Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Y Bennod Ddiwethaf || Y Bennod Nesaf

Y Cyd-destun Polisi (Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol)

Gweld y Sylwadau (1) 3.1 Mae yna nifer o gynlluniau, strategaethau a datganiadau polisi cenedlaethol, isranbarthol a lleol yn rhoi'r fframwaith ar gyfer datblygiad yn ardal y Cynllun. Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod cynlluniau datblygu lleol yn cael eu paratoi a'i fod yn rhoi sylw i'r dogfennau yma. Mae'r rhan yma o'r Cynllun Adnau'n crynhoi'r fframwaith polisi cynllunio sy'n berthnasol i ardal y Cynllun. Ceir rhestr fanwl o'r cynlluniau, rhaglenni a pholisïau sy'n gosod y cyd-destun ym Mhapur Testun 2 Strategaethau a Chynlluniau Perthnasol ac yn Adroddiad Asesiad Cynaliadwyedd ac Adroddiad Sgrinio'r Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd, sy'n cael eu cyhoeddi fel dogfennau cefndirol yr un pryd a'r Cynllun Adnau.

Cenedlaethol

Polisi Cynllunio Cymru (Gorffennaf 2014)

Gweld y Sylwadau (1) 3.2 Dogfen bolisi Llywodraeth Cymru yw Polisi Cynllunio Cymru ac mae'n disgrifio'r cyd-destun ar gyfer defnyddio tir mewn ffordd gynaliadwy. Mae'r ddogfen yn cefnogi pob strategaeth a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ac fe'i hategir gan Nodiadau Cyngor Technegol amrywiol. Mae'r ddogfen yn cydnabod bod cynllunio a'r ffordd y defnyddir tir yn cyfrannu at ddatblygu economaidd, at gadw asedau naturiol Cymru ac at iechyd, lles ac ansawdd bywyd unigolion a chymunedau. Yn ei hanfod, mae'r ddogfen yn disgrifio sut y gall y system gynllunio gyflawni nodau Llywodraeth Cymru.

No Comments 3.3 Os yw'r polisi cenedlaethol yn ddigonol, nid oes polisïau lleol wedi eu cynnwys. Os yw'r canllawiau cenedlaethol yn gofyn am ddehongliad lleol, darparwyd hynny yn y Cynllun.

Polisi Cynllunio Mwynau Cymru (2000)

No Comments 3.4 Polisi Cynllunio Mwynau Cymru yw dogfen Llywodraeth Cymru sy'n rhoi polisi cynllunio defnydd tir ar gyfer cloddio am fwynau a datblygu cysylltiedig yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys yr holl fwynau a'r sylweddau sydd yn y tir, ac arno ac oddi tano a gloddir naill ai drwy gloddio o dan ddaear neu drwy weithio ar yr wyneb. Ategir y ddogfen honno gan Nodiadau Cyngor Technegol sy'n ymwneud â Mwynau.

Cynllun Gofodol Cymru: Pobl, Lleoedd, Dyfodol: Diweddariad 2008

Gweld y Sylwadau (1) 3.5 Fe wnaeth Cynllun Gofodol Cymru gyflwyno fframwaith strategol ar gyfer tywys datblygiad ac ymyriadau polisi yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Ynys Môn a Gogledd Gwynedd yn rhan o ardal Ogledd-orllewin Cymru: Eryri a Môn: Ei weledigaeth ar gyfer y parth yma yw:

"Amgylchedd ffisegol a naturiol o ansawdd uchel yn cynnal economi sy'n seiliedig ar wybodaeth a diwylliant, a fydd yn gymorth i'r ardal gynnal ei chymeriad unigryw, i gadw a denu pobl ifanc yn ôl, ac i gynnal yr iaith Gymraeg."

Map 2: Cynllun Gofodol Cymru - Gogledd-orllewin Cymru Eryri a Môn

(Darluniad yn Unig)

No Comments 3.6 Mae de Gwynedd yn rhan o ardal Ganol Cymru. Ei weledigaeth ar gyfer y parth yma yw:

'Safon byw a gweithio uchel mewn aneddiadau llai eu maint o fewn amgylchedd gwych, gan ddarparu modelau deinamig o ddatblygu gwledig cynaliadwy, gan symud pob sector i weithgareddau sy'n cynnig gwerth ychwanegol'

Map 3: Cynllun Gofodol Cymru - Canol Cymru

(darluniad yn unig)

Datganiadau Polisi Cenedlaethol

Gweld y Sylwadau (1) 3.7 Mae safle ger gorsaf p?er niwclear Wylfa, sydd yng ngogledd Ynys Môn, wedi cael ei adnabod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol fel safle posib ar gyfer gorsaf p?er niwclear newydd, sef Wylfa Newydd. Mae adeiladu'r atomfa niwclear newydd yn Brosiect Isadeiledd o Bwysigrwydd Cenedlaethol o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Oherwydd ei bwysigrwydd i'r Deyrnas Unedig fe fydd datblygiad y safle yma'n destun proses ganiatáu gwahanol i'r un mae awdurdod cynllunio lleol fel arfer yn mynd drwyddo. O dan y drefn newydd fe gaiff cais am Rybudd Caniatâd Datblygu ei gyflwyno i'r Adran Isadeiledd Cenedlaethol o fewn yr Arolygaeth Cynllunio, a fydd yn penderfynu os dylid caniatáu'r cais ai pheidio. Yn wahanol i'r drefn yn Lloegr, yr Awdurdod Cynllunio Lleol a fydd yn penderfynu ceisiadau am ddatblygiadau sy'n gysylltiedig â'r prif safle. Gall datblygiadau cysylltiedig gynnwys:

  • Gwaith hwyluso ar y prif safle
  • Gwelliannau ffyrdd sydd ar neu oddi wrth y llwybr presennol
  • Isadeiledd logisteg a pharcio a theithio
  • Llety i weithwyr adeiladu

Gweld y Sylwadau (1) 3.8 Yng Ngorffennaf 2011 fe gymeradwywyd 6 Datganiad Polisi Cenedlaethol am Ynni. Mae'r Datganiad Polisi Cenedlaethol yn rhoi'r polisi cenedlaethol a gaiff eu defnyddio i asesu cynigion am brosiectau mawr am ynni a gwneud penderfyniadau amdanynt. Datganiad Polisi Cenedlaethol EN1, EN-3, EN-5 a EN-6 yw'r rhai sy'n debygol o fod yn berthnasol i ardal y Cynllun oherwydd y prosiectau isadeiledd mawr sy'n debygol o fod ag oblygiadau defnydd tir i'r ardal, e.e. adeiladu gorsaf b?er niwclear newydd yn Wylfa Newydd, a gwelliannau i'r rhwydwaith trawsgludo trydan y Grid Cenedlaethol. Mae Cyfrol II o Ddatganiad Polisi Cenedlaethol EN-6 yn adnabod ffin y safle ar gyfer yr orsaf b?er niwclear newydd yn Ynys Môn:

Map 4: Safle Wylfa Newydd

(darluniad yn unig)

Gweld y Sylwadau (1) 3.9 Er mai bwriad pennaf y Datganiad Polisi Cenedlaethol yw rhoi arweiniad i'r Arolygaeth Cynllunio i wneud penderfyniadau ar brosiectau mawr perthnasol, fe fydd angen i'r broses o baratoi'r Cynllun roi sylw llawn iddynt a'u dehongli wrth baratoi unrhyw bolisïau perthnasol.

Gweld y Sylwadau (2) 3.10 Mae Tabl 2 yn rhoi crynodeb o'r prif gynlluniau a pholisïau rhanbarthol a lleol. Nid yw'n rhestr gynhwysfawr - fel y nodwyd eisoes mae Papur Testun 2, yr Adroddiad Asesiad Cynaliadwyedd, a'r Adroddiad Sgrinio'r Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd yn cynnwys rhestr gynhwysfawr.

Gweld y Sylwadau (1) Table 5: Cyd-destun Polisi

RHANBARTHOL
Cynllun, Polisi neu Raglen Crynodeb Prif Negeseuon i'r Cynllun

Cynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru (TAITH)


Bwriad y cynllun yw cyflenwi rhwydweithiau trafnidiaeth ddiogel, gynaliadwy ac effeithlon i gefnogi gweithgareddau economaidd a chymdeithasol cymunedau a busnesau amrywiol Gogledd Cymru gan roi ystyriaeth i'w rôl Ewropeaidd strategol.

Bwriedir cyflawni'r weledigaeth hon drwy:

  • Optimeiddio hygyrchedd at gyflogaeth, addysg, iechyd a gwasanaethau ar gyfer holl gymunedau amrywiol Gogledd Cymru
  • Gwella ansawdd a darpariaeth trafnidiaeth teithwyr ar draws Gogledd Cymru ac i mewn ac allan o'r Rhanbarth
  • Hwyluso symudiad effeithlon nwyddau i gefnogi diwydiant a masnach y Rhanbarth a'i swyddogaethau Porth Rhyngwladol
  • Darparu, hyrwyddo a gwella ffurfiau trafnidiaeth a seilwaith cynaliadwy er mwyn isafu effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd lleol ac yn fyd-eang
  • Gwella diogelwch pob ffurf o drafnidiaeth
  • Gwella effeithlonrwydd a defnydd o'r rhwydwaith drafnidiaeth
  • Uwchraddio a chynnal y seilwaith trafnidiaeth, gan ddarparu seilwaith arwyddocaol newydd yn ôl yr angen

Dylai'r Cynllun hyrwyddo dulliau cludiant sy'n garedig i'r amgylchedd a datblygu rhwydwaith cludiant craidd wedi'i hintegreiddio'n dda ac sy'n ddiogel, effeithiol, glân a theg.

Mae darparu cludiant cyhoeddus effeithiol yn bwysig wrth ystyried twf yn Ardal y Cynllun. Bydd argaeledd cludiant cyhoeddus yn ystyriaeth flaenllaw wrth lunio strategaeth ar gyfer y Cynllun yn enwedig o safbwynt cynaliadwyedd, hygyrchedd, lleihau dibyniaeth ar geir ac i gynorthwyo i ymateb i newid yn yr hinsawdd.

Dylai'r Cynllun sicrhau fod datblygiadau newydd yn cael eu tywys i ardaloedd sydd â chysylltiadau trafnidiaeth effeithiol a chynaliadwy.

Cynllun Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (TRACC)

Bwriad y Cynllun yw cynllunio ar gyfer, a darparu mewn partneriaeth, system drafnidiaeth integredig yn Rhanbarth Trac sy'n hwyluso datblygu economaidd, yn sicrhau mynediad i bawb i wasanaethau a chyfleoedd, cynnal a gwella ansawdd bywyd cymunedol ac yn parchu'r amgylchedd. Blaenoriaethau Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol TraCC yw:

  • Lleihau'r galw am deithio
  • Lleihau effaith mudo ar yr amgylchedd lleol a byd-eang.
  • Gwella diogelwch eiddo a diogelwch personol holl ddefnyddwyr trafnidiaeth.
  • Gwella hygyrchedd teithio i wasanaethau, swyddi a chyfleusterau ym mhob sector o gymdeithas.
  • Gwella ansawdd ac integreiddiad y system drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys swyddogaeth trafnidiaeth gymunedol.
  • Darparu, hyrwyddo a gwella dulliau cynaliadwy o deithio.
  • Cynnal a gwella'r seilwaith priffyrdd a thrafnidiaeth bresennol.
  • Sicrhau bod materion teithio a hygyrchedd yn cael eu hintegreiddio'n briodol mewn penderfyniadau defnydd tir.
  • Gwella effeithlonrwydd, dibynadwyedd a chydgysylltiad mudo o fewn Canolbarth Cymru a rhwng y canolbarth a rhanbarthau eraill yng Nghymru a Lloegr.
  • Darparu rhwydwaith cydgysylltiedig ac integredig o deithio a thrafnidiaeth trwy weithio'n effeithiol mewn partneriaeth.

Dylai'r Cynllun hyrwyddo dulliau cludiant sy'n garedig i'r amgylchedd a datblygu rhwydwaith cludiant craidd wedi'i hintegreiddio'n dda ac sy'n ddiogel, effeithiol, glân a theg.

Mae darparu cludiant cyhoeddus effeithiol yn bwysig wrth ystyried twf yn Ardal y Cynllun. Bydd argaeledd cludiant cyhoeddus yn ystyriaeth flaenllaw wrth lunio strategaeth ar gyfer y Cynllun yn enwedig o safbwynt cynaliadwyedd, hygyrchedd, lleihau dibyniaeth ar geir ac i gynorthwyo i ymateb i newid yn yr hinsawdd.

Dylai'r Cynllun sicrhau fod datblygiadau newydd yn cael eu tywys i ardaloedd sydd â chysylltiadau trafnidiaeth effeithiol a chynaliadwy.

Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru

Cytunwyd ar Gynllun Gwastraff Rhanbarthol cyntaf Gogledd Cymru gan y Gr?p Aelodau Rhanbarthol (gydag aelodaeth o'r saith Awdurdod Unedol a Pharc Cenedlaethol Eryri). Cynhaliwyd yr adolygiad cyntaf ym mis Gorffennaf 2009. Bydd y cynllun yn darparu canllaw cynllunio defnydd tir ar gyfer rheoli gwastraff yn gynaliadwy ac adfer adnoddau yn y rhanbarth. Er enghraifft fel canllaw wrth ddyrannu safleoedd yn y Cynllun neu wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer cyfleusterau gwastraff.

Gweledigaeth y Cynllun yw darparu fframwaith cynllunio defnydd tir ar gyfer rheoli gwastraff yn gynaliadwy ac adfer adnoddau yng Ngogledd Cymru efo'r amcanion canlynol:

  • Amcan A: lleihau'r effeithiau negyddol ar yr amgylchedd ac iechyd dynol.
  • Amcan B: lleihau effeithiau negyddol cymdeithasol ac economaidd a gwneud y mwyaf o gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd.
  • Amcan C: cwrdd ag anghenion cymunedau a busnesau.
  • Amcan D: cadw at y gofynion deddfwriaethol, targedau, egwyddorion a pholisïau a bennir gan y fframwaith bolisi Ewropeaidd a Chenedlaethol.

Mae ymdrin â gwastraff yn fater hynod o bwysig yn enwedig felly yn sgil y penderfyniad i leihau'r defnydd o dirlenwi a'r cyfleoedd a gynigir ar gyfer ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio'r gwastraff.

Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol gymryd i ystyriaeth Polisi Cynllunio Cymru, Nodiadau Cyngor Technegol, Cylchlythyrau a'r strategaeth wastraff cenedlaethol trawsfwol (yn cynnwys cynllun sector gwastraff) wrth baratoi ei chynlluniau datblygu.

Fe fydd yn bwysig bod yn rhagweithiol wrth roi sylw i'r angen i adnabod safleoedd a mathau o gyfleusterau i ddarparu rhwydwaith cynaliadwy o gyfleusterau rheoli gwastraff yn Ardal y Cynllun.

Astudiaeth Marchnad Tai Gogledd Orllewin Cymru (Adroddiad Gwaelodlin 2008)

Mae Asesiad Marchnad Tai Lleol Gogledd Orllewin Cymru wedi datblygu modd ar gyfer adnabod a monitro angen a'r galw am dai yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd, Ynys Môn ac ardal Parc Cenedlaethol Eryri.

Cyhoeddwyd adroddiad gwaelodlin sy'n amlinellu'r angen am dai fforddiadwy. Cafodd 17 o ardaloedd marchnad tai eu hadnabod ar draws Gogledd Orllewin Cymru ac mae proffil wedi cael ei baratoi ar gyfer pob un.

Fe fydd yn bwysig fod y Cynllun yn cynnwys polisïau sydd yn hyrwyddo darpariaeth tai fforddiadwy sy'n adlewyrchu casgliadau'r asesiad yma ac unrhyw asesiadau anghenion tai pellach a gynhelir gan y Cynghorau.

Astudiaeth Angen Llety Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Orllewin Cymru a Sir Fflint (2013)

Mae siroedd Gogledd Orllewin Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a Sir Fflint wedi bod yn cydweithio efo'i gilydd a Phrifysgol Bangor i adnabod yr angen am lety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Mae'n dangos angen am lety parhaol a llety dros dro yn ardal yr Astudiaeth.

Fe fydd yn ofynnol i'r Cynllun adnabod safle(oedd) ar gyfer anghenion Sipsiwn a Theithwyr yn ardal y Cynllun.

LLEOL

Cynllun Integredig Sengl ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd 2013 - 2017 Cryfhau Cymunedau yng Ngwynedd ac Ynys Môn

Pwrpas y Cynllun Integredig Sengl yw hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yng Ngwynedd ac yn Ynys Môn. Mae tri chanlyniad allweddol wedi cael eu hadnabod er mwyn cyfarch y weledigaeth o gryfhau cymunedau yng Ngwynedd ac Ynys Môn sef:

  • Cymunedau ffyniannus
  • Cymunedau iach
  • Cymunedau diogel

Dylai'r Cynllun ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy o ran nodweddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel yr amlinellir yn y Cynllun Integredig.

Cynllun Strategol Cyngor Gwynedd 2013 - 2017

Y Cynllun Strategol yw prif gynllun Cyngor Gwynedd. Pwrpas y cynllun yw gosod gweledigaeth a blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer y cyfnod 2013 - 17 a disgrifio'r hyn y bydd y Cyngor yn ei wneud er mwyn eu cyflawni. Mae'r Cynllun Strategol yn nodi 21 o flaenoriaethau ar draws chwe maes thematig. Dyma'r meysydd thematig:

  • Plant a phobl ifanc
  • Gofal, iechyd a lles
  • Yr economi
  • Yr amgylchedd
  • Cymunedau cryf
  • Diwylliant a threfniad busnes y Cyngor

Dylai'r Cynllun chwarae rhan bwysig i hyrwyddo'r datblygiadau a fydd eu hangen i wireddu'r cynlluniau a'r prosiectau a roddir ar waith i daclo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Strategol Gwynedd.

Cynllun Corfforaethol Cyngor Sir Ynys Môn 2013 - 2017

Y Cynllun Corfforaethol yw prif gynllun Cyngor Sir Ynys Mon. Pwrpas y Cynllun yw gosod gweledigaeth a blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer y cyfnod 2013 - 17 a disgrifio'r hyn y bydd y Cyngor yn ei wneud er mwyn eu cyflawni. Mae'n adnabod tair blaenoriaeth sef:

  • Cefnogi'r mwyaf bregus
  • Datblygu'r economi
  • Codi safonau a moderneiddio'r ysgolion

Dylai'r Cynllun chwarae rhan bwysig i hyrwyddo'r datblygiadau a fydd eu hangen i wireddu'r cynlluniau a'r prosiectau a roddir ar waith i daclo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Strategol Ynys Mon.

Strategaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn (2004 - 2015)

Mae'r Cynllun yn darparu'r fframwaith ar gyfer ysgogi twf economaidd dros y cyfnod o 10 mlynedd dan sylw. Mae'r strategaeth yn ceisio sicrhau'r canlynol er mwyn gwireddu'r weledigaeth:

  • Economi ffyniannus a llewyrchus gyda chyfleoedd cyflogaeth o ansawdd wedi'u creu gan gyflogwyr arloesol gyda gwasanaethau cefnogol effeithiol a gweithlu medrus a hyblyg;
  • Delwedd all gystadlu â gweddill y byd, gan lawn ddefnyddio asedau diwylliant, treftadaeth ac amgylchedd unigryw'r Ynys i'w datblygu'n Fam Ynys i'w phobl, buddsoddwyr a'i hymwelwyr;
  • Cymunedau ffyniannus a chynaliadwy o fewn economi wledig amrywiol;
  • Safleoedd o ansawdd ac amgylchedd busnes cystadleuol wedi'i wasanaethu gan isadeiledd cysylltiadau a thrafnidiaeth gyfoes;
  • Trefi sy'n ffynnu ac yn llewyrchu, yn yrwyr twf economaidd;
  • Wedi manteisio ar ei safle strategol fel y brif fynedfa i'r Iwerddon a'r llwybr trwy Ewrop i Ogledd Orllewin Lloegr a thu hwnt;
  • Wedi manteisio ar ei agosrwydd at adnoddau Prifysgol Cymru, Bangor.

Dylai'r Cynllun hwyluso adfywio economaidd cynaliadwy yn yr ardal gan roi ystyriaeth lawn i nodau, amcanion a thargedau'r Strategaeth.

Dylai'r Cynllun wella mynediad at gyfleoedd cyflogaeth yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig.

Dylai'r Cynllun gefnogi gweithgarwch economaidd priodol a gwella rhagolygon a chyfleoedd cyflogaeth gan ystyried y sectorau hynny sydd fwyaf angen cefnogaeth.

Dylai'r Cynllun annog bywiogrwydd economaidd canol trefi yn ogystal ag yng nghefn gwlad.

Rhaglen Ynys Ynni Môn/ Canllaw Cynllunio Atodol Atomfa Niwclear Newydd yn Wylfa

Mae Rhaglen Ynys Ynni Môn yn ymdrech ar y cyd rhwng nifer o randdeilaid yn y sector gyhoeddus a'r sector breifat (gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru) i roi Ynys Môn ar y blaen o ran ymchwil a datblygu ynni, cynhyrchu a gwasanaethu, a fydd yn fodd o ddylanwadu ar ddatblygiad prosiectau isadeiledd mawr ddaw i neu a fydd yn effeithio ar yr ardal.

Mae Cyngor Sir Ynys Mon yn gweld datblygiad prosiectau mawr fel rhai allweddol i drawsnewid economi'r Ynys ar gyfer y dyfodol a darparu ansawdd bywyd uchel a chynaliadwy i drigolion Mon. Ar hyn o bryd y ddau brosiect mwyaf blaenllaw yw Wylfa Newydd a Phrosiect Cysylltiadau Grid Gogledd Cymru. Mae'r Cyngor yn buddsoddi llawer o adnoddau i sicrhau y gall yr Ynys fanteisio'n llwyr ar y buddsoddiad o'r tu allan gan y sector breifat.

Pwrpas y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer yw galluogi Cyngor Sir Ynys Mon i chwarae rhan lawn yn y prosesau caniatâd cynllunio ar gyfer GNN Wylfa, boed fel ymgynghorai ar gyfer y Gorchymyn Caniatâd Datblygu, neu wrth ystyried ceisiadau o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref am ddatblygiadau cysylltiedig.

Dylai'r Cynllun ymgorffori'r egwyddorion sy'n gynwysedig yn y Rhaglen a hwyluso datblygiadau ar gyfer ynni carbon isel ledled ardal y Cynllun (gan gynnwys ffurfiau o arbed defnydd o ynni a lleihau ôl troed Carbon) a sicrhau bod fframwaith gynllunio defnydd tir cadarn yn cael ei roi yn ei le i hyrwyddo datblygiadau fydd dod a'r allbwn gorau posib i drigolion Ynys Mon.

Strategaeth Adfywio Economaidd Gwynedd (2007 - 2013)

Nod y Cynllun hwn yw datblygu a chefnogi cymunedau cynaliadwy sy'n iach, byrlymus a hyfyw, gyda'r hyder i fentro, a gyda'r awydd a'r gallu i gyfrannu eu hatebion eu hunain i'r heriau ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.

Rhagwelir y gellir gwireddu'r weledigaeth ac ymateb i'r heriau trwy amrywiaeth o weithgareddau ar draws y gwahanol feysydd, gan gynnwys:

  • uwchraddio ffisegol a gweledol;
  • datblygu delwedd gyfoes, allblyg a chroesawgar i'r Sir;
  • datblygu cyfleoedd gwaith, busnes, menter ac arloesedd;
  • sefydlu diwylliant creadigol ac ymagwedd fentrus ym mhob agwedd o fywyd;
  • datblygu gallu a sgiliau drwy addysg, dysgu gydol oes a hyfforddiant;
  • ychwanegu gwerth i'r economi drwy ddatblygu cynnyrch cynhenid o ansawdd a chadwyni cyflenwi lleol effeithlon
  • tai ac unedau byw fforddiadwy;
  • iechyd, lles a diogelwch cymunedol;
  • diwylliant, y celfyddydau, adloniant a chwaraeon;
  • darpariaeth ffyrdd, llwybrau, cludiant a thraffig;
  • ynni glân, ailgylchu ac amgylchedd o safon;
  • cynyddu gallu ac adnoddau cymunedol cynaliadwy;
  • rhoi sylw i wella'r cydbwysedd demograffig a darparu cyfleusterau a gwasanaethau addas ar gyfer pobl o bob oed.

Dylai'r Cynllun hwyluso adfywio economaidd cynaliadwy yn yr ardal gan roi ystyriaeth lawn i nodau, amcanion a thargedau'r Strategaeth.

Dylai'r Cynllun wella mynediad at gyfleoedd cyflogaeth yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig.

Dylai'r Cynllun gefnogi gweithgarwch economaidd priodol a gwella rhagolygon a chyfleoedd cyflogaeth gan ystyried y sectorau hynny sydd fwyaf angen cefnogaeth.

Dylai'r Cynllun annog bywiogrwydd economaidd canol trefi yn ogystal ag yng nghefn gwlad.

Cynllun Cyflogaeth Meirionnydd 2010

Pwrpas y Cynllun hwn yw adnabod y sefyllfa cyflogaeth ym Meirionnydd gan gynnwys nifer y gweithlu posib a'r swyddi ar gael, strwythur yr economi, a sefyllfa ffyniant yr ardal - yn ogystal â nodi rhaglen waith bosib ar gyfer ymateb.

Nod y Cynllun yw cau'r bwlch cyfle gan fanteisio'n briodol ar gryfderau ac adnoddau Meirionnydd er mwyn sicrhau economi flaengar, fywiog a chynaliadwy gydag amrywiaeth o gyfleoedd gwaith o ansawdd uchel.

Dylai'r Cynllun hwyluso adfywio economaidd cynaliadwy yn yr ardal gan roi ystyriaeth lawn i nodau, amcanion a thargedau'r Strategaeth.

Dylai'r Cynllun wella mynediad at gyfleoedd cyflogaeth yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig.

Dylai'r Cynllun ddynodi safleoedd ar gyfer defnydd economaidd amrywiol ynghyd â'r isadeiledd ar gyfer cyflogaeth.

Dylai'r Cynllun gefnogi gweithgarwch economaidd priodol a gwella rhagolygon a chyfleoedd cyflogaeth gan ystyried y sectorau hynny sydd fwyaf angen cefnogaeth.

Dylai'r Cynllun annog bywiogrwydd economaidd canol trefi yn ogystal ag yng nghefn gwlad.

Y Bennod Ddiwethaf || Y Bennod Nesaf
Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult