Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Y Bennod Ddiwethaf || Y Bennod Nesaf

Proffil Gofodol ac Materion Allweddol

Proffil Gofodol

No Comments 4.1 Mae ardal y Cynllun yn cynnwys Awdurdod Unedol Ynys Môn ac Awdurdod Cynllunio Gwynedd. Mae'n rhannu ffin gyda Pharc Cenedlaethol Eryri (ond nid yw'r Cynllun yma'n cynnwys ardal Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri), Cyngor Sir Fwrdeistrefol Conwy, a Chynghorau Sir Ddinbych, Powys a Cheredigion - gweler Map 5: cyd-destun gofodol. Mae'n ardal sy'n dua 3,260 km sg o ran maint. Yn ôl Cyfrifiad 2011, sef y ffynhonnell ddiweddaraf am gyfanswm poblogaeth ac aelwydydd gwahanol Gynghorau, 'roedd gan Ynys Môn boblogaeth o 69,700 ac 'roedd yna 121,900 ar draws Gwynedd gyfan. Cofnodwyd fod yna 30,600 o aelwydydd yn Ynys Môn a 52,450 o aelwydydd ar draws Gwynedd. Ceir proffil ystadegol o ardal y Cynllun yn Atodiad 3: Proffil Ystadegol.

Map 5: Y Cyd-destun Gofodol

(darluniad yn unig)

No Comments 4.2 Mae'r A55 (sy'n rhan o'r Rhwydwaith Ffordd Draws Ewrop (TERN)) a'r lein rheilffordd ar hyd arfordir Gogledd Cymru'n cysylltu rhannau o'r ardal gyda gweddill Gogledd Cymru a thu hwnt, sy'n golygu y gall teithwyr a nwyddau symud yn gyflym i mewn iddi ac ohoni. Mae'r porthladd yng Nghaergybi'n darparu gwasanaeth fferi gydag Iwerddon ac yn brif gyswllt rhyngddo a Gogledd Cymru a chanol a Gogledd Lloegr ar gyfer trosglwyddo pobl a chargo ar hyd y priffyrdd neu'r rheilffordd. Er bod gwelliannau wedi cael eu gwneud i rannau o'r rhwydwaith ffordd i Dde Cymru nid yw'r daith yn un mor rhwydd. Mae yna gynlluniau i wella rhannau ychwanegol ar draws Gwynedd, er enghraifft yr A487, a fydd yn golygu cysylltiad rhwyddach gyda'r A55 yn ogystal â'r rhwydwaith ffyrdd i lawr am ganolbarth Cymru - gweler map 6 y rhwydwaith cludiant.

Map 6: Prif Rwydwaith Trawsgludo

(darluniad yn unig)

No Comments 4.3 Yn ddaearyddol, mynyddoedd ac arfordir a geir yn bennaf yn yr ardal, ac mae'n cynnwys asedau amgylcheddol hynod o arbennig, sydd wedi'u cydnabod a'u dynodi'n genedlaethol a rhyngwladol. Ardaloedd mynyddig sydd amlycaf yn nhirwedd Gwynedd, mae tir Ynys Môn yn isel - gweler Map 7: Topograffi'r ardal a Map 8: dynodiadau amgylcheddol cenedlaethol a rhyngwladol. Gellir olrhain dylanwad dynol ar y tirlun yn ôl i gyfnod cyn-hanesyddol ac fe'i gwelir yn y nifer fawr o nodweddion amlwg, h.y. Adeiladau Rhestredig, Henebion Cofrestredig, Parciau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth. Oherwydd yr holl adnoddau amgylcheddol mae'r ardal yn denu nifer fawr o dwristiaid/ ymwelwyr sy'n cyrraedd ar y priffyrdd, rheilffyrdd, porthladd Caergybi a marinas amrywiol, sy'n gwneud cyfraniad pwysig i'r economi leol.

Map 7: Topograffi'r Ardal

(darluniad yn unig)

No Comments 4.4 Amaethyddiaeth yw'r prif ddefnydd tir, gyda phentrefi a threfi bychan yn ardaloedd y mewndir, a'r rhan fwyaf o'r trefi mwy ar hyd yr arfordir. Ar y cyfan, yn y trefi mwyaf yma y ceir y cyflogwyr mwyaf ac yr amrediad mwyaf o wasanaethau, cludiant a thelegyfathrebu. Fodd bynnag, nodweddir y cymunedau hyn yn aml gan wrthgyferbyniad llwyr ac ardaloedd difreintiedig iawn yn ffinio'r rhai mwyaf ffyniannus.

No Comments 4.5 Y tu allan i'r ardaloedd arfordirol mwy datblygedig, mae'r ardal yn wledig yn bennaf, gyda nifer o ardaloedd anghysbell, yn arbennig ym Meirionnydd a Phenrhyn Ll?n. Mae'r materion sydd angen sylw yn y mannau hyn yn wahanol iawn, gyda'r amgylchedd naturiol trawiadol a rhyfeddol yn cuddio'r amddifadedd a'r cyflogau isel, ac effeithiau negyddol eu lleoliadau ymylol.

No Comments 4.6 Mae'r ardal hefyd yn cynnwys nifer o gymunedau sydd wedi dioddef dirywiad dros gyfnod hir neu'n fwy diweddar wedi i'r diwydiannau lleol ddod i ben, fel y chwareli a gweithgynhyrchu. Mae anghenion y cymunedau hyn unwaith eto'n gwbl wahanol i rannau eraill o'r ardal ac i Ogledd Cymru, gan fod effeithiau colli cyflogaeth ar raddfa fawr dros gyfnod estynedig o amser wedi amharu mewn nifer o ffyrdd ar y bobl a'r llefydd.

Map 8: Dynodiadau Amgylcheddol Cenedlaethol a Rhyngwladol

(darluniad yn unig)

Prif faterion i'w taclo

Gweld y Sylwadau (12) 4.7 Mae'r prif faterion sydd angen eu taclo yn y Cynllun wedi cael eu hadnabod trwy roi ystyriaeth i dueddiadau allweddol ddaw i'r amlwg wrth ystyried strategaethau, cynlluniau a rhaglenni cyfeirir atynt ym Mhennod 3 ac wedi ei gynnwys yn y Papurau Testun; yr Asesiad Cynaliadwyedd; y wybodaeth waelodlin am faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a chasgliadau'r cyfnod cyfranogiad cyhoeddus cyn datblygu'r Hoff Strategaeth a'r ymgynghori cyhoeddus am yr Hoff Strategaeth. Gellir gweld gwybodaeth am y materion yma yn y Papurau Testun, Papurau Cefndir, ac Adroddiad yr Asesiad Cynaliadwyedd sy'n cael eu cyhoeddi ar yr un pryd a'r Cynllun Adnau ac a restrir yn Atodiad 2. Dyma'r prif faterion:

Tabl 6: Rhestr o'r Prif Faterion (KI)

(Nid yw'r KI wedi eu rhestru mewn unrhyw drefn o ran pwysigrwydd)

POBLOGAETH, DEMOGRAFFEG A THAI

K1 1 Poblogaeth sy'n heneiddio fwyfwy o hyd o ganlyniad i'r ffaith bod rhannau o'r ardal yn boblogaidd fel cyrchfannau ymddeol
K1 2 Effaith tai haf / ail gartrefi ar gymunedau ac ar y farchnad dai
K1 3 Bod angen darparu ar gyfer myfyrwyr
K1 4 Bod angen darparu ar gyfer gweithwyr adeiladu mewn cysylltiad â phrosiectau isadeiledd mawr
K1 5 Colli preswylwyr ifanc sy'n economaidd weithgar
K1 6 Cyflenwad annigonol o dai ac ymateb i'r angen am ystod well o dai o ran lleoliad, math, maint a fforddiadwyedd i bobl leol
K1 7 Ymateb i anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr
K1 8 Mae llawer o'r tai presennol yn cael eu hystyried i fod yn rhy hen ac o ddyluniad gwael, o ran eu perfformiad a'u cynaliadwyedd, i fodloni anghenion modern
K1 9 Capasiti aneddleoedd i ymdopi â thai ychwanegol
K1 10 Rhesymoli a chanoli cyfleusterau addysg ac iechyd
LLES
K1 11 Hyrwyddo cyfleoedd i bobl gael byw'n iach a chael mynediad rhesymol at ofal iechyd, yn enwedig o fewn y boblogaeth sy'n heneiddio
KI 12 Ardaloedd gyda lefelau uchel o wahanol fathau o amddifadedd
KI 13 Bod angen cynnal neu wella teimlad y trigolion o fod yn ddiogel yn eu cartrefi neu y tu allan
KI 14 Mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, cyfleusterau hamdden ac adloniant ffurfiol ac anffurfiol, yn ogystal ag at gefn gwlad
YR ECONOMI, CYFLOGAETH A SGILIAU
KI 15 Cynhyrchedd isel (Gwerth Ychwanegol Crynswth, y pen) yr economi leol
KI 16 Diwallu'r galw am dir ac adeiladau ar gyfer cyflogaeth mewn lleoliadau cynaliadwy i gwrdd â'r angen sydd wedi'i nodi ar draws yr ardal (trefol a gwledig)
KI 17 Ymateb i anghenion datblygu busnes a chyflogaeth cyflogwyr presennol / newydd
KI 18 Mynediad at addysg a hyfforddiant sgiliau priodol
KI 19 Gofynion seilwaith (e.e. telathrebu / TGCh, d?r, cysylltiadau trafnidiaeth, dwr aflan a d?r wyneb) sy'n gysylltiedig â datblygiadau presennol a newydd, gan gynnwys y seilwaith ar gyfer y datblygiadau ynni disgwyliedig / arfaethedig newydd
KI 20 Dirywiad yn ffyniant a bywiogrwydd canol trefi fel llefydd sy'n cynnig cyfleoedd siopa, hamdden, cyflogaeth a chartrefi
KI 21 Ymateb i anghenion y diwydiant ffermio a diwydiannau gwledig eraill, gan gynnwys arallgyfeirio fferm a defnyddio adeiladau fferm segur
KI 22 Bod angen gwella a rheoli'r ddarpariaeth dwristiaeth 'drwy'r flwyddyn' yn yr ardal yn gynaliadwy ac, ar yr un pryd, hyrwyddo treftadaeth, iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yr ardal
KI 23 Bod angen diogelu adnoddau mwynau'r ardal, a manteisio'n llawn ar agregau eilaidd wrth asesu'r lefelau cyflenwi
YR AMGYLCHEDD
KI 24 Bod angen lliniaru effeithiau'r newid hinsawdd, e.e. lleihau gollyngiadau nwyon t? gwydr, hyrwyddo cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel
KI 25 Addasu i effeithiau'r newid hinsawdd sy'n cael eu rhagweld ar gyfer y blynyddoedd nesaf e.e. mwy o lifogydd, lefel y môr yn codi, erydiad arfordirol, stormydd, cyfnodau o dywydd poeth, cyfnodau sychach
KI 26 Lleihau'r angen am ynni, ac adnoddau eraill, ar gyfer datblygiadau yn y lle cyntaf
KI 27 Bod angen cynhyrchu llai o wastraff yn y lle cyntaf, a hwyluso ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff yn ogystal â gwaredu gwastraff gweddilliol
KI 28 Bod angen gwarchod, a lle bo hynny'n bosibl gwella amgylchedd naturiol a chynefinoedd a rhywogaethau'r ardal
KI 29 Gwneud y defnydd gorau o'r lefelau cymharol isel o safleoedd tir llwyd yn yr ardal yn ogystal ag adeiladau gwag neu a danddefnyddir
TRAFNIDIAETH A HYGYRCHEDD
KI 30 Yr argraff bod rhannau o ardal y Cynllun yn anghysbell
KI 31 Ardaloedd gyda chysylltiadau telathrebu a TGCh gwael
KI 32 Problemau o ran hygyrchedd gwasanaethau a chyfleusterau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, oherwydd y diffyg dewis o ddulliau trafnidiaeth.
NODWEDDION UNIGRYW
KI 33 Llai o breswylwyr wedi eu cofnodi yn 2011 i fod yn siarad Cymraeg a llai o ardaloedd lle mae mwy na 70% o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg
KI 34 Cynnal nodweddion cadarnhaol sy'n cyfrannu at greu cymeriad unigryw gwahanol rannau o'r ardal
KI 35 Bod angen gwarchod a gwella llefydd, tirweddau ac adeiladau sydd o bwysigrwydd hanesyddol, diwylliannol ac archeolegol, a'u gosodiadau.
LLEOLIAD
KI 36 Y berthynas agos a'r rhyngweithio rhwng aneddleoedd yn ardal awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri
KI 37 Y swyddi a'r gwasanaethau allweddol sy'n cael eu darparu yn y trefi mewn ardaloedd cyfagos
KI 38 Coridor cludiant rhwng Iwerddon a'r Deyrnas Unedig/ Porthladd Rhyngwladol

Y Bennod Ddiwethaf || Y Bennod Nesaf
Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult