau a Phentrefi.
Annog twf ac arallgyfeirio yn yr economi wledig - trwy gefnogi datblygiadau cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig pan fo ar raddfa briodol sy'n parchu cymeriad y dirwedd o gwmpas. Bydd datblygiad yn cael ei gyfeirio at safleoedd cyflogaeth presennol, yn cynnwys ailddefnyddio adeiladau sy'n bodoli eisoes, yn ffurfio rhan o gynllun arallgyfeirio fferm, neu sydd angen bod mewn lleoliad penodol.
Datblygu ac arallgyfeirio'r economi ymwelwyr - trwy gefnogi datblygiadau (atyniadau, cyfleusterau a llety twristiaeth) sy'n cryfhau ac yn ehangu'r cynnig twristiaeth ar draws ardal y Cynllun. Dylai ceisiadau yn y cefn gwlad fod ar raddfa briodol.
Cefnogi bywiogrwydd a hyfywedd canolfannau - trwy gyfeirio manwerthu a defnyddiau canol y dref eraill i safleoedd o fewn canol trefi diffiniedig. Mewn mannau eraill, diogelir siopau lle maent yn bwysig i anghenion bob dydd cymunedau lleol, oni bai bod ystyriaethau cynllunio perthnasol yn nodi fel arall.

Cyflenwad ac Ansawdd Tai

Creu cymysgedd o dai - trwy sicrhau bod datblygiadau preswyl newydd yn darparu'r maint a math o dai sydd eu hangen mewn ardal, gan gynnwys ar gyfer yr henoed (e.e. trwy ddarparu llety arbenigol), aelwydydd sydd angen cartref am y tro cyntaf, ac aelwydydd sydd angen cartref mewn ardal a ddisgrifir fel 'man poeth' o ran y farchnad dai.
Darparu tai fforddiadwy - trwy ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau tai dros drothwyon penodol o ran y nifer o unedau tai gynnwys cyfran o dai fforddiadwy. Mae'r gyfran leiaf o dai fyddai angen fod yn fforddiadwy yn amrywio o 15% i 25%, yn dibynnu ar hyfywedd datblygiadau mewn ardal benodol. Dim ond tai fforddiadwy newydd fydd yn cael eu cefnogi yn y Clystyrau. Bydd 100% o dai fforddiadwy newydd yn cael eu cefnogi lle mae'n diwallu angen a nodwyd a phan fo wedi'i leoli ar gyrion Canolfan neu Bentref, oni bai, mewn amgylchiadau eithriadol, y gellir dangos bod angen isafswm o dai marchnad agored i wella hyfywedd y safle.
Diogelu'r stoc dai bresennol - drwy hyrwyddo mathau eraill o lety a fydd yn bodloni gofynion trigolion dros dro, e.e. nifer fawr o weithwyr adeiladu, myfyrwyr.
Darparu ar gyfer anghenion Sipsiwn a Theithwyr - trwy ddiogelu safleoedd presennol a gweithio i ddynodi tir i gwrdd â'r angen am 10 o leiniau parhaol newydd i Sipsiwn a Theithwyr yn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd ac 11 o leiniau parhaol newydd yn Ynys Môn mewn lleoliadau lle mae mynediad rhesymol at siopau, gwasanaethau a chyfleusterau at gludiant cyhoeddus, ar droed neu ar feic. Yn ogystal, bydd y Cyngor hefyd yn dynodi tir i gwrdd â'r angen am leiniau a fydd yn caniatáu i Sipsiwn a Theithwyr aros yn ardal y Cynllun am gyfnod byr o amser wrth iddynt deithio drwy'r ardal.

Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig

Hyrwyddo tirwedd o safon uchel - trwy integreiddio datblygiad newydd i mewn i'r dirwedd bresennol (e.e. gwarchod llecynnau agored, gwrychoedd a choed). Mae tirweddau pwysig, fel Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Ardaloedd Gwarchod Tirwedd amrywiol, yn cael eu cydnabod ac fe ddylai cynigion barchu a chyfoethogi cymeriad yr ardaloedd yma yn unol â deddfwriaeth a pholisïau cynllunio cenedlaethol a lleol perthnasol.
Gwerthfawrogi ein treftadaeth - trwy ddefnyddio asedau treftadaeth (fel Adeiladau Rhestredig) mewn ffordd briodol, hyfyw a chynaliadwy. Yn ychwanegol, bydd golygfeydd, gosodiad ac edrychiad asedau treftadaeth (e.e. Ardaloedd Cadwraeth, Adeiladau Rhestredig, Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig a Safleoedd Treftadaeth y Byd) yn cael eu gwarchod trwy gymhwyso deddfwriaeth a pholisïau cynllunio cenedlaethol a lleol perthnasol.
Cyfoethogi bioamrywiaeth a daearyddiaeth - trwy warchod safleoedd dynodedig (e.e. Safleoedd o Werth Gwyddonol Arbennig a Safleoedd Bywyd Gwyllt lleol) trwy gymhwyso deddfwriaeth a pholisïau cynllunio cenedlaethol a lleol perthnasol.
Cefnogi rhwydwaith o gyfleusterau rheoli gwastraff - trwy warchod safleoedd presennol a hyrwyddo rhai newydd os yn briodol.
Gwarchod asedau mwynau - trwy warchod dyddodion mwynau pwysig rhag mathau o ddatblygiad heb fod yn fwynau er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu sterileiddio heb fod angen.

Monitro

Gweld y Sylwadau (2) 1.33 Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol gadw dan arolwg faterion a allai effeithio ar gynllunio a datblygu tir ac adeiladau. Cynhwysir fframwaith monitro a gaiff ei ddefnyddio i wneud y monitro blynyddol gofynnol ar gynnydd y Cynllun. Mae angen adolygiad llawn 4 blynedd ar ôl ei fabwysiadu, oni bai bod y gwaith monitro blynyddol yn datgelu ffactorau, fel newid sylweddol mewn amodau allanol, newid sylweddol mewn pwysau datblygu, neu newid sylweddol sy'n tanseilio'r economi lleol.

Y Bennod Ddiwethaf || Y Bennod Nesaf
Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult