Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Sylwadau ar Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau - POLISI ADN1

ID y Sylw: 950

GWRTHWYNEBU Cydbwyllgor Ymgynghorol AHNE (Cynghorydd Gruffydd Williams)

Crynodeb:

Credir y dylid cadw at y polisi presennol (C26) o ddim tyrbinau yn yr AHNE.
Hefyd peidio a chaniatau tyrbeini uwch na 11m o fewn gwelededd yr AHNE.
Dylid defnyddio'r term 'tyrbin' yn hytrach na 'melin' sydd yn wahanol.
Credir y dylai maen prawf 2 gyfeirio at warchod gosodiad yr AHNE.
Mae pryder am y categoriau a dynodi datblygiadau dan 5MW fel rhai 'Bach'.

ID y Sylw: 894

GWRTHWYNEBU Campaign for the Protection of Rural Wales (Mr Noel Davey)

Crynodeb:

Byddai cyfyngiad o 11m o uchder yn hytrach na 15m ar gyfer tyrbinau domestig yn cyfateb yn well i gyfyngiadau datblygiadau a ganiateir. Dylid egluro'r gwahaniaeth rhwng capasiti ac allbwn. Rydym yn gwrthwynebu cael gwared ar y polisi clir a blaenllaw sydd gan Wynedd ar hyn o bryd sy'n gwahardd tyrbinau gwynt o'r AHNE. Cefnogi'r cynnig i gyfyngu tyrbinau i faint domestig yn yr ardaloedd ATA - dylid pwysleisio bod hyn yn cynnwys yr ardaloedd AHNE. Dylid ymestyn yr ardal gaiff ei gorchuddio gan yr ATA i weithredu fel byffer i rai o ardaloedd yr AHNE sy'n cael llai o warchodaeth yn Llŷn a glan y Fenai. Dylai cyfyngiadau uchder fod yn berthnasol gydag ail-bweru. Dylid cryfhau'r meini prawf pellter oddi wrth amwynder preswyl gweledol. Dylid cynnwys meini prawf arallgyfeirio ffermydd o Ganllaw Cynllunio Atodol Gwynedd yn y polisi. Dylid bod mwy o gyfeiriad at yr effaith archeolegol a diffiniad o brosiectau wedi'u lleoli yn y gymuned. Awgrymwn y newidiadau hyn:
ADN1/2: "...tu allan i'r AHNE, yr ATA, a GOSODIAD YR AHNE, y Parc Cenedlaethol..."
ADN1/3 "Yn yr AHNE, yr ATA, a GOSODIAD YR AHNE, y Parc Cenedlaethol a Safle Treftadaeth y Byd..."
Ymestyn yr ardal y mae'r ATA yn ei gorchuddio i ddarparu ardaloedd byffer mwy effeithiol i ardaloedd a ddynodwyd.
Yn yr Ardaloedd Gwarchod y Dirwedd GU10 dilynwch y canllaw LSCS ar gyfyngu tyrbinau i raddfa 'micro'.
ADN1/3 dilëwch 'yr AHNE'
Ychwanegwch ADN1/4 "Bydd ceisiadau am dyrbinau gwynt yn yr AHNE yn cael eu gwrthod".
4.17 Para 7.2.30 Rhowch y gair 'derbyniol' i mewn? 'Mae gosodiad y Parc Cenedlaethol a Safle Treftadaeth y Byd yn cyfyngu ....... DERBYNIOL..."
Tabl 13: Terfynau uchder domestig, eglurwch mai capasiti nid allbwn yw kW; dewch â'r lefel allbwn dangosol 'bychan' i lawr.
Ychwanegwch feini prawf sy'n ymwneud â chyfyngiadau defnydd ar fferm, effaith archeolegol.
Addaswch y cyfyngiadau pellter ar gyfer amwynder preswyl.

ID y Sylw: 713

GWRTHWYNEBU Mr John Eric Williams

Crynodeb:

Dylid defnyddio'r term 'Tyrbinau Gwynt' yn hytrach na 'Melinau Gwynt'. Cysyllter y term 'melinau' â melin flawd.

Paragraff 2. Anghytunaf yn llwyr â'r bwriad i ganiatau tyrbinau y tu allan i'r AHNE, Parciau Cenedlaethol a ATA os ydi y rhain yn weladwy o'r safleoedd hyn. Gall y math yma o ddatblygiad fod yr un mor niweidiol i'r safle.

Paragraff 3. Rwyf yn llwyr anghytuno â'r bwriad i ganiatau tyrbinau domestig o fewn yr AHNE, Parciau Cenedlaethol a Safleoedd Treftadaeth.

Mae'r argymhellion hyn yn groes i bolisiau presennol ac yn gwanhau a thanseilio ymdrechion i ddiogelu'r dreftadaeth sydd yn ein gofal.

ID y Sylw: 711

GWRTHWYNEBU Ms Mairede Thomas

Crynodeb:

Mae polisi ADN1 yn ddiffygiol, nid oes cyfiawnhad drosto ac nid yw'n gadarn am y rhesymau a roddir yn Adran 2c ffurflen sylwadau y CDLl ar y Cyd.

Dylid bod yna pellteroedd gwahanu rhwng tyrbeini a chartrefi.

Dylid ail gyflwyno statws ATA i tirlun canol Ynys Môn.

Dylai tabl 13 defnyddio uchderoedd tyrbeini sydd yn y CCA 2012.

Dylai unrhyw bolisi ar ddatblygu tyrbeini gwynt gymryd i ystyriaeth effaith economaidd ar dai ac eiddo ac economi yr Ynys yn enwedig y diwydiant twristiaeth.

Dylai gwarchod mwynder twristaieth sydd wedi ei gynnwys yn Cynllun Lleol Ynys Môn (1996) gael ei gynnwys o fewn y polisi ar tyrbeini gwynt.

ID y Sylw: 707

GWRTHWYNEBU Susan Talbot

Crynodeb:

1. Mae'r cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50m yn rhai 'ar raddfa fechan', mwy na chwe gwaith uchder unrhyw dŷ arferol!

2. Mae'r rhan fwyaf o'r tyrbinau yn y ffermydd gwynt presennol yng ngogledd yr ynys nawr yn 'fychan' felly bydd canol yr ynys yn cael ei drawsnewid gan ddatblygiadau ar y raddfa hon os aiff y Cynllun yn ei flaen.

3. Fe wnaeth 8,000 o lofnodion ar Ynys Môn fynegi eu dymuniad i gael isafswm pellter gwahanu o 1.5km rhwng tyrbinau mawr a phreswylwyr. Ni roddir unrhyw bellter.

ID y Sylw: 706

GWRTHWYNEBU Gwyneth Jones

Crynodeb:

Rwy'n gwrthwynebu i'r raddfa a gynigir mewn perthynas ag uchder y melinau gwynt arfaethedig o fewn tirlun o'r math sydd i'w gael ar Ynys Môn, yn enwedig gan ystyried y datblygiadau a gymerodd le yn barod.

Buaswn yn croesawu mabwysiadu y polisiau blaenorol a geir yn y CCA 2013.

ID y Sylw: 705

GWRTHWYNEBU Lesley Alexander

Crynodeb:

Mae'r CDLl ar y Cyd yn anwybyddu barn a gwrthwynebiadau Cynghorau Cymuned i dyrbinau diwydiannol canolig a mawr yn lledaenu trwy'r ardal. Nid yw coridorau bywyd gwyllt a pharthau byffer o amgylch yr AHNE wedi'u cynnwys. Bydd yr effeithiau ar dwristiaeth a'r effaith weledol ar y dirwedd yn argyfyngus ar Ynys Môn os na chaiff y CDLl ar y Cyd ei addasu. Mae'r cynllun yn awgrymu pellter gwahanu o 400m rhwng aneddiadau preswyl a thyrbin mawr! Roedd deiseb a wnaed yn 2012 fel rhan o'r ymgynghoriad ar y CCA yn gofyn am 1.5km.

Rhaid newid y Cynllun Adnau i gynnwys y newidiadau a gyflwynwyd yn y CCA, ei categoriau uchder, pellteroedd gwahanu a'u effaith ar dwristiaeth, bywyd gwyllt ac iechyd y trigolion lleol e.e. sŵn.

ID y Sylw: 700

GWRTHWYNEBU Linda Boyle

Crynodeb:

1. Beth fydd y cyfiawnhad am fecanweithiau 'sbardun' i bennu'r effaith gronnus?
2. Gellid ystyried bod effaith weledol negyddol un tyrbin mewn ardal lle nad oedd unrhyw dyrbinau o'r blaen yn ddirywiad o 100% - sut/pwy fydd yn pennu lefel yr effaith?
3. Mae is-raddio uchderau tyrbinau, fel bod 50m bellach yn cael ei ystyried yn fach, yn tanseilio canllawiau blaenorol yn ddifrifol, fel y mae'r lleihad mewn pellteroedd asesu amwynder gweledol.
4. Fe wnaeth 8,000 o lofnodion ar Ynys Môn fynegi eu dymuniad i gael isafswm pellter gwahanu o 1.5 km rhwng tyrbinau gwynt mawr a phreswylwyr, ond ni roddir unrhyw bellter.
5. Dylid cael tryloywder clir am ffactorau sbardun sydd yn penderfynu effeithiau gweledol, mwynder a cronnus ayb.
6. Rhaid cael pellteroedd gwahanu a bod unrhyw rhai sydd yn cael caniatad efo bond i alluogi datgomisiynu.

ID y Sylw: 694

GWRTHWYNEBU Mrs Kate Barker

Crynodeb:

Nid yw'r ddogfen yn gadarn oherwydd ymddengys bod rhai polisïau'n cael eu gwneud wrth gyffredinoli'n anghywir, ac nid oes digon o fanylion ar rai materion, pwysigrwydd y dirwedd o amgylch asedau treftadaeth - nid oes mecanwaith i ddangos yr ardaloedd hyn ar y mapiau cyfyngiadau. Mae'r ddogfen yn ansicr hefyd oherwydd nad yw'n rhoi ystyriaeth i ymatebion blaenorol i ymgynghoriad cyhoeddus ar y CDLl, pan wnaeth 800 o bobl anfon sylwadau yn nodi eu pryderon am ddatblygiadau tyrbinau gwynt yn 2012.
1. Angen ymestyn y cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus.
2. Angen ail gyhoeddi'r mapiau fel nad ydynt yn picseleiddio pan yn edrych ar ardal fanwl.
Uchder tyrbeini ddim uwch na 15m yn hytrach na'r 50m a geir yn y cynllun.
4. Angen pellteroedd o 1.5km neu 2km oddi wrth tai oherwydd rhesymau iechyd a colli mwynder.
5. Angen mecanwaith newydd i alluogi proses apelio yn erbyn caniatâd cynllunio sydd ddim yn golygu mynd trwy'r llysoedd.
6. Angen dangos yr ardal o amgylch yr ased treftadaeth hefyd fel ardal i'w warchod ar y mapiau cyfyngiadau, a ddim ond yr ased ei hun.

ID y Sylw: 690

GWRTHWYNEBU Mr John Irlam

Crynodeb:

Dylid ystyried isafswm pellteroedd gwahanu fel y nodir yn yr 'Astudiaeth Canllaw ar Ddefnyddio Pellteroedd Gwahanu oddi wrth Eiddo Preswyl'. Byddai tyrbinau gwynt sy'n agos at anheddau yn cael effaith andwyol. Dylid y CDLl ar y Cyd adnabod y pellter gwahanu.

ID y Sylw: 688

GWRTHWYNEBU Mrs Frances Nigogosian

Crynodeb:

Mae'r cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50m o uchder yn rhai 'ar raddfa fechan', mwy na 6 gwaith uchder unrhyw dŷ arferol! Mae'r rhan fwyaf o'r tyrbinau yn y ffermydd gwynt sydd yng ngogledd yr ynys nawr yn 'fychan' a gall canol yr ynys gael ei drawsnewid gan ddatblygiadau ar y raddfa hon ac o'r math hwn os aiff y Cynllun yn ei flaen. Mae'r Canllaw Cynllunio Atodol ar Ynni Gwynt ar y Tir Gwynedd yn cael ei daflu allan, ar ôl ymgynghoriadau cyhoeddus helaeth. Mabwysiadwy canllawiau'r CCA

ID y Sylw: 686

GWRTHWYNEBU Mr RONALD BOYLE

Crynodeb:

1. Beth fydd y cyfiawnhad am fecanweithiau 'sbardun' i bennu'r effaith gronnus? Pwy sy'n penderfynu hyn?
2. Gellid ystyried bod effaith weledol negyddol un tyrbin mewn ardal lle nad oedd unrhyw dyrbinau o'r blaen yn ddirywiad o 100% - sut/pwy fydd yn pennu lefel yr effaith?
3. Mae is-raddio uchderau tyrbinau, fel bod 50m bellach yn cael ei ystyried yn fach, yn tanseilio canllawiau blaenorol yn ddifrifol, fel y mae'r lleihad mewn pellteroedd ar gyfer asesu amwynder gweledol.
4. Fe wnaeth 8,000 o lofnodion ar Ynys Môn fynegi eu dymuniad i gael isafswm pellter gwahanu o 1.5km rhwng tyrbinau gwynt mawr a phreswylwyr, ond ni roddir unrhyw bellter.
5. Dylid cael tryloywder clir am ffactorau sbardun sydd yn penderfynu effeithiau gweledol, mwynder a cronnus ayb.
6. Rhaid cael pellteroedd gwahanu a bod unrhyw rhai sydd yn cael caniatad efo bond i alluogi datgomisiynu.

ID y Sylw: 608

GWRTHWYNEBU Mr Paul Madden

Crynodeb:

Mae maen prawf (iii) wedi'i ysgrifennu mewn Saesneg gwael, ac mae'n ymddangos fod rhai geiriau wedi'u hepgor, a dylid dileu'r gair 'sylweddol'.
Mae'r Asesiad Effaith Iechyd yn cyfeirio at leihau'r effaith ar iechyd a achosir gan sŵn, ond ni chynhwysir polisïau manwl ar iechyd yn yr adran hon.
Nid oes unrhyw gydnabyddiaeth bod tyrbinau gwynt a'u hagosrwydd yn gallu arwain at iechyd gwael i breswylwyr.
Dim ond ar faterion tirwedd a gweledol y mae'r adroddiad ar bellteroedd gwahanu yn canolbwyntio. Dylai'r Cyngor fod wedi comisiynu adroddiad annibynnol i ymdrin â iechyd gwael o ganlyniad i allyriadau sŵn.

ID y Sylw: 603

GWRTHWYNEBU John & Ann Baum

Crynodeb:

Mae CCA ar Ynni Gwynt ar y Tir Gwynedd 2012/13 yn cael ei anwybyddu.

Mae tyrbinau gwynt 50m yn cael eu galw'n rhai 'ar raddfa fechan'- mwy na 6 gwaith uchder unrhyw dŷ arferol.

Byddai nifer o dyrbinau ar ffermydd gwynt yr ynys yn cael eu dosbarthu'n 'fach', gan greu cyfleoedd am ddatblygiadau diwydiannol eang.

Buasem yn hoffi i ddarpariaethau CCA 2012/2013 gael eu defnyddio ar gyfer tyrbinau gwynt yn hytrach na chynigion y CDLl ar y Cyd yn y Cynllun Adnau.

ID y Sylw: 601

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Cwm Cadnant (Mr Alun Foulkes)

Crynodeb:

Bydd Polisi ADN 1 yn cael effaith andwyol ac nid yw'n gynllun defnydd tir cynaliadwy i amgylchedd, cymdeithas, economi na diwylliant Ynys Môn.
Dylai pwynt 1 gyfyngu uchder y tyrbin i 50 metr at frig y llafn.
Dylai pwynt 2 gyfyngu uchder y tyrbin i 15 metr at frig y llafn.
Dylai pwynt 3 gyfyngu uchder y tyrbin i 11.1 metr at frig y llafn.
Dylid ehangu'r meini prawf a restrir yn i) i vii) i gynnig gwell gwarchodaeth i ddynodiadau ac asedau lleol yn ogystal â rhai cenedlaethol.

ID y Sylw: 596

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Cwm Cadnant (Mr Alun Foulkes)

Crynodeb:

Nid yw polisi ADN1 yn ei ffurf bresennol yn dangos barn dda. Bydd yn cael effaith andwyol ac nid yw'n gynllun defnydd tir cynaliadwy i amgylchedd, cymdeithas, economi a diwylliant Ynys Môn.

Dylai pwynt 1 gyfyngu uchder y tyrbin i 50 metr at frig y llafn.
Dylai pwynt 2 gyfyngu uchder y tyrbin i 15 metr at frig y llafn.
Dylai pwynt 3 gyfyngu uchder y tyrbin i 11.1 metr at frig y llafn.

Dylid ehangu'r meini prawf a restrir yn i) i vii) i gynnig gwell gwarchodaeth i ddynodiadau ac asedau lleol yn ogystal â rhai cenedlaethol.

ID y Sylw: 593

GWRTHWYNEBU Lawrence Cotter

Crynodeb:

Mae CCA 2013 yn cael ei anwybyddu. Mae tyrbinau gwynt 50 metr, sydd ddwbl uchder Tŵr Marcwis Môn, erbyn hyn yn cael eu categoreiddio yn 'raddfa fechan' heb unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus.
Newid: Dylid cadw a chynnal y darpariaethau ynglŷn â thyrbinau gwynt ar y tir y cytunwyd arnynt yn nogfen CCA 2013 yn y Cynllun Adnau.

ID y Sylw: 591

GWRTHWYNEBU Campaign for the Protection of Rural Wales (Mrs Maureen Parry Williams)

Crynodeb:

Mae polisi ADN1 yn bolisi cynllunio diffygiol i Ynys Môn. Mae polisi sy'n cyfyngu'r ardal ble gall tyrbeini newydd gael ei adeiladu yn hanfodol i Ynys Môn. Rhaid ail sefydlu yr ATA i'r tirwedd yng nghanol yr Ynys. Dylid lleihau uchder tyrbeini newydd a gefnogir yn y polisi i'r rhai hynny a restrir yn yr ymgynghoriad i'r CCA yn 2012. Rhaid cael parth byffer rhwng tyrbeini a thai yn unol fel y CCA yn 2013.

ID y Sylw: 590

GWRTHWYNEBU Mr & Mrs K Street

Crynodeb:

Gwrthwynebu tyrbinau mawr (50m +) yn cael eu hadeiladu ar draws yr Ynys. Mae'r CCA wedi cael ei anwybyddu.

ID y Sylw: 589

GWRTHWYNEBU Dorothy Prestwich

Crynodeb:

Gwrthwynebu tyrbinau mawr (50m +) yn cael eu hadeiladu ar draws yr Ynys. Mae'r CCA wedi cael ei anwybyddu.

ID y Sylw: 588

GWRTHWYNEBU Janet Smith

Crynodeb:

Gwrthwynebu: Ail ddosbarthu tyrbinau gwynt 50 metr yn rhai 'ar raddfa fechan'.

Gwrthwynebu: Effaith yr ailddosbarthu hwn, y bydd ffermydd gwynt presennol sydd yng ngogledd yr ynys yn 'fach', fyddai'n galluogi trawsnewid yr Ynys yn ddatblygiad diwydiannol ar raddfa fawr.

Gwrthwynebu: Mae'r CCA ar Ynni Gwynt ar y Tir Gwynedd yn cael ei daflu allan, ar ôl ymgynghoriadau cyhoeddus trwyadl.

Rwyf eisiau gweld darpariaethau'r CCA ar dyrbinau gwynt a ganiatawyd yn 2012/13 yn cymryd lle darpariaethau'r CDLl ar y Cyd yn y Cynllun Adnau.

ID y Sylw: 587

GWRTHWYNEBU Honey Tolman

Crynodeb:

Mae'r Cynllun yn anwybyddu'r CCA sy'n gosod cyfyngiadau ar dyrbinau gwynt. Yn hurt iawn, mae'r Cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50 metr yn rhai 'ar raddfa fechan'. Mae'n bosib y caiff harddwch gwledig Ynys Môn ei ddifrodi am byth gan ddatblygiadau enfawr na fyddai byth yn cael eu caniatáu ar gyfer prosiectau diwydiannol eraill. Roedd y CCA wedi mabwysiadu pellter gwahanu o 1.5km rhwng cartrefi a thyrbinau mawr. Mae hyn yn cael ei anwybyddu.

ID y Sylw: 586

GWRTHWYNEBU Philip Tolman

Crynodeb:

Mae'r Cynllun yn anwybyddu'r CCA sy'n gosod cyfyngiadau ar dyrbinau gwynt. Yn hurt iawn, mae'r Cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50 metr yn rhai 'ar raddfa fechan'. Mae'n bosib y caiff harddwch gwledig Ynys Môn ei ddifrodi am byth gan ddatblygiadau enfawr na fyddai byth yn cael eu caniatáu ar gyfer prosiectau diwydiannol eraill. Roedd y CCA wedi mabwysiadu pellter gwahanu o 1.5km rhwng cartrefi a thyrbinau mawr. Mae hyn yn cael ei anwybyddu.

ID y Sylw: 585

GWRTHWYNEBU Mr David G. Thomas

Crynodeb:

Nid yw'r CDLl yn ystyried effaith tyrbinau gwynt ar nen-linell Ynys Môn a'r diwydiant twristiaeth y mae'n dibynnu cymaint arno. Newid: Dylid cynnwys "ar raddfa fechan ac ar" cyn "raddfa ganolig..." ii) "melinau gwynt ar Raddfa Ficro" - dileu "a bychan" y tu allan i'r AHNE a chynnwys "neu fyffer o ddwy gilomedr", ATA iii) Polisi ADN2 "Dylai pob cynnig gydymffurfio â'r meini prawf a ganlyn: vii Tua'r diwedd ar ôl "a chytunir" dylid ychwanegu "cyn dechrau unrhyw waith".

ID y Sylw: 584

GWRTHWYNEBU Gillian Coates

Crynodeb:

Bydd y Cynllun Adnau yn troi Ynys Môn yn fferm wynt enfawr. Rwyf yn gwrthwynebu bod tyrbinau gwynt 50 metr yn cael eu diffinio fel rhai 'graddfa fach'.
Newid: Hoffwn weld darpariaethau'r CCA o ran tyrbinau gwynt, a ganiatawyd yn 2012/2013, yn cymryd lle darpariaethau'r CDLl ar y Cyd sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Adnau.

ID y Sylw: 583

GWRTHWYNEBU Mr Ralph Morris

Crynodeb:

Bu i Gyngor Môn gytuno ar CCA, sy'n nodi cyfyngiadau ar dwf tyrbinau gwynt. Mae'r cynllun hwn yn anwybyddu'r penderfyniadau hynny yn llwyr. Mae'r cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50m yn rhai 'ar raddfa fechan', mwy na 6 gwaith uchder unrhyw dŷ arferol! Yn fwyaf sydyn, mae'r rhan fwyaf o'r tyrbinau yn y ffermydd gwynt sydd yng ngogledd yr ynys yn 'fychan' nawr a gall canol yr ynys gael ei drawsnewid gan ddatblygiadau ar y raddfa hon ac o'r math hwn os yw'r Cynllun yn mynd yn ei flaen. Ni fyddai datblygiadau eraill ar raddfa ddiwydiannol mor fawr yn cael y fath ben rhyddid.

ID y Sylw: 582

GWRTHWYNEBU Mr David G. Thomas

Crynodeb:

Dwi'n gwrthwynebu'r hyn osodir ar gyfer tyrbinau gwynt yn Ynys Mon. Nid ydynt yn cynnwys y cyfyngiadau a gytunwyd yn y Canllawiau Cynllunio Strategol a gafodd eu cymeradwyo gan GSYM ar 24 Ionawr 2013 ac a gadarnhawyd i'w gynnwys yn y CDLl gan y Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar 7 Mawrth 2014. Nid yw'r CDLl yn talu sylw i effaith tyrbinau gwynt ar y gorwel yn Ynys Mon a'r diwydiant twristiaeth mae'n dibynnu gymaint arno. Fe ddylai cyfyngiadau fod yn glir er mwyn osgoi ceisiadau sydd ddim yn briodol ac apeliadau costus. Mae'r Cynllun fel mae o wedi ysgrifennu yn agored i gamddefnydd gan ddatblygwyr cyfoethog.

ID y Sylw: 581

GWRTHWYNEBU Nigel Peacock

Crynodeb:

Ni ddylid caniatáu tyrbinau gwynt nad ydynt yn dyrbinau gwynt domestig yn unrhyw ran o ardal y cynllun.
Newidiadau: Dylai'r cynllun warchod yr amgylchedd a chefn gwlad nid yn unig o ran darparu llety gwyliau ond hefyd mewn perthynas ag adeiladu llawer mwy o dyrbinau gwynt niweidus.

ID y Sylw: 580

GWRTHWYNEBU Dr Morag McGrath

Crynodeb:

Mae CCA 2013 yn sefydlu lleiafswm pellter gwahanu oddi wrth eiddo preswyl neu eiddo twristiaid o 500m neu 20 gwaith yr uchder at frig y llafn, pa bynnag un yw'r mwyaf. Mae'r ddogfen hon wedi anwybyddu'r CCA yn llwyr. Mae tabl 14 yn cyfeirio at yr effaith weledol yn unig, ond mae'r broblem sŵn hefyd yn berthnasol.
Newid: Ailgyflwyno'r polisïau yn CCA 2013 sy'n ymwneud â lleiafswm phellteroedd gwahanu rhwng tyrbinau gwynt ar y tir ac eiddo preswyl neu eiddo i dwristiaid.

ID y Sylw: 579

GWRTHWYNEBU Dr Morag McGrath

Crynodeb:

Mae'r cynigion yn anwybyddu'n llwyr CCA 2013 ar dyrbinau gwynt ar y tir. Yn benodol mae meintiau'r tyrbinau a ganiateir yn yr amrywiol gategorïau wedi cael eu cynyddu'n fawr.
Newidiadau: Dylid ailgyflwyno'r categorïau maint ar gyfer tyrbinau ar y tir sydd yn CCA 2013 a'r cynigion perthnasol.

ID y Sylw: 578

GWRTHWYNEBU JULIA DOBSON

Crynodeb:

Mae'r Cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50m yn rhai ar 'raddfa fechan', mwy na 6 gwaith uchder unrhyw dŷ arferol!

Mae'r rhan fwyaf o'r tyrbinau yn y ffermydd gwynt yng ngogledd yr ynys yn 'fychan' a gall canol yr ynys gael ei drawsnewid gan ddatblygiadau ar y raddfa hon ac o'r math hwn os aiff y Cynllun yn ei flaen.

Mae'r CCA ar Ynni Gwynt ar y Tir Gwynedd yn cael ei daflu allan, wedi ymgynghoriadau cyhoeddus trwyadl.

Rwyf eisiau i ddarpariaethau'r CCA o ran tyrbinau gwynt a ganiatawyd yn 2012/13 gymryd lle darpariaethau'r CDLl ar y Cyd yn y Cynllun Adnau.

ID y Sylw: 577

GWRTHWYNEBU Trevor Jones

Crynodeb:

Mae'r cynllun yn anwybyddu'r CCA sydd wedi'i gytuno eisoes ac sy'n chwilio i gyfyngu ar dwf tyrbinau gwynt. Os caiff ei fabwysiadu, bydd yn rhoi rhwydd hynt i ddatblygu tyrbinau gwynt mawr ar raddfa ddiwydiannol a hynny heb unrhyw gyfyngiadau. Ni ddylid caniatáu anwybyddu'r Canllawiau hyn.
Newidiadau: Dylid dileu'r cynigion ynghylch uchder a dosbarthiad tyrbinau gwynt a defnyddio argymhellion y CCA.

ID y Sylw: 576

GWRTHWYNEBU G Warren

Crynodeb:

Mae'r Cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50m yn rhai ar 'raddfa fechan', mwy na 6 gwaith uchder unrhyw dŷ arferol!

Mae'r rhan fwyaf o'r tyrbinau yn y ffermydd gwynt yng ngogledd yr ynys yn 'fychan' a gall canol yr ynys gael ei drawsnewid gan ddatblygiadau ar y raddfa hon ac o'r math hwn os aiff y Cynllun yn ei flaen.

Mae'r CCA ar Ynni Gwynt ar y Tir Gwynedd yn cael ei daflu allan, wedi ymgynghoriadau cyhoeddus trwyadl.

Rwyf eisiau i ddarpariaethau'r CCA o ran tyrbinau gwynt a ganiatawyd yn 2012/13 gymryd lle darpariaethau'r CDLl ar y Cyd yn y Cynllun Adnau.

ID y Sylw: 572

GWRTHWYNEBU Mrs E C Davies

Crynodeb:

Nid yw darpariaethau'r CCA wedi'u hymgorffori yn y Cynllun Adnau hwn. Roedd bron i 8,000 o breswylwyr wedi arwyddo deiseb yn erbyn datblygiadau pellach o dyrbinau gwynt ar raddfa masnachol (> 15m i flaen y llafn) ar yr ynys.

Dylai datblygiadau tyrbinau gwynt tu allan i'r ardal a nodir ym mharagraff 7.2.30 y Cynllun gael eu cyfyngu i dyrbinau ar raddfa domestig (< 15m i flaen y llafn) a dylent fod â pherthynas dda ag aneddiadau/adeiladau sy'n bodoli ac ni ddylent fod wedi'u gwasgaru dros gefn gwlad agored.

Yr unig eithriad fyddai ail bweru tyrbinau sy'n bodoli a dylent gael eu hamnewid ar sail un i un gan dyrbinau mwy effeithlon a llai swnllyd o'r un uchder.

ID y Sylw: 568

GWRTHWYNEBU Mr John E. Williams

Crynodeb:

Nid yw Tabl 14 yn realistig. Mae'n defnyddio maen prawf effaith weledol sydd ddim yn cynnwys effeithiau gwybyddol, seicolegol na mecanyddol. Mae'r pellteroedd gwahanu wedi cael eu ffurfio er mwyn ffitio'r tyrbinau mwyaf bosib yn yr ardaloedd cyfyng sydd ar gael ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd heb adlewyrchu'n ddigonol ar arfer mewn ardaloedd eraill ym Mhrydain a thramor. Mae angen newid teitl y rhan hon yn Barth Effaith Gorfforol/Meddyliol a dylid adlewyrchu pryderon yr 8000 o drethdalwyr a lofnododd y ddeiseb yn 2012 yn briodol. Dylid mabwysiadu pellter gwahanu o 1.5km.

ID y Sylw: 567

GWRTHWYNEBU Mrs Erica Cooper

Crynodeb:

Rwyf yn gwrthwynebu'r ffaith fod y Canllaw Cynllunio Atodol ar Ynni Gwynt ar y Tir (CCA 2012/13) y cytunwyd arno ar ôl llawer o ymgynghori cyhoeddus bellach yn cael ei anwybyddu. Mae'r ddeiseb gan 8000 o drigolion yn 2012, a oedd eisiau pellter gwahanu o 1.5km rhwng tyrbinau masnachol ac ardaloedd preswyl am resymau diogelwch ac estheteg hefyd yn cael ei hanwybyddu. Mae'r cynllun adnau hwn nawr wedi ail-ddosbarthu tyrbinau gwynt 50 medr yn rhai ar raddfa fechan! Sut ellir eu galw yn fach pan maent yn ddwbl uchder Colofn Marcwys Sir Fôn? Felly, bydd y cynllun hwn yn arwain at anffurfio harddwch Ynys Môn drwy ganiatáu tyrbinau ar wasgar drwy'r ynys.

ID y Sylw: 566

GWRTHWYNEBU Mrs Nanette Tivy-Jones

Crynodeb:

Yn 2012/2013, bu i Gyngor Ynys Môn greu, ymgynghori a chytuno ar CCA oedd yn datgan cyfyngiadau penodol ar dyfiant tyrbinau gwynt. Nid yw'r cynllun adnau hwn yn cydymffurfio â'r penderfyniadau hyn o gwbl. Byddai'r cynllun adnau newydd hwn yn ail-ddosbarthu tyrbinau gwynt sydd eisoes yn bodoli yng ngogledd yr ynys fel rhai bychain, ac yn caniatáu i fewndir yr ynys gael ei ecsploetio er mwyn ei ddatblygu. Gwrthwynebaf yn gryf â hyn, oherwydd caiff effeithiau trychinebus ar economi twristiaeth a bywyd gwyllt sylweddol yr ynys. Ni roddir y lefel hon o hyblygrwydd i ddatblygiadau eraill ar raddfa ddiwydiannol fel hyn ar yr ynys.

ID y Sylw: 565

GWRTHWYNEBU Jonathan Tivy-Jones

Crynodeb:

Rwyf yn gwrthwynebu'r ffaith fod y Canllaw Cynllunio Atodol ar Ynni Gwynt ar y Tir (CCA 2012/13) y cytunwyd arno ar ôl llawer o ymgynghori cyhoeddus bellach yn cael ei anwybyddu. Mae'r ddeiseb gan 8000 o drigolion yn 2012, a oedd eisiau pellter gwahanu o 1.5km rhwng tyrbinau masnachol ac ardaloedd preswyl am resymau diogelwch ac estheteg hefyd yn cael ei hanwybyddu. Mae'r cynllun adnau hwn nawr wedi ail-ddosbarthu tyrbinau gwynt 50 medr yn rhai ar raddfa fechan! Sut ellir eu galw yn fach pan maent yn ddwbl uchder Colofn Marcwys Sir Fôn? Felly, bydd y cynllun hwn yn arwain at anffurfio harddwch Ynys Môn drwy ganiatáu tyrbinau ar wasgar drwy'r ynys.

ID y Sylw: 564

GWRTHWYNEBU Christopher and Eleni Marjot

Crynodeb:

Roedd CCA Môn ar 'Ynni Gwynt ar y Tir' yn argymell pellteroedd llawer mwy addas rhwng aneddiadau a thyrbinau gwynt. Nid yw'r rhain wedi'u defnyddio yn nrafft y CDLl ar y Cyd. Rwyf eisiau i'r CDLl ar y Cyd gydymffurfio â'r argymhellion ar gyfer pellteroedd gwahanu i fod yr un fath â'r rhai yn CCA Môn.

ID y Sylw: 562

GWRTHWYNEBU Christopher and Eleni Marjot

Crynodeb:

Mae galw tyrbinau gwynt 50m yn rhai 'bychan' yn anghywir. Efallai eu bod yn 'fychan' o ran y pŵer y maent yn ei gynhyrchu, ond NID YDYNT yn 'fychan' o gymharu ag eiddo preswyl a'u hedrychiad yn y dirwedd. Mae angen addasu terminoleg y dosbarthiad fel nad yw'n dwyllodrus.

ID y Sylw: 561

GWRTHWYNEBU Dr B L Davies

Crynodeb:

Nid yw darpariaethau'r CCA wedi'u hymgorffori yn y Cynllun Adnau hwn. Roedd bron i 8,000 o breswylwyr wedi arwyddo deiseb yn erbyn datblygiadau pellach o dyrbinau gwynt ar raddfa masnachol (> 15m i flaen y llafn) ar yr ynys.

Dylai datblygiadau tyrbinau gwynt tu allan i'r ardal a nodir ym mharagraff 7.2.30 y Cynllun gael eu cyfyngu i dyrbinau ar raddfa domestig (< 15m i flaen y llafn) a dylent fod â pherthynas dda ag aneddiadau/adeiladau sy'n bodoli ac ni ddylent fod wedi'u gwasgaru dros gefn gwlad agored.

Yr unig eithriad fyddai ail bweru tyrbinau sy'n bodoli a dylent gael eu hamnewid ar sail un i un gan dyrbinau mwy effeithlon a llai swnllyd o'r un uchder.

ID y Sylw: 560

GWRTHWYNEBU Mr John E. Williams

Crynodeb:

Ni wnaed ymgais i wahaniaethu rhwng Ynys Môn a Gwynedd o ran cyfyngiadau a orfodir gan dopograffi ar geisiadau cynllunio yn ymwneud â'r Parc Cenedlaethol a'r AHNE. Caiff hyn effaith uniongyrchol ar y tir sydd ar gael i geisiadau cynllunio tyrbinau. Nid yw oddeutu 20% o Wynedd yn gorwedd yn y Parc Cenedlaethol na'r AHNE. Nid yw oddeutu 80% o Fôn yn gorwedd yn ei AHNE. Felly, mae baich ceisiadau ailadroddus y cwmnïau ynni yn disgyn ar Ynys Môn, gyda'r goblygiadau arfordirol a'r gostyngiad mewn gwasanaethau yn cael eu hysgwyddo gan drethdalwyr Ynys Môn.

ID y Sylw: 559

GWRTHWYNEBU Jonathan Tivy-Jones

Crynodeb:

Mae'r Cynllun yn dosbarthu tyrbinau gwynt 50 metr yn rhai 'ar raddfa fechan'. Mae hyn dros chwe gwaith uchder tŷ arferol.

Mae cyfran helaeth o'r tyrbinau sy'n bodoli ar yr ynys yn cael eu hail-gategoreiddio yn 'fychan' a gall canol yr ynys gael ei thrawsffurfio gan ddatblygiadau ar y raddfa hon ac o'r math hwn os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen.

Mae'r CCA ar Ynni Gwynt ar y Tir yn cael ei daflu allan, ar ôl ymgynghoriadau cyhoeddus trwyadl.

Rwyf yn mynnu gweld y darpariaethau ynglŷn â thyrbinau gwynt ar y tir a gytunwyd yn y CCA yn 2012/13 ac iddynt gymryd lle darpariaethau'r CDLl ar y Cyd sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Adnau.

ID y Sylw: 558

GWRTHWYNEBU Sarah Irlam

Crynodeb:

Mae'r Cynllun yn dosbarthu tyrbinau gwynt 50 metr yn rhai 'bychain'. Petai'r Cynllun yn mynd yn ei flaen, byddai bron yr holl ynys wedi'i gorchuddio â datblygiadau ar y raddfa hon. Mae'r CCA ar ynni gwynt ar y tir yn cael ei ddiystyru.

Rwyf eisiau gweld darpariaethau'r CCA o ran tyrbinau gwynt a ganiatawyd yn 2012/13 yn cymryd lle darpariaethau'r CDLl ar y Cyd a gynhwysir yn y Cynllun Adnau.

Dylid cadw at sensitifrwydd y dirwedd a'i chapasiti yn Ynys Môn, Gwynedd a PCE.

Rhaid i'r Cynllun Adnau ddiogelu'r ardaloedd arbennig hyn a dylid cynnwys mwy yn enwedig y pellter o'r AHNE, Safleoedd SODdGA, Ardaloedd Tirwedd Arbennig, Ardaloedd ACA.

ID y Sylw: 557

GWRTHWYNEBU John Alexander

Crynodeb:

Mae'r CCA a'r diwygiadau sy'n destun i ymgynghoriad yn cael ei anwybyddu. Bydd ail-gategorïo graddfa a maint y tyrbinau gwynt yn galluogi ail-bweru tyrbinau llai yng ngogledd yr ynys. Bydd yn galluogi i dyrbinau ymestyn ar draws yr holl sir (mae hyn yn erbyn canllawiau TAN8). Nid oes sôn am barthau byffer/coridorau bywyd gwyllt fyddai'n amddiffyn ardaloedd allweddol yr AHNE. Mae'r CCA yn cael ei anwybyddu. Nid yw'r pellteroedd a ddyfynnir y byddai'r tyrbinau'n cael eu lleoli oddi wrth eiddo ac a fyddai'n sbarduno asesiad yn dderbyniol ac nid ydynt yn bodloni gofynion y cyhoedd.
Dylai'r CCA a basiwyd yn 2012/13, ynghyd â'r diwygiadau, ddisodli darpariaethau'r CDLl ar y Cyd yn y Cynllun Adnau. Dylid cymryd materion iechyd a diogelwch o ran sŵn i ystyriaeth o ddifri. Mae angen creu parth byffer a choridor bywyd gwyllt o dde'r ynys i'r gogledd-ddwyrain. Ni ddylid caniatáu tyrbinau gwynt yn yr ardal hon. Nid yw tyrbinau 50m yn rai bach ac maent yn anaddas i dopograffeg yr ynys.

ID y Sylw: 556

GWRTHWYNEBU Vicky Gregory

Crynodeb:

Datgan Ynni Gwynt ar y Tir y Cynllun y 'CEFNOGIR datblygiadau ynni gwynt ar raddfa fechan y tu allan i'r AHNE, ATA a gosodiad y Parc Cenedlaethol a Safle Treftadaeth y Byd'. Mae'r Cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50m yn rhai 'ar raddfa fechan', sy'n sylweddol uwch na'r dosbarthiad a geir yn CCA 2013. Mae goblygiadau hyn i ddyfodol yr ynys yn peri pryder gyda'r posibilrwydd y bydd tirweddau sydd heb eu difetha'n cael eu newid mewn ffordd ddramatig yn y blynyddoedd i ddod a bydd ardaloedd y gogledd yn parhau i gael eu diwydiannu ar raddfa hyd yn oed yn fwy gan ormesu'r dirwedd.

ID y Sylw: 555

GWRTHWYNEBU Isabel Hargreaves

Crynodeb:

Yn 2012/13 fe ddaru Ynys Môn gytuno ar CCA oedd efo cyfyngiadau penodol ar dyrbeini gwynt a mae'r Cynllun Adnau wedi anwybyddu rhain. Mae wedi ail gategorieddio tyrbeini 50m fel rhai 'bach' a mae oblygiadau hyn i ddatblygu tyrbeini gwynt yn y dyfodol yn anferthol a bydd yn cael effaith niweidiol ar harddwch naturiol gwledig yr Ynys. Bydd effaith posib ar dwristiaeth a safon byw trigolion yr Ynys yn sylweddol a negyddol. Fe wnaeth 8000 o drigolion ymateb i'r ymgynghoriad ar y CCA yn galw am pelleroedd gwahanu o 1.5km rhwng tyrbeini masnachol a trigolion. Mae angen i cynnwys y CCA 2013 ddisodli y Cynllun Adnau.

ID y Sylw: 554

GWRTHWYNEBU Ralph Morris

Crynodeb:

Mae'r Cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50m yn rhai 'ar raddfa fechan', mwy na 6 gwaith uchder unrhyw dŷ arferol. Mae'r rhan fwyaf o'r tyrbinau yn y ffermydd gwynt sydd yng ngogledd yr ynys bellach yn 'fychan' a gall canol yr ynys gael ei drawsnewid gan ddatblygiadau ar y raddfa hon a'r o'r math hwn os yw'r Cynllun yn mynd yn ei flaen. Mae'r CCA ar Ynni Gwynt ar y Tir yn cael ei daflu allan, ar ôl ymgynghoriadau cyhoeddus trwyadl.

ID y Sylw: 552

GWRTHWYNEBU Gareth Porter

Crynodeb:

Mae'r Cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50m yn rhai 'ar raddfa fechan', mwy na 6 gwaith uchder unrhyw dŷ arferol. Mae'r rhan fwyaf o'r tyrbinau yn y ffermydd gwynt sydd yng ngogledd yr ynys bellach yn 'fychan' a gall canol yr ynys gael ei drawsnewid gan ddatblygiadau ar y raddfa hon ac o'r math hwn os yw'r Cynllun yn mynd yn ei flaen. Mae'r CCA ar Ynni Gwynt ar y Tir Gwynedd yn cael ei daflu allan, ar ôl ymgynghoriadau cyhoeddus trwyadl.

ID y Sylw: 551

GWRTHWYNEBU Robert MacAulay

Crynodeb:

Bydd paragraff 7.2 polisi ADN1 yn caniatáu adeiladu tyrbinau gwynt mawr ar hyd a lled Ynys Môn heb gyfyngiadau. Y ddau 'ddiwydiant' mwyaf ar yr Ynys yw ffarmio a thwristiaeth a bydd y polisi arfaethedig yn gweithio i ddifrodi neu beri lleihad sylweddol yn yr olaf trwy ddifetha'r tawelwch a'r golygfeydd di-dor (gan fwyaf) y mae'r rhan fwyaf o dwristiaid yn dod i'w gweld. Efallai y bydd y cynnig yn creu ychydig mwy o ynni gwyrdd i'r DU, fodd bynnag effaith hyn fydd cyfoethogi ambell un a hynny ar draul gweddill preswylwyr yr ynys, a'i hymwelwyr.

ID y Sylw: 550

GWRTHWYNEBU Mr DJ & Mrs JL Hart

Crynodeb:

Mae'r Cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50m yn rhai 'ar raddfa fechan', mwy na 6 gwaith uchder unrhyw dŷ arferol. Mae'r rhan fwyaf o'r tyrbinau yn y ffermydd gwynt sydd yng ngogledd yr ynys bellach yn 'fychan' a gall canol yr ynys gael ei drawsnewid gan ddatblygiadau ar y raddfa hon ac o'r math hwn os yw'r Cynllun yn mynd yn ei flaen. Mae'r CCA ar Ynni Gwynt ar y Tir yn cael ei daflu allan, ar ôl ymgynghoriadau cyhoeddus trwyadl.

ID y Sylw: 549

GWRTHWYNEBU Mrs M.A. Ayliffe

Crynodeb:

a) Nid yw tyrbinau 50m o uchder yn perthyn i'r dosbarth bychan yn y CCA. Mae uchder y rhain yn 20/25m.
b) Ym mhegwn gogleddol yr ynys y ceir y rhan fwyaf o'r tyrbinau 'bychan' a hynny mewn clystyrau fydd yn peri problemau i'r preswylwyr lleol fel yr amlinellir yn y CCA os fyddant yn cael eu cynyddu i 50m.
c) Mae'r cyngor yn anwybyddu CCA 2012/13 a gafodd ei benderfynu yn dilyn ymgynghori'n helaeth â'r cyhoedd.

ID y Sylw: 548

GWRTHWYNEBU Mr N.F. & Mrs C.W. Roberts

Crynodeb:

Mae nodweddion cyffredin yn cynnwys sŵn, yr effaith amlwg ar dirwedd o harddwch naturiol, a'r effaith sylweddol ar fusnesau lleol a chyflogaeth leol yn y diwydiannau arlwyo a thwristiaeth. Bydd tyrbinau o'r uchder a gynigir (hyd at 50m) yn difetha golygfeydd o'r dirwedd ac yn effeithio ar dwristiaeth.

ID y Sylw: 547

GWRTHWYNEBU mr nigel ayliffe

Crynodeb:

Nid yw paragraff 7.2 ymlaen yn adlewyrchu agweddau o'r canllawiau cynllunio atodol a gafodd eu llunio yn dilyn ymgynghoriad helaeth â thrigolion yn 2012/13. Mae'r prif bwyntiau fel a ganlyn:
i) isafswm pellter gwahanu o 1.5km rhwng tai preswylwyr a thyrbinau diwydiannol.
ii) mae dosbarthu tyrbinau 50m fel rhai bach yn annealladwy. Roedd y preswylwyr wedi cytuno y dylid caniatáu tyrbinau gwynt 'bach' (20/25m) i ffermwyr ac ati. Nid yw 50m yn fychan, mae'n fawr ac yn ddiwydiannol.

ID y Sylw: 546

GWRTHWYNEBU Elfed Jones

Crynodeb:

Dylai uchder tyrbinau bychan fod yn 20m, fel y dywed y CCA, nid yn 50m. Mae'r CCA yn cael ei anwybyddu ar ôl ymateb na welwyd mo'i debyg o'r blaen. Byddai'r Cynllun hwn yn troi tu mewn i'r ynys yn un fferm wynt fawr ag ynddi dyrbinau gwynt 50m 'bychan'.

ID y Sylw: 545

GWRTHWYNEBU Mrs Candy Jones

Crynodeb:

Nid yw 50m yn dyrbin gwynt bychan. Mae'r CCA yn cael ei anwybyddu. Mae'n bosib y gellid gorchuddio canol yr ynys i gyd mewn tyrbinau 50m os caiff y Cynllun ei fabwysiadu.

ID y Sylw: 544

GWRTHWYNEBU mr stephen kneale

Crynodeb:

Mae'r Cynllun yn llwyr anwybyddu'r penderfyniadau a gytunwyd arnynt yn dilyn ymgynghoriad helaeth â'r cyhoedd. Mae'r Cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50 metr yn rhai 'ar raddfa fechan', sy'n hurt. Byddai fferm wynt ddiwydiannol Rhyd-y-Groes Amlwch fel y mae ar hyn o bryd yn un "ar raddfa fechan". Pe bai datblygiadau eraill ar y raddfa hon yn cael eu caniatáu ar yr ynys, byddai hynny'n difetha Ynys Môn fel cyrchfan dwristiaeth. Dylid cadw'r categorïau uchder sydd wedi'u cynnwys yn y CCA presennol. Dylid hefyd cadw'r pellter derbyniol rhwng tyrbinau a thai fel y caiff ei nodi yn y CCA.

ID y Sylw: 543

GWRTHWYNEBU Richard & Sheila Perry

Crynodeb:

Rydym yn gwrthwynebu ailwampio meini prawf maint tyrbinau - ystyrir tyrbinau 50m bellach yn rhai 'ar raddfa fechan'. A dweud y gwir, mae'r rhain yn weladwy iawn o nifer o leoliadau ar hyd rhan ogleddol yr ynys, y llwybr arfordirol a'r AHNE. Daw ymwelwyr i'r ynys i fwynhau tirweddau'r AHNE/yr arfordir ac maent yn darparu incwm hanfodol i fusnesau twristiaeth Ynys Môn yn ystod yr haf. Ni fyddant yn mwynhau eu hymweliad os nad oes dim i'w weld ar yr ynys oni bai am dyrbinau gwynt llawer uwch, wedi'u gwasgaru'n llawer ehangach nag y maent ar hyn o bryd.

ID y Sylw: 542

GWRTHWYNEBU Dr Stephen Baker

Crynodeb:

Mae'r cynllun yn galw tyrbinau gwynt 50 metr yn rhai 'ar raddfa fechan'.
Golyga hyn fod y rhan fwyaf o'r tyrbinau ar Ynys Môn ar hyn o bryd yn rhai 'bychan' - afresymol
Ymddengys bod yr ymgynghori cyhoeddus wedi cael ei anwybyddu.

ID y Sylw: 541

GWRTHWYNEBU Mrs Pam Lee

Crynodeb:

Dylid derbyn yr hyn a ganlyn:
1) CCA 2012/13
2) Pellter gwahanu o 1.5km
3) Ailddosbarthu tyrbinau 'ar raddfa fechan'

ID y Sylw: 540

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Tudweiliog (Mrs Glenys Peters)

Crynodeb:

Argymell na ddylid caniatau Tyrbin Gwynt sydd yn uwch na 15 m a dim mewn Ardal o Harddwch Naturiol. Mae Cyngor Cymuned Tudweiliog yn gwrthwynebu bob Tyrbin Gwynt o fewn AHNE Llyn a phob cais am dyrbin uwch na 11 medr o fewn ffin a golygfeydd yr AHNE.

ID y Sylw: 539

GWRTHWYNEBU David Talbot

Crynodeb:

1) Mae'r Cynllun yn adnabod tyrbinau gwynt 50 meter fel rhai 'graddfa bach', mae hyn dros 6 gwaith yn fwy nag uchder ty arferol! 2) Mae'r mwyafrif o'r tyrbinau yn y ffermydd gwynt cyfredol yng ngogledd yr Ynys rwan yn 'fychan'. Gallai canol yr Ynys gael ei drawsffurfio'n gyfan gwbwl gan ddatblygiad o'r graddfa a'r math yma os fydd y Cynllun yn symud ymlaen. 3) Cafwyd llofnod gan 8000 o unigolion yn Ynys Mon i fynegi dymuniad i gael bwlch o 1.5 km rhwng tai a thyrbinau gwynt. Ni roddir dim byd.

ID y Sylw: 538

GWRTHWYNEBU Janis Evans

Crynodeb:

Mae'r Cynllun Adnau yn anwybyddu CCA Cyngor Môn, sy'n nodi'r cyfyngiadau ar dwf tyrbinau gwynt. Mae'r Cynllun yn dosbarthu tyrbinau gwynt 50 metr yn rhai 'ar raddfa fechan'. Gallai canol yr ynys yn gyfan gwbl gael ei thrawsffurfio gan ddatblygiadau ar y raddfa hon ac o'r math hwn petai'r Cynllun yn mynd yn ei flaen. Ni fyddai datblygiadau eraill ar raddfa ddiwydiannol mor fawr yn cael y fath ben rhyddid.

Mae 8000 o bobl yr ynys a arwyddodd ddeiseb yn 2012 yn galw am bellter gwahanu o 1.5 Km rhwng cartrefi a thyrbinau masnachol diwydiannol yn cael eu hanwybyddu.

Rwyf eisiau gweld darpariaethau'r CCA o ran tyrbinau gwynt yn cymryd lle'r darpariaethau a gynhwysir yn y Cynllun Adnau.

ID y Sylw: 535

GWRTHWYNEBU Brian Lee

Crynodeb:

1) Dylid anrhydeddu'r CCA
2) Dylid derbyn y dosbarthiad uchder fel y mae ar hyn o bryd
3) Dylid derbyn pellter gwahanu o 1.5km yn ogystal
4) Dylid ailysgrifennu'r CDLl ar y Cyd gan gydnabod dymuniadau trigolion Ynys Môn

ID y Sylw: 532

GWRTHWYNEBU Jason Bowes

Crynodeb:

Er bod angen ynni adewyddol gwynt nid oes ei angen yn y ffurf yma. Nid yw tyrbinau 50m yn fach. Efallai 10 - 15 m. dylid lleoli tyrbinau 15 - 30 m o leiaf 1.5km oddi ar y ty agosaf. Dylid lleoli tyrbinau gwynt 30m fel ffermydd gwynt mor bell o golwg ag sy'n bosib. Nid wyf yn dymuno gweld Ynys Mon yn cael eu difetha gan yr anghenfilod yma. Gadael i ffermwyr leoli tyrbinau bach 10-15m ar gyfer eu hanghenion eu hunain.

ID y Sylw: 531

GWRTHWYNEBU John Bircham

Crynodeb:

Mae tyrbinau gwynt yn cael effaith weledol annerbyniol ar gefn gwlad gwledig. Bydd sylfaen concrid pob tyrbin yn dal yna ym mhell ar ôl i'r tyrbinau a'r grantiau ddiflannu.

ID y Sylw: 477

GWRTHWYNEBU CSJ Planning Consultants Ltd (Mr John Cocking)

Crynodeb:

Mae'r eirfa yn y llinell gyntaf yn ormodol o gyfyngedig. Mae geirfa pwynt 1, 2, a 3 yn rhy rhagnodol. Dylid diwygio'r ddau i adlewyrchu'r angen i fod yn fwy hyblyg a rhagweithiol i ddatblygiad ffermydd gwynt. Fe ddylid penderfynu ceisiadau ar sail achos -wrth- achos.

ID y Sylw: 388

GWRTHWYNEBU Mon a Gwynedd Friends of the Earth (Mr Richard Mills)

Crynodeb:

Ymddengys fod ADN1 a'r meini prawf yn nhabl cysylltiedig 13 yn cyfyngu nifer o ddatblygiadau ynni gwynt sy'n llai na 5MW i Ardaloedd Chwilio Strategol a safleoedd gwledig/diwydiant, tir llwyd. Byddai hyn yn groes i NCT8 sy'n nodi, "...the Assembly Government would support local planning authorities in introducing local policies in their development plans that restrict almost all wind energy developments, larger than 5 MW, to within SSAs and urban/industrial brownfield sites." Rydym hefyd yn ystyried nad yw ADN1 yn gadarn gan iddo fethu rhoi ystyriaeth bwysig i brosiectau cymunedol a phrosiectau ym mherchenogaeth y gymuned a chynlluniau ail-bweru.

ID y Sylw: 312

GWRTHWYNEBU Cyfeillion LLyn (Mrs Sian Parri)

Crynodeb:

Gwahardd tyrbinau yn yr AHNE
Dim tyrbin uwch na 11.1 yn y ATA a Dirwedd o Ddoddordeb Hanesyddol Eithriadol.
Gwrando ar gyngor Cydbwyllgor Ymgynghorol yr AHNE sydd yn ystyried fod yn rhaid cadw at yr uchod er mwyn cydfynd ar dyletswydd statudol sydd ar y Cyngor o dan y ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000

ID y Sylw: 305

GWRTHWYNEBU Mr Barry Roberts

Crynodeb:

Rwyf yn gwrthwynebu'r cynllun gan ei fod yn dosbarthu tyrbinau gwynt hyd at 3, 50 metr yn rhai ar raddfa fach. At hyn, mae'r cynllun yn nodi fod y rhan fwyaf o Wynedd wedi'i gwarchod rhag datblygiadau trwy fod yn Barc Cenedlaethol (Eryri) neu'n Ardal Tirwedd Arbennig (Penrhyn Llŷn). Dim ond Môn sy'n agored i gael ei cham-drin ar raddfa eang, a bydd hyn yn digwydd. Bu cytundeb y byddai cynllunwyr a chynghorwyr Môn yn ystyried pellter sylfaenol unwaith y câi Canllawiau Cynllunio Atodol 2013 eu mabwysiadu yn sgil deiseb wedi'i llofnodi gan 8,000 o bobl yn mynnu pellter sylfaenol. Unwaith eto mae pellter sylfaenol wedi'i anwybyddu. Dyna i chi werth ddemocratiaeth!

ID y Sylw: 299

GWRTHWYNEBU Mr Owain Evans cyflwynwyd gan Mr Owain Evans

Crynodeb:

Yn 2012/13 casglodd Cyngor Môn ynghyd Ganllawiau Cynllunio Atodol, ymgynghori yn eu cylch a chytuno arnynt. Roedd y Canllawiau hyn yn nodi'n benodol derfynau penodol ar dwf tyrbinau gwynt. Mae'r Cynllun Adnau hwn yn anwybyddu'r penderfyniadau hynny'n llwyr.

'Rwyf eisiau gweld cynnwys y CCA yn nhermau tyrbeini gwynt i oresgyn beth sydd yn y cynllun.

ID y Sylw: 201

GWRTHWYNEBU Kingsbridge Caravan Park (Mr Andrew Bate)

Crynodeb:

Dylai tyrbinau gwynt ar y tir ym Môn gael eu cyfyngu i ddefnydd 'domestig' a'u gosod ger yr annedd gysylltiedig.

Byddai toreth o beiriannau mwy o amgylch yr ynys yn cael effaith negyddol ar y dirwedd a gallent beri i ymwelwyr geisio lleoliadau eraill, llai diwydiannol.

Ceir effaith weledol sylweddol andwyol gyda chodi llinellau trosglwyddo ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r gallu i greu trydan ychwanegol o Wylfa B.

Bydd y gallu i greu trydan o ffermydd gwynt arfaethedig yn y môr a Wylfa B yn troi'r fantol yn gryf yn erbyn yr hyn y gellid ei greu ar y tir felly'n diogelu'r dirwedd o 'gefn gwlad ac arfordir nad ydynt wedi'u difethaf' fel y tynnir sylw ato yn y Cyflwyniad ar yr Economi Ymwelwyr.

Cyfyngu maint trybini gwynt ar y tir i'r raddfa "Domestig"

ID y Sylw: 194

GWRTHWYNEBU Mrs Irene Stott

Crynodeb:

ADN1 pwynt 2.

Dylai hwn gyfeirio at Ganllawiau Cynllunio Atodol Ynni Gwynt ar y Tir y ddau Gyngor - canllawiau y cytunwyd arnynt - sy'n nodi na fydd uchder y pigyn ar gyfer meintiau dynodedig y tyrbinau yn ddim uwch na: micro - 11m; bychan - 20m; canolig - 65m; mawr - 135m.

Cafodd y cynghorau sicrwydd y câi'r rhain eu trosglwyddo i'r Cynllun Datblygu Lleol,

Nid ydynt wedi'u trosglwyddo ac mae'r categorïau newydd yn llawer uwch na'r rhai gwreiddiol. Defnyddio'r hen feintiau sydd eisoes wedi eu cytuno.

ID y Sylw: 177

GWRTHWYNEBU Rod Dixon

Crynodeb:

ADN1 pwynt 2.

Dylai hwn gyfeirio at Ganllawiau Cynllunio Atodol Ynni Gwynt ar y Tir y ddau Gyngor - canllawiau y cytunwyd arnynt - sy'n nodi na fydd uchder y pigyn ar gyfer meintiau dynodedig y tyrbinau yn ddim uwch na: micro - 11m; bychan - 20m; canolig - 65m; mawr - 135m.

Cafodd y cynghorau sicrwydd y câi'r rhain eu trosglwyddo i'r Cynllun Datblygu Lleol. Nid ydynt wedi'u trosglwyddo ac mae'r categorïau newydd yn llawer uwch na'r rhai gwreiddiol.

Defnyddio'r hen feintiau sydd eisioes wedi eu cytuno.

ID y Sylw: 166

GWRTHWYNEBU Mr DAVID THOMAS

Crynodeb:

Wedi ymgynghoriad sylweddol ceir Canllawiau Cynllunio Atodol y cytunwyd arnynt a'u derbyn ond nid yw'n ymddangos y gweithredir arnynt yn y Cynllun Adnau. Pam? Dylai pellter sylfaenol oddi wrth adeiladau preswyl fod wedi'i nodi. Beth sydd nawr i rwystro rhagor o dyrbinau rhag cael eu codi ar draws Ynys Môn? Yn fy marn i, mae'r ynys eisoes wedi'i llwytho â thyrbinau gwynt a bydd mwy yn difethaf ei chymeriad a'i hatyniad i dwristiaid ddod i ymweld.

Mabwysiadu'r ddarpariaeth sydd yn y CCA. Pellter o leiaf 1.5km rhwng tŷ a thyrbin.

ID y Sylw: 131

GWRTHWYNEBU Mr Mark Edwards

Crynodeb:

Profwyd bod tyrbinau gwynt yn cadw twristiaid draw. Mae Gogledd-orllewin Cymru yn hynod ddibynnol ar y busnes a roddir gan ei ymwelwyr. O'r herwydd, dylid diystyru unrhyw beth ac eithrio tyrbinau graddfa micro.

Mae diffinio "tyrbin gwynt bychan" fel un hyd at uchder o oddeutu 50m yn gamgymeriad mawr. Mae hyn oddeutu deg gwaith uchder crib bwthyn traddodiadol.

Mae pellteroedd oddi wrth dai yn nhabl 14 oddeutu 50% o'r hyn sy'n rhesymol.

Mae'r geiriau "niwed sylfaenol" yng nghymalau iii a iv y meini prawf cydymffurfio'n methu dangos digon o barch ac ystyriaeth at anghenion trigolion lleol ac mae angen eu diwygio.

Ar gyfer cyfyngu i dyrbinau micro a domestig angen newid eitemau 1, 2 a 3. Angen newid tabl 13 i roi categorïau uchderau realistig. Angen dyblu'r pellteroedd yn nhabl 14. Geirfa newydd ar gyfer meini prawf iii. a iv. wedi ei gynnig.

ID y Sylw: 100

GWRTHWYNEBU Mr Christopher Marjot

Crynodeb:

1. Gwrthwynebu categoreiddio tyrbinau gwynt 50m fel rhai 'bach', ymddengys bod hyn yn seiliedig ar yr allbwn pŵer yn hytrach na'r uchder. Mae'r effaith amgylcheddol a'r effaith ar fwynderau yn cyfateb yn uniongyrchol i uchder y tyrbin gwynt, nid yr allbwn pŵer . Nid yw tyrbinau 50m yn 'fach' mewn perthynas â maint yr aneddiadau a'r amgylchedd lleol. Dylid ailddiffinio'r dosbarthiad i adlewyrchu'n gywir eu graddfa mewn perthynas ag aneddiadau a'r amgylchedd lleol.

2. Roedd CCA Môn ar 'Ynni Gwynt ar y Tir' yn argymell pellteroedd llawer mwy rhesymol rhwng aneddiadau a thyrbinau gwynt. Dylai'r CDLl ar y Cyd gydymffurfio â phellteroedd gwahanu'r CCA.

ID y Sylw: 99

GWRTHWYNEBU mr nigel ayliffe

Crynodeb:

1. Pellter o Eiddo Preswyl. Bu ymgynghori eang ar y pwynt hwn gyda'r cyhoedd a'r Cynghorwyr hefyd wrth ddrafftio a chytuno ar y Canllaw Cynllunio Atodol. Er gwaethaf y dystiolaeth hon o ewyllys y bobl nid yw wedi'i gynnwys yn y Cynllun uchod. Ni ddylid ei anwybyddu. Dylid rhoi'r lleiafswm pellteroedd a gytunwyd i mewn.

2. Ail-bweru tyrbinau/ffermydd gwynt sy'n bodoli. Dylai'r ystyriaethau cynllunio ar gyfer y rhain fod yr un fath ag ydynt i dyrbinau newydd arfaethedig, neu bydd y difrod a wnaed eisoes i gefn gwlad ac atyniadau i dwristiaid yn cael eu waethygu gan y tyrbinau newydd llawer mwy.

ID y Sylw: 75

GWRTHWYNEBU Mrs Carolyn Williams

Crynodeb:

Rwyf yn gwrthwynebu Polisi ADN1. Mae'r rhan fwyaf o Wynedd wedi'i gwarchod rhag datblygiadau trwy fod yn Barc Cenedlaethol (Eryri) neu'n Ardal Tirwedd Arbennig (Penrhyn Llŷn). Dim ond Môn sy'n agored i gael ei cham-drin ar draws ardal helaeth.

Fe ddaru 8000 o drigolion yr Ynys arwyddo deiseb yn 2012 yn galw am pellteroedd gwahanu o 1.5km rhwng tyrbeini masnachol a thai a mae hyn ynghyd ar CCA a gafodd ymgynghoriad trwyadl wedi cael ei daflud allan.Rwyf yn gwrthod y polisi ynni gwynt fel mae wedi cael ei gyflwyno yn y cynllun anddemoncrataidd ac anghynaliadwy yma.

Dylid cadw y pellter gwahanu o 1.5km ar CCA ar ynni gwynt ar y tir.
Dim mwy o dyrbeini 50m (mawr).
Dylai Cynghorwyr Môn wrando a chefnogi ei cymunedau lleol, a gwrthod y polisi ynni gwynt drafft yma. Ni yw'r cymunedau wedi cael eu ymgynghori nac wedi cytuno i fod yn ynys ynni.



Nid yw 8000 o ynyswyr a lofnododd ddeiseb yn 2012, yn galw am bellter o 1.5 km rhwng cartrefi a thyrbinau masnachol diwydiannol, yn cyfrif wrth i'r Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ynni Gwynt ar y Tir, yr aed i ymgynghoriadau cyhoeddus trylwyr yn eu cylch, gael eu taflu allan.

Rwyf yn gwrthod y polisi ynni gwynt fel y'i cyflwynir yn y Cynllun gwallus, annemocrataidd ac anghynaliadwy hwn.

ID y Sylw: 74

GWRTHWYNEBU Mr David Coucill

Crynodeb:

Nid oes modd ystyried tyrbinau gwynt sy'n mesur 50m i bigyn y tyrbin fel tyrbinau bychain. Mae hyn yn arbennig o wir yn nhirwedd gymharol wastad Môn lle mae modd gweld strwythur 50m, uchder adeilad wyth llawr, o filltiroedd i ffwrdd.

Ar ôl ymgynghoriad lle cymerodd bron i 10% o boblogaeth Môn ran, mabwysiadodd Cyngor Sir Môn bellter sylfaenol o 20 gwaith uchder y brig rhwng y tyrbinau ac eiddo domestig. Mae hyn wedi'i anwybyddu'n llwyr.

Caiff effaith sŵn tyrbin gwynt ar eiddo cyfagos ei anwybyddu yn adroddiad Gillespie er y caiff ei chydnabod yn broblem mewn ardaloedd eraill e.e. Dyfnaint. Ni ddylid anwybyddu y CCA ar dyrbeini gwynt gafodd ei fabwysiadu gan Cyngor Môn ar ol ymgynghoriad eang, yn hytrach fe ddylid ei ymgorffori o fewn y Cynllun Adnau.

ID y Sylw: 71

GWRTHWYNEBU Cyngor Tref Nefyn (Liz Saville Roberts)

Crynodeb:

Mae Cyngor Tref Nefyn yn gadarn o'r farn bod angen glynu wrth bolisi C26 parthed maint tyrbeiniau gwynt yn AHNE Llyn, ac ni ddylid caniatau cynnydd ym maint tyrbeiniau gwynt yno.

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult