Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Y Bennod Ddiwethaf || Y Bennod Nesaf

Y Strategaeth

Trosolwg

Gweld y Sylwadau (4) 6.1 Mae'r bennod hon yn nodi'r Strategaeth gyffredinol i gyflawni gweledigaeth ac amcanion y Cynllun. Disgrifia Ffigwr 4 brif elfen y Weledigaeth a'r hyn sydd rhaid digwydd (y themâu a'r amcanion) er mwyn sicrhau'r newid hwn.

(darluniad yn unig)

No Comments 6.2 Datblygwyd y weledigaeth, y themâu a'r amcanion yn strategaeth cynllunio defnydd tir er mwyn arwain datblygiad ardal y Cynllun yn y dyfodol hyd at 2026. Mae'n nodi'r bwriad bras ar gyfer rheoli newid, yn darparu fframwaith ar gyfer polisïau mwy strategol a manwl, ac yn dangos lefel y ddarpariaeth sydd i'w gwneud ar gyfer tai, cyflogaeth a defnyddiau tir mawr eraill, y lleoliadau bras y cyfeirir datblygiad o'r fath iddynt, a'r ardaloedd sydd yn destun i amddiffyniad cyffredinol rhag datblygu.

Gweld y Sylwadau (1) 6.3 Mae'r Strategaeth yn cymryd prif elfennau'r Weledigaeth ac Amcanion ac yn nodi'r prif ddefnydd tir y byddant yn eu cyflawni. Yn unol â'r Cynllun Integredig Sengl ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd, y Strategaeth eang yw cryfhau cymunedau yn ardal y Cynllun. Mae'r Strategaeth yn cynnwys yr elfennau a ddisgrifir yn Nhabl 8.

Tabl 8 : Prif Elfennau'r Strategaeth

Cymunedau Cynaliadwy Twf ac Adfywio Economaidd Tai o Ansawdd Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig
  • paru seilwaith ffisegol a chymdeithasol gyda datblygu cynaliadwy ac anghenion twf economaidd;
  • symudiad cynaliadwy drwy ystyried defnydd tir a hyrwyddo teithio gweithredol a chynaliadwy;
  • diogelu tir ar gyfer y ddarpariaeth seilwaith yn y dyfodol, gan gynnwys llwybrau.
  • hwyluso darparu swyddi er mwyn cefnogi poblogaeth ardal y Cynllun a'r economi ehangach;
  • cadw tir cyflogaeth presennol rhag datblygiad amhriodol;
  • hwyluso mwy o argaeledd tir cyflogaeth;
  • annog busnesau presennol a newydd i fuddsoddi;
  • hyrwyddo tyfiant y sector twristiaeth a gweithgareddau diwylliannol drwy gydol y flwyddyn
  • cyflenwad effeithiol o dir ar gyfer tai;
  • Dewis o fathau o dai, maint a daliadaeth i gwrdd â gofynion ystod o wahanol aelwydydd o fewn cymunedau lleol, gan gynnwys darparu lefel briodol o dai fforddiadwy yn seiliedig ar anghenion lleol diffiniedig;
  • Annog, lle'n briodol, datblygiadau tir llwyd a defnyddio adeiladau sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys tai gwag hir dymor yn flaenoriaeth.
* diogelu cynefinoedd, rhywogaethau, tirweddau, trefluniau, archaeoleg, adeiladau hanesyddol a henebion, gan ganiatáu datblygiad nad yw'n cael effaith andwyol ar yr asedau hyn, neu gorau oll sy'n eu gwella;
* diogelu dyddodion mwynau.

Gweld y Sylwadau (1) 6.4 Mae nifer o themâu trawsbynciol wedi hysbysu'r Cynllun, gan ddylanwadu ar ac ategu dewisiadau a chyfeiriad polisïau, cynigion a safleoedd datblygu. Disgrifia Tabl 9 y themâu trawsbynciol.

Tabl 9: Y Themâu Trawsbynciol

Iaith a'r Diwylliant Cymraeg Newid yn yr Hinsawdd a Datblygu Cynaliadwy Creu Llefydd o Ansawdd
  • hyrwyddo cymunedau ffyniannus a chynaliadwy sy'n cefnogi gwasanaethau lleol gan gynnwys darparu tai ychwanegol a datblygiadau cysylltiedig yn gymesur â gofyniad lleol;
  • cefnogi economi leol datblygedig, ffyniannus ac amrywiol.
  • sicrhau bod technolegau cynhyrchu ynni di-garbon/carbon isel ac effeithlonrwydd adnoddau uchel yn cael eu hymgorffori o fewn y datblygiad;
  • cofleidio dyluniad ac adeiladu cynaliadwy o ansawdd mewn datblygiadau newydd;
  • osgoi, lliniaru neu addasu i achosion y newid yn yr hinsawdd
  • hybu datblygiad newydd o ansawdd uchel;
  • diogelu a gwella nodweddion diwylliannol, hanesyddol a thirwedd bwysig;
  • diogelu, hybu ac ehangu rhwydweithiau a chynefinoedd gwyrdd;
  • integreiddio datblygiad newydd i'r seilwaith cymunedol sy'n bodoli eisoes.

Gweld y Sylwadau (2) 6.5 Yn gyffredinol, mae'r Strategaeth yn ymateb i angen a dystiolaethir yn glir i wneud darpariaeth ar gyfer cartrefi a swyddi newydd yn ogystal â gwarchod cymeriad cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol unigryw'r ardal. Mae'n darparu ar gyfer defnyddiau tir sydd eu hangen am gyfnod penodol o amser, gan hwyluso defnyddiau etifeddiaeth amgen sy'n cydymffurfio â pholisi yn y tymor hir. Gosoda lefel o dwf yr ystyrir sy'n cynrychioli'r dull mwyaf cadarn, cytbwys a phriodol, o ystyried yr holl ffactorau perthnasol, yn cynnwys gwaith a wnaed gan ragolygon tai ac economaidd annibynnol.

Y Strategaeth Ofodol

No Comments 6.6 Mae elfen ofodol y Weledigaeth yn disgrifio'n fras sut y bydd ardal y Cynllun yn edrych erbyn 2026. Mae'n amlinellu'r hyn y mae'r weledigaeth yn ei olygu ar lawr gwlad. Noda'r Strategaeth Ofodol lle y dylai datblygiad fynd a lle na ddylai fynd. Y nod yw cael y math iawn o ddatblygiad yn y lle iawn sy'n cwrdd â gofynion y cymunedau.

No Comments 6.7 Disgrifiodd penodau blaenorol y Cynllun natur wledig ardal y Cynllun. Mae iddi batrwm anheddu gwasgaredig o drefi, pentrefi a grwpiau eraill o adeiladau, a lefelau uchel o ddefnydd o geir preifat, felly mae'r angen i leihau allyriadau nwyon t? gwydr a charbon yn heriol. Cyfeiria'r dystiolaeth at bum categori bras o aneddleoedd o fewn ardal y Cynllun, fel yr adlewyrchir hwy yn elfen ofodol Gweledigaeth y Cynllun. Y rhain yw:

i. Canolfan Isranbarthol
ii. Canolfannau Gwasanaethau Trefol
iii. Canolfannau Gwasanaethau Lleol
iv. Pentrefi
v. Clystyrau

Gweld y Sylwadau (2) 6.8 Mae detholiad a chategoreiddio aneddleoedd yn seiliedig ar ddata a'i ddadansoddiad fel y nodir ym Mhapur Testun 5: Datblygu'r strategaeth aneddleoedd (Mai 2013). Yn y Papur, caiff aneddleoedd eu rhestru yn ôl nifer o ffactorau a'r cydadwaith rhyngddynt. Cynhwysa'r ffactorau hyn y boblogaeth, nifer y cyfleusterau manwerthu, cyflogaeth, cymunedol a gwasanaeth a geir ynddynt, a'u mynediad at gludiant cyhoeddus a'r cysylltiadau swyddogaethol rhyngddynt. Caiff cyfleusterau eu pwysoli i adlewyrchu'r ffaith bod rhai cyfleusterau yn fwy gwerthfawr nag eraill o ran y manteision cynaliadwyedd a ddarperir ganddynt.

No Comments 6.9 Diffinia'r Strategaeth pa rôl fydd y Ganolfan Isranbarthol, Canolfannau Gwasanaethau Trefol, Canolfannau Gwasanaeth Lleol, Pentrefi, Clystyrau a chefn gwlad yn ei chwarae wrth gyflawni Gweledigaeth y Cynllun. Pennir maint, math (yn arbennig yn nhermau tai) a dosbarthiad y datblygiadau newydd i raddau helaeth gan y swyddogaethau a nodir yn y Strategaeth hon. Bydd cryfhau'r rolau presennol ac esblygiad rhai newydd yn cymryd amser, a byddant yn cael eu cryfhau drwy strategaethau'r Cyngor a phartneriaid eraill, ac yn enwedig trwy rymoedd y farchnad.

Gweld y Sylwadau (2) 6.10 Er mwyn ymateb i gyfleoedd a heriau'r ardal ac i gyflawni Gweledigaeth ac Amcanion cyffredinol y Cynllun, mabwysiadwyd y strategaeth ofodol ganlynol ar gyfer dosbarthu datblygiad ar draws ardal y Cynllun. Mae'n sicrhau bod datblygiad yn cael ei gyfeirio at leoliadau sy'n gynaliadwy o ran eu maint, swyddogaeth, cymeriad, cyfleusterau, cysylltiadau trafnidiaeth, cynhwysedd cymdeithasol ac amgylcheddol. Cefnoga'r defnydd o bolisïau sy'n annog y lefel datblygiad mwyaf priodol i bob anheddle.

Bydd y Strategaeth yn anelu at wasgaru datblygiad yn gymesur o amgylch ardal y Cynllun wrth ganolbwyntio ar y mannau hynny sy'n darparu'r cyfleoedd gorau i gyflawni datblygiad cynaliadwy.

Mae'r Strategaeth yn cynnig:

  • pwyslais ar ddatblygu'r Ganolfan Isranbarthol a'r Canolfannau Gwasanaethau Trefol a Lleol a ddangosir ar Fap Diagramatig 9 a 10, pan fo cyfyngiadau amgylcheddol, cymdeithasol a seilwaith yn caniatáu;
  • maint priodol o ddatblygiad mewn Pentrefi, gan ganolbwyntio ar y Pentrefi Gwasanaeth a ddangosir ar Fap Diagramatig 9 a 10, sydd â gwell mynediad at wasanaethau a chludiant cyhoeddus;
  • rhywfaint o ddatblygu yn y Clystyrau, a nodwyd oherwydd eu cysylltiadau swyddogaethol gyda Phentrefi neu Ganolfannau, ac yn y cefn gwlad

Map 9: Diagramatic (Rhan 1)

(darluniad yn unig)

Map 10: Diagramatig (Rhan 2)

(darluniad yn unig)

Gweld y Sylwadau (1) 6.11 Mae'n ceisio sefydlu rhwydwaith cryf o aneddleoedd sy'n gwneud ardal y Cynllun yn fwy hunangynhaliol o ran mynediad at swyddi, tai fforddiadwy, a gwasanaethau megis addysg a hyfforddiant, siopau, a hamdden. Y flaenoriaeth fydd cwrdd ag anghenion mor lleol ag y bo modd, a chadw cymaint o fanteision buddsoddi'n lleol ag sy'n bosibl, gan gydnabod bod gan swm y buddsoddiad yn Wylfa Newydd y potensial i fod o fudd i ardaloedd y tu hwnt i ardal y Cynllun. Mae'r Cynllun yn cydbwyso pwysigrwydd cynnal economïau gwledig gyda'r angen i ddiogelu cefn gwlad. Ceir rhestr lawn o aneddleoedd, lle maent yn eistedd yn y goeden aneddleoedd, a'r goblygiadau yn Atodiad 4.

No Comments 6.12 Dylai'r dull hwn wneud y defnydd gorau o'r seilwaith presennol, hyrwyddo gwelliannau lle bo angen, hyrwyddo defnydd effeithiol o dir ac adeiladau, a gwneud teithio'n fwy cynaliadwy.

Gweld y Sylwadau (1) 6.13 Lle bo modd, rhoddwyd blaenoriaeth i ailddefnyddio tir addas a ddatblygwyd yn flaenorol (h.y. tir llwyd) ac adeiladau presennol drwy eu nodi fel ffynonellau ar gyfer datblygu yn y dyfodol yn ystod oes y Cynllun. Mae'r Astudiaeth Cynhwysedd Trefol Canolfannau, a ddangosir ar Fap Diagramatig 9 a 10 ac a restrir yn Atodiad 4, wedi hysbysu'r elfen hon o'r Cynllun. Gweler y cyfleoedd a amlygwyd ar sail anheddle unigol ym Mhapur Testun 6: Astudiaeth Cynhwysedd Trefol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r Cynllun Adnau. Ceir polisïau yn y Cynllun sy'n hwyluso'r gwaith o ddatblygu tir llwyd ac adeiladau sy'n bodoli eisoes, lle mae hynny'n briodol.

Gweld y Sylwadau (1) 6.14 O ben i ben, mae'r gallu i gyfarch y dosbarthiad gofodol arfaethedig o anheddle i anheddle yn cael ei ddylanwadu i raddau gan y gallu i ymdopi gyda datblygiad yn y lleoliadau a ddewisir. Dewiswyd y safleoedd ar gyfer pob anheddle yn dilyn dadansoddiad manwl o gynhwysedd amgylcheddol, isadeiledd a chymdeithasol yr aneddleoedd unigol ac asesiad y gwahanol opsiynau safleoedd a gafodd eu hawgrymu. Mae'r dadansoddiadau manwl i'w gweld ym Mhapur Testun 1: Diweddariad Asesu Safleoedd Posib a'r adroddiad Asesiad Effaith Iaith Gymraeg, a gafodd eu cyhoeddi fel dogfennau cefndir ar yr un pryd a'r Cynllun Adnau.

No Comments 6.15 Wrth benderfynu dosbarthiad gofodol safleoedd tai newydd roedd rhaid rhoi sylw i'r cyflenwad presennol o ddatblygiad hefyd. Mae'r cyflenwad cyfredol o dai'n cynnwys tir gyda chaniatâd cynllunio a safleoedd ar hap, fel gwelir yn y gyfres o bolisïau tai ym Mhennod 7 y Cynllun yma. Dim ond yn y Ganolfan Isranbarthol, Canolfannau Gwasanaeth Trefol a Lleol a Phentrefi Gwasanaeth y caiff safleoedd eu dynodi ynddynt a dim ond os nad all y banc tir presennol a safleoedd ar hap ymdopi gyda'r lefel dangosol o dwf.

No Comments 6.16 Oherwydd y cyfyngiadau ffisegol sylweddol ym Mlaenau Ffestiniog a'r mentrau adfywio sydd yn eu lle i ddenu cyfleoedd buddsoddi newydd yn lleol, mae'r Strategaeth yn cynnig defnydd cymharol uwch o dir llwyd ac adeiladau o fewn yr anheddle o'i gymharu ag aneddleoedd eraill. Bydd yr elfen hon o'r Strategaeth yn cael ei fonitro a'i adolygu, a bydd yn cynnwys trafodaeth gydag Awdurdod Cynllunio Lleol Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gan fod aneddleoedd o fewn eu hardaloedd gweinyddol a all gyfrannu yn y tymor hir at ddarparu ateb, os oes angen.

Gweld y Sylwadau (1) 6.17 Er bod Porthmadog yn cael ei amddiffyn yn erbyn llifogydd, mae rhannau helaeth o'r anheddle yn cael eu categoreiddio fel rhai o fewn Parth C1 (gweler y Map Cyfyngiadau). Un o swyddogaethau craidd y Cynllun yw sicrhau bod pob datblygiad yn gynaliadwy, gan roi sylw i oblygiadau ymdopi gyda newid hinsawdd. Nid yw datblygiadau a fyddai'n arwain at leihau cynhwysedd storio'r gorlifdir neu amharu ar lif llifogydd yn cael eu hannog o gwbl. Ar sail hyn a diffyg cyfleoedd addas du hwnt i'r parth llifogydd, ni all y Cynllun ddynodi tir ar gyfer tai ym Mhorthmadog. Er hynny fe ellir hyrwyddo tai newydd ar safleoedd llwyd/ ar hap cyn belled â'u bod nhw'n gyson a pholisi cynllunio lleol a pholisi cynllunio cenedlaethol a welir yn Pholisi Cynllunio Cymru a NCT15. Oherwydd hyn mae'r cyflenwad o dir ar gyfer tai yn llai, sy'n golygu na all y Ganolfan ymdopi a'r twf a fyddai fel arfer yn cael ei gyfeirio ato. Yn dilyn y ffactor hwn, bu'n rhaid nodi lleoliadau eraill yn y dalgylch sy'n gyson a'r strategaeth ofodol a fyddai'n cynorthwyo i gwrdd â'r angen am dai, a fyddai fel arall yn cael eu darparu yn y Ganolfan Gwasanaethau Trefol. Golyga materion tebyg yn Nhremadog gerllaw na all gyfrannu at gynnig yr ateb.

No Comments 6.18 Ar ôl ystyried amrywiaeth o ffactorau, dewiswyd Cricieth a Phenrhyndeudraeth. Mae'r ddwy Ganolfan Gwasanaethau Lleol â chysylltiadau cludiant da â Phorthmadog, ac mae gan bob un lefel dda o wasanaethau sy'n rhoi cyfle i drigolion gerdded iddynt i ddiwallu eu gofynion bob dydd, gan leihau'r angen i deithio i Borthmadog. Mae'r ymagwedd yma'n cyd-fynd a'r dyheadau i gadw'r budd yn lleol. Golyga hyn bod Cricieth a Phenrhyndeudraeth, yn unol â'r Goeden Aneddleoedd, yn derbyn cynnydd mewn cyfleoedd twf tai. Mae Pennod 7 y Cynllun yn darparu gwybodaeth fanwl am lefelau twf tai i bob anheddle.

Gweld y Sylwadau (1) 6.19 Hysbysir y Cynllun gan ystod o asesiadau gan gynnwys yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol, Asesiad o'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg, Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd, ac Asesiad Perygl Llifogydd Strategol Lefel 1. Ystyrir y gall hyfywedd y ddarpariaeth leol o fewn y Canolfannau Gwasanaethau Lleol hyn gael ei wella drwy gael ei gefnogi gan boblogaeth fwy o fewn pellter cerdded. O ystyried rôl barhaus Porthmadog fel Canolfan Gwasanaethau Trefol, bydd rhai pobl yng Nghricieth a Phenrhyndeudraeth a'r pentrefi cyfagos a fydd yn parhau i fod angen teithio i Borthmadog, er enghraifft, at ddibenion cyflogaeth, cyfleoedd siopa amgen neu fancio. Fodd bynnag, bydd eu taith yn fyrrach na'r daith i'r Canolfannau Gwasanaethau Trefol agosaf eraill, ac mae'r dewis o ddulliau cludiant yn cynnwys bws a thrên. Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i ail-werthuso'r opsiynau ar gyfer twf yng Nghricieth a Phenrhyndeudraeth yn adolygiad cyntaf y Cynllun.

Ffiniau Aneddleoedd

Gweld y Sylwadau (2) 6.20 Er mwyn darparu arweiniad cadarn i asesu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio, caiff pob anheddle ei ddiffinio'n ofodol. Mae'r Cynllun Adnau wedi diffinio ffiniau datblygu o amgylch y Ganolfan Isranbarthol, Canolfannau Gwasanaethau Trefol, Canolfannau Gwasanaethau Lleol, a Phentrefi. Nid oes ffiniau anheddle mewn Clystyrau. Yma, bydd yn ofynnol i ddatblygiadau berthnasu'n dda â'r ffurf adeiledig bresennol, a ddangosir ar y Mapiau Cynigion trwy liwio'r adeiladau sy'n ffurfio eu craidd. Ffurfir ffiniau datblygu a chlystyrau er mwyn:

  1. Rhwystro datblygiad annerbyniol yng nghefn gwlad a rhoi sicrwydd ac eglurder o ran ble y gall y polisïau eithriad (ar ymyl aneddleoedd) gael eu defnyddio;
  2. Osgoi cyfuno aneddleoedd neu rannau o'r un anheddle, datblygiad hirgul newydd neu batrwm datblygu tameidiog;
  3. Nodi ardaloedd lle gallai ceisiadau datblygu gael eu cymeradwyo;
  4. Hyrwyddo defnydd tir effeithlon a phriodol.

No Comments 6.21 Mae'n ymddangos bod rhai ffiniau datblygu fel petaent yn cynnwys 'tir gwyn' nad yw wedi ei glustnodi ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol. Ac eithrio ar gyfer tai, nid yw'r Cynllun yn nodi unrhyw ymrwymiadau ar gyfer datblygu lle rhoddwyd caniatâd eisoes. Gall 'tir gwyn' fod wedi ei ddatblygu o'r blaen ac felly mae'n rhoi cyfleoedd ar gyfer ailddatblygu, neu gall gael ei ddiogelu gan bolisïau eraill sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun a/neu mewn Polisi Cynllunio Cenedlaethol.

No Comments 6.22 Mae'r Strategaeth yn gwarchod ardaloedd y tu allan i'r ffin ddatblygu a'r Clystyrau dynodedig, h.y. y cefn gwlad, rhag datblygiad ar wahân i'r defnyddiau hynny sy'n hanfodol i leoliad gwledig ac na fydd yn niweidio'i gymeriad na'i olwg. Pwysleisia'r Cynllun y polisi cynllunio cenedlaethol a deddfwriaeth sy'n rheoli datblygu mewn ardaloedd a warchodir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac mae'n pwysleisio'r angen i gynnal Ardaloedd Tirwedd Arbennig ac ardaloedd bioamrywiaeth neu ddiwylliannol penodol sydd yn bwysig yn lleol.

Yr Iaith Gymraeg

No Comments 6.23 Mae'r iaith Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Fodd bynnag, mae amrywiadau sylweddol yn ei defnydd ar draws y Wlad. Yn ardal y Cynllun ceir y gyfran uchaf o'r boblogaeth sy'n siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg (60% yn 2011) o gymharu â chyfartaledd Cymru (14.6% yn 2011). Cofnododd Cyfrifiad 2011 65.4% yng Ngwynedd, ond rhwng 2001-2011 gostyngodd y nifer o 1.1%. Gall 57.2% o boblogaeth Ynys Môn siarad Cymraeg, ond gwelwyd gostyngiad o 0.8% rhwng 2001-2011. Roedd yna hefyd ostyngiad bach yng Ngwynedd yn y nifer o ardaloedd lle y gall dros 70% o'r boblogaeth siarad Cymraeg - o 41 i 40 o Wardiau Etholiadol yn 2011. Bu gostyngiad o 10 ward i 8 yn Ynys Môn. Ceir rhagor o wybodaeth am broffil ieithyddol ardal y Cynllun ym Mhapur Testun 10 a Phroffiliau Iaith Gymraeg y ddwy Sir.

Gweld y Sylwadau (2) 6.24 Mae Cynllun Integredig Sengl (2014) Gwynedd ac Ynys Môn yn nodi'r angen i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu. Mae Strategaeth Iaith Gymraeg Gwynedd (2013) a Pholisi Cynllunio Cymru yn cydnabod y gall y system cynllunio defnydd tir gyfrannu at gynnal a chryfhau'r iaith Gymraeg mewn cymunedau. Yn dilyn hynny, mae cynnal a chryfhau'r iaith Gymraeg yn nod o fewn y fframwaith Arfarniad o Gynaliadwyedd. Mae Asesiad o'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg (AEI) ailadroddol wedi hysbysu'r Arfarniad o Gynaliadwyedd. Mae canlyniadau'r AEI yn cael eu cofnodi yn yr adroddiad sy'n cofnodi'r casgliadau sydd yn cael ei gyhoeddi ochr-yn-ochr a'r Cynllun Adnau.

Gweld y Sylwadau (2) 6.25 Felly ystyrir ei bod yn angenrheidiol i'r Cynllun gynnwys polisi penodol i ymdrin â'r iaith Gymraeg. Yn ogystal, hyrwyddir diogelu a gwella'r iaith o fewn ardal y Cynllun drwy wahanol bolisïau yn y Cynllun. Mae'r polisïau'n hwyluso'r math o ddatblygiad sy'n gallu creu'r amgylchiadau cywir i gyfrannu at gynnal a chreu cymunedau Cymraeg eu hiaith, e.e. cymysgedd o dai (daliadaeth a math), cyfleoedd cyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu paratoi a fydd yn ymhelaethu ar Bolisïau perthnasol yn y Cynllun er mwyn sicrhau cymunedau cynaliadwy.

Strategaeth Economaidd

Gweld y Sylwadau (1) 6.26 Y newid economaidd trawsnewidiol a ragwelir a fydd yn deillio o raddfa unigryw prosiectau isadeiledd ar Ynys Môn a statws yr Ynys fel Parth Menter fydd gyrrwr mwyaf y newid gofodol a chymdeithasol dros gyfnod y Cynllun. Mae'n bwysig bod y Cynllun yn gweithredu fel hwylusydd i ddatblygiad economaidd. Caiff hyn ei gyflawni drwy fframwaith polisi sy'n cefnogi egwyddorion Cynlluniau Strategol pob Awdurdod, Cynllun Integredig Sengl Ynys Môn a Gwynedd, Cynlluniau Cyflogaeth a Rhaglen Ynys Ynni Môn.

No Comments 6.27 Er bod y Cynllun yn cael ei gynhyrchu pan fo ardal y Cynllun yn dal i ddioddef effaith y dirwasgiad, gyda galw isel am bob math o eiddo a thir yn sgil hynny, mae achos cryf dros fod yn obeithiol o fewn ardal y Cynllun sy'n gysylltiedig â'r gyflogaeth gynyddol sylweddol a digynsail ddisgwyliedig yn sgil adeiladu Wylfa Newydd a datblygu prosiectau seilwaith mawr eraill. Rhagwelir y bydd £2.5 biliwn yn deillio i economi Ynys Môn a Gogledd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf. Hefyd ystyrir bod y sectorau traddodiadol yn bwysig, gan gynnwys twristiaeth, amaethyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig addysg, a gwasanaethau gofal a iechyd.

Gweld y Sylwadau (1) 6.28 Bydd cyflenwi Wylfa Newydd a phrosiectau strategol mawr eraill yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol gan y sector preifat. Byddant angen buddsoddiadau mawr mewn seilwaith, gan ddod â chyfleoedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o bwys, yn ogystal â heriau. Mae rôl bwysig gan y Cynllun o ran hwyluso datblygiad cynaliadwy'r prosiectau hyn wrth warchod diwylliant, treftadaeth ac amgylchedd naturiol unigryw yr ardal. Bydd y Cynghorau mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a sefydliadau busnes yn hyrwyddo a chefnogi datblygu economaidd cynaliadwy. Er mwyn hybu gweithgarwch economaidd ar Ynys Môn dynodwyd yr Ynys yn Ardal Fenter. Fel y nodwyd ym Mhennod 3, mae dynodiad statws Ardal Fenter i Ynys Môn yn ategu'r Rhaglen Ynys Ynni Môn bresennol, a sefydlwyd i ddod â swyddi sgiliau uchel i'r ardal o fuddsoddiadau ynni mawr a sefydlu'r ynys fel canolfan ragoriaeth fyd-enwog mewn cynhyrchu ynni carbon isel. Mae naw o safleoedd allweddol ar yr Ynys wedi eu hadnabod mewn perthynas â bod yn destun i gymorth â ffocws. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dynodi Ardal Fenter Eryri, a allai, er ei bod wedi'i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, helpu i ledaenu ffyniant y tu hwnt i ffiniau gweinyddol y Parc.

No Comments 6.29 Mae rôl y sector addysg bellach ac addysg uwch yn ganolog i dyfu gwerth masnachol gwaith ymchwil, er enghraifft mewn gwyddorau biolegol, cyfrifiadurol, meddygol a môr; ynni adnewyddadwy a charbon isel; gwyddorau bywyd, a bwyd yn ogystal â gwella sgiliau pobl fel eu bod yn gallu gwneud y gorau o gyfleoedd cyflogaeth a allai ddatblygu'n lleol yn y dyfodol. Mae manteision posibl i'r economi leol mewn lleoliadau yn agos at y brifysgol a cholegau ardal y Cynllun, sy'n cynnwys Parc Gwyddoniaeth Menai arfaethedig ger Gaerwen, Ynys Môn.

No Comments 6.30 Bydd darparu fframwaith sy'n hwyluso datblygiadau sy'n cynnal, gwella, moderneiddio ac arallgyfeirio'r economi yn darparu un o'r blociau adeiladu sy'n gallu cyfrannu at gynnal, cryfhau neu greu cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Gweld y Sylwadau (1) 6.31 Mae argaeledd tir addas ar gyfer busnesau a diwydiant yn hanfodol i gefnogi'r broses o greu swyddi. Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio sicrhau bod ystod a dewis o safleoedd gwerthadwy a lleoliadau ar gyfer busnesau yn cael eu diogelu neu eu dynodi mewn cynlluniau datblygu.

No Comments 6.32 Mae'r Adolygiad Tir Cyflogaeth (2012), a gyhoeddwyd fel Papur Cefndir ochr yn ochr â'r Cynllun Adnau, a dadansoddiad o wybodaeth fwy diweddar yn arwain at yr angen i ddiogelu a dynodi tua 800 ha yn ardal y Cynllun, gyda 144.1 ha ychwanegol fel cyflenwad wrth gefn ar yr Ynys. Bydd y Cynllun yn:

  1. diogelu ardaloedd busnes a diwydiant sefydledig, lle bydd trosiant a phlotiau gwag yn lletya busnesau newydd;
  2. dynodi safleoedd newydd ar gyfer busnesau newydd neu alluogi busnesau presennol i ehangu;
  3. darparu cyfleoedd i fusnesau ddatblygu ar safleoedd eraill os sefydlir angen penodol na ellir ei letya ar safle a ddiogelwyd neu a ddynodwyd; a
  4. darparu cyfleoedd i fusnesau ddatblygu mewn ardaloedd gwledig.

No Comments 6.33 Mae'r rhan fwyaf o'r safleoedd a ddiogelwyd neu a ddynodwyd wedi'u lleoli yn neu'n agos at y Canolfannau a nodwyd yn y goeden aneddleoedd, gyda chysylltiadau cludiant da ac yn agos at dai er mwyn lleihau'r angen am siwrneiau car hir ac annog pobl i gerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus. Bydd yr holl safleoedd busnes a diwydiant sydd naill ai wedi'u diogelu neu eu dynodi yn y Cynllun yn cael eu hadolygu o leiaf bob pum mlynedd er mwyn sicrhau bod cyflenwad o dir effeithiol yn ardal y Cynllun.

Strategaeth Manwerthu

No Comments 6.34 Mae rhwydwaith clir o ganolfannau manwerthu yn ardal y Cynllun, sydd ar ffurf hierarchaeth. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys y canolfannau canlynol:

Tabl 10: Y Goeden Manwerthu

Gwynedd Canolfan Fanwerthu Isranbarthol Bangor
Canolfan Fanwerthu Drefol Caernarfon, Porthmadog, Pwllheli
Canolfan Fanwerthu Lleol Abersoch, Abermaw, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Criccieth, Llanberis, Nefyn, Penrhyndeudraeth, Penygroes, Tywyn
Ynys Môn Canolfan Fanwerthu Drefol Caergybi, Llangefni
Canolfan Fanwerthu Lleol Amlwch, Benllech, Biwmares, Cemaes, Llanfairpwll, Porthaethwy, Rhosneigr, Y Fali

No Comments 6.35 Mae'r Astudiaeth Anghenion Manwerthu (2012), a gyhoeddwyd fel Papur Cefndir ochr yn ochr â'r Cynllun Adnau, yn nodi'r potensial ar gyfer arwynebedd llawr ychwanegol mewn lleoliadau penodol. Nodwyd ffiniau Canol Trefi ar gyfer y canol trefi mwy o faint a restrir yn y rhwydwaith o ganolfannau ynghyd â ffiniau ar gyfer y prif ardaloedd siopa. Byddai angen i geisiadau yn y canolfannau hyn fod ar raddfa a natur gydnaws â rôl a swyddogaeth y ganolfan honno.

No Comments 6.36 Mae gofynion manwerthu tymor hir i ardal y Cynllun yn fwy anodd eu rhagweld oherwydd yr ansicrwydd economaidd i'r dyfodol yn y farchnad manwerthu yng nghanol trefi. Bydd y cyflenwad o arwynebedd llawr manwerthu yn cael ei fonitro ac os oes angen newidiadau, byddant yn cael eu trin mewn adolygiad o'r Cynllun yn y dyfodol.

Strategaeth Dai

No Comments 6.37 Ystyriwyd nifer o ddewisiadau datblygu mewn perthynas â lefelau twf tai a dosbarthiad gofodol cyffredinol cyn cyhoeddi'r Hoff Strategaeth y Cynllun ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus (Mai a Mehefin 2013). Nododd yr Hoff Strategaeth y cyfiawnhad rhesymegol dros gynnig opsiwn a oedd yn is na phrif ragolygon poblogaeth ac aelwydydd sail-2008 Llywodraeth Cymru, ond ychydig yn uwch na'r cyfraddau adeiladu tymor hir y gorffennol.

No Comments 6.38 Datgelodd y broses ymgynghori ffurfiol farn gyferbyniol am y dewis a ffafrir (gweler yr Adroddiad Ymgynghori a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r Cynllun Adnau). Ers yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch yr Hoff Strategaeth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ragolygon poblogaeth ac aelwydydd sail-2011. Mae Polisi Cynllunio Cymru (paragraff 9.2.2) yn datgan y dylai rhagolygon poblogaeth ac aelwydydd diweddaraf Llywodraeth Cymru a gynhyrchwyd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol fod yn fan cychwyn ar gyfer asesu gofynion tai'r ardal.

No Comments 6.39 Mae canfyddiadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a'r rhagolygon poblogaeth ac aelwydydd diweddaraf sail-2011 ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd i gyd yn dangos safbwyntiau cyferbyniol am y lefel o dwf tai sydd ei angen yn ardal y Cynllun hyd at 2026. Felly, gwnaed gwaith ychwanegol er mwyn sicrhau bod lefel y twf yn y Cynllun Adnau yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a diweddaraf. Ceir cofnod o'r ffactorau a ystyriwyd ym Mhapur Testun 4: Disgrifio'r Twf Tai a Gofodol (2013 a 2014), sydd yn ei dro yn cyfeirio at gyfres o Bapurau Testun perthnasol a Phapurau Cefndir eraill. Hefyd hysbyswyd y broses o ddewis targed tai sengl gan yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a'r Asesiad o'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg.

Gweld y Sylwadau (1) 6.40 Mae'r gofyniad sylfaenol ar gyfer tai (y targed) i ardal y Cynllun, h.y. 7,184, yn seiliedig ar y dystiolaeth i gyd ac mae ganddo berthynas uniongyrchol â rhagolygon twf ardal y Cynllun a dyheadau'r ddau Gyngor. Ystyrir bod cysylltu gofynion tai i ragolygon economaidd ehangach yn gwella cadernid a'r gallu i gyflenwi Strategaeth y Cynllun. Rhagwelir y bydd yn cyfrannu at roi cyfle a lle i fyw a gweithio yn ardal y Cynllun. Mae lefel y twf yn adlewyrchu effeithiau'r dirwasgiad, yn ogystal â'r rhagolygon economaidd trawsnewidiol a ddisgwylir yn nes ymlaen yn ystod cyfnod y Cynllun. Bydd y Cynllun yn hwyluso'r datblygiad sy'n ofynnol i ategu cynlluniau a rhaglenni strategol pob Cyngor. Dylai hyn olygu y bydd yr ardal yn dechrau dod yn fwy oedran-gytbwys, yn fwy annibynnol ac yn llai dibynnol ar ffynonellau allanol o lafur, gyda chyfle i leihau'r lefelau cymudo allan, a bod ar ei ffordd i fod yn set o gymunedau mwy cynaliadwy a hunangynhaliol.

Gweld y Sylwadau (1) 6.41 Er mwyn sicrhau bod gan y cyflenwad tai'r hyblygrwydd angenrheidiol ar gyfer cyflenwad parhaus o dai newydd, hyd yn oed os oes newidiadau i'r cyflenwad tir effeithiol na ellir eu rhagweld yn digwydd yn ystod cyfnod y Cynllun, ychwanegwyd lwfans llithriad o 10% at y targed cyffredinol. Felly'r gofyniad tir ar gyfer tai cyffredinol yw 7,902 i ardal y Cynllun yn ystod cyfnod y Cynllun (2011 - 2026). Mae hyn yn golygu 3,817 unedau tai i Ynys Môn a 4,084 i ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd

Gweld y Sylwadau (1) 6.42 Yn unol â'r strategaeth ofodol, bydd hyd at 55% o'r galw am dir ar gyfer tai'n cael ei gyfeirio at Fangor (y Ganolfan Isranbarthol) a'r Canolfannau Gwasanaethau Trefol gyda'i gilydd ac o leiaf 20% i'r Canolfannau Gwasanaethau Lleol. Y rhain yw'r aneddleoedd mwyaf lle ceir crynodiadau o gyfleusterau, cyfleoedd cyflogaeth a dewisiadau cludiant. Disgwylir i'r gweddill (dim mwy na 25%) gael eu cyflenwi mewn Pentrefi, Clystyrau a'r cefn gwlad.

Gweld y Sylwadau (2) 6.43 Mae oddeutu hanner y gofyniad tir ar gyfer tai cyffredinol yn cael ei ddiwallu o safleoedd tai sydd eisoes â budd caniatâd cynllunio arnynt o dan y cynlluniau datblygu presennol neu o dan ystyriaethau cynllunio materol eraill. Ceir mwy o fanylion am hyn yn Atodiad 5. Caiff y diffyg ei gwrdd drwy hap-safleoedd, adeiladau sydd eisoes yn bodoli a safleoedd newydd a ddewiswyd er mwyn cynnig hyblygrwydd a dewis. Ceir mwy o fanylion am hyn ym Mhennod 7.

No Comments 6.44 Mae'r dirwasgiad economaidd wedi cael, ac mae'n parhau i gael, effaith ar y diwydiant adeiladu tai gan fod adeiladwyr tai a phrynwyr posibl fel ei gilydd yn wynebu anawsterau i gael cyllid a morgeisi. Arweiniodd hyn at gyfraddau cwblhau is nag a welwyd yn ystod y cyfnod cyn y dirwasgiad. Felly, mae'n debygol y bydd nifer o safleoedd a nodwyd yn y Cynllun hwn yn cymryd mwy o amser i'w cyflenwi, ac mae'r amseru'n debygol o fod yn gysylltiedig â'r penderfyniad i fuddsoddi yn Wylfa Newydd a llwyddiant mecanweithiau a ddefnyddir yn yr Ardal Fenter. Rhagwelir y gellir cyflenwi tua 2,368 o unedau tai yn ystod 2011 - 2018, gyda'r gweddill yn cael eu darparu yn y rhan olaf cyfnod y Cynllun. Bydd y cyflenwad tir yn helpu i sicrhau na fydd y diffyg tir effeithiol ar gyfer tai yn dod yn rhwystr i adferiad economaidd.

Gweld y Sylwadau (1) 6.45 Gall nifer ac ansawdd y tai helpu i gwrdd ag anghenion a dyheadau amrywiol yr aelwydydd yn ardal y Cynllun, a chefnogi buddsoddiad yn yr economi.

Y Bennod Ddiwethaf || Y Bennod Nesaf
Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult