Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Sylwadau ar Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau - POLISI STRATEGOL PS15

ID y Sylw: 1805

GWRTHWYNEBU CPERA (Cynghorydd Elin Walker Jones)

Crynodeb:

Yn sicr, mae angen am dai o fewn cyffiniau cymunedol y ddinas. Tai fforddadwy sydd angen; tai rhent a thai all gael eu prynu. Tai sy'n cael eu rheoli gan Gymdeithasau Tai os oes angen. Tai ar gyfer teuluoedd efo tair llofft, tai neu fflatiau ar gyfer unigolion neu gyplau neu deuluoedd bach; tai /fflatiau fforddadwy efo un, dwy neu dair llofft. Tai efo gerddi bach addas ar gyfer plant. Dylai plant allu chwarae yn ddiogel o fewn eu gerddi yn hytrach nag ar diroedd gwyrdd mawr heb ffens wrth ffrynt y tai. Mae gwaith eisoes wedi ei gwblhau yn dangos yr angen am dai ffordadwy o fewn ein sir (CG, 2013)

ID y Sylw: 1685

GWRTHWYNEBU Cymdeithas yr Iaith (Dr Menna Machreth)

Crynodeb:

Mae'r sylwadau sy'n cael eu cyflwyno gennym yn ein dogfen yn ymwneud â'r twf tai, y dosbarthiad twf a'r dynodiadau, ac yn ymdrin ag effaith y Cynllun Adnau ar y Gymraeg. Mae'r sylwadau yn tynnu sylw at ddiffygion yn yr asesiadau effaith ieithyddol a dogfennau eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg gan gyfeirio at absenoldeb tystiolaeth ynghyd â thystiolaeth annibynadwy. Dylid adolygu cyfansymiau niferoedd y twf tai ar gyfer y ddwy sir a'r dosbarthiad twf a'r dynodiadau o'u mewn. Dylai'r adolygiad fod yn seiliedig ar dystiolaeth yn deillio o astudiaethau o ffactorau allweddol, sef: angen cymunedol am dai, stoc tai presennol, fforddiadwyedd tai, tai ar werth/ar osod, data Cyfrifiad 2011, asesiad effaith ieithyddol newydd yn unol ag egwyddorion cymdeithaseg iaith.

ID y Sylw: 1684

GWRTHWYNEBU Dyfodol i'r Iaith (Dr Simon Brooks)

Crynodeb:

Mae'r sylwadau sy'n cael eu cyflwyno gennym yn ein dogfen yn ymwneud â'r twf tai, y dosbarthiad twf a'r dynodiadau, ac yn ymdrin ag effaith y Cynllun Adnau ar y Gymraeg. Mae'r sylwadau yn tynnu sylw at ddiffygion yn yr asesiadau effaith ieithyddol a dogfennau eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg gan gyfeirio at absenoldeb tystiolaeth ynghyd â thystiolaeth annibynadwy. Dylid adolygu cyfansymiau niferoedd y twf tai ar gyfer y ddwy sir a'r dosbarthiad twf a'r dynodiadau o'u mewn. Dylai'r adolygiad fod yn seiliedig ar dystiolaeth yn deillio o astudiaethau o ffactorau allweddol, sef: angen cymunedol am dai, stoc tai presennol, fforddiadwyedd tai, tai ar werth/ar osod, data Cyfrifiad 2011, asesiad effaith ieithyddol newydd yn unol ag egwyddorion cymdeithaseg iaith.

ID y Sylw: 1683

GWRTHWYNEBU Canolfan Hanes Uwchgwyrfai (Geraint Jones)

Crynodeb:

Mae'r sylwadau sy'n cael eu cyflwyno gennym yn ein dogfen yn ymwneud â'r twf tai, y dosbarthiad twf a'r dynodiadau, ac yn ymdrin ag effaith y Cynllun Adnau ar y Gymraeg. Mae'r sylwadau yn tynnu sylw at ddiffygion yn yr asesiadau effaith ieithyddol a dogfennau eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg gan gyfeirio at absenoldeb tystiolaeth ynghyd â thystiolaeth annibynadwy. Dylid adolygu cyfansymiau niferoedd y twf tai ar gyfer y ddwy sir a'r dosbarthiad twf a'r dynodiadau o'u mewn. Dylai'r adolygiad fod yn seiliedig ar dystiolaeth yn deillio o astudiaethau o ffactorau allweddol, sef: angen cymunedol am dai, stoc tai presennol, fforddiadwyedd tai, tai ar werth/ar osod, data Cyfrifiad 2011, asesiad effaith ieithyddol newydd yn unol ag egwyddorion cymdeithaseg iaith.

ID y Sylw: 1682

GWRTHWYNEBU Cylch yr Iaith (Ieuan Wyn)

Crynodeb:

Mae'r sylwadau sy'n cael eu cyflwyno gennym yn ein dogfen yn ymwneud â'r twf tai, y dosbarthiad twf a'r dynodiadau, ac yn ymdrin ag effaith y Cynllun Adnau ar y Gymraeg. Mae'r sylwadau yn tynnu sylw at ddiffygion yn yr asesiadau effaith ieithyddol a dogfennau eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg gan gyfeirio at absenoldeb tystiolaeth ynghyd â thystiolaeth annibynadwy. Dylid adolygu cyfansymiau niferoedd y twf tai ar gyfer y ddwy sir a'r dosbarthiad twf a'r dynodiadau o'u mewn. Dylai'r adolygiad fod yn seiliedig ar dystiolaeth yn deillio o astudiaethau o ffactorau allweddol, sef: angen cymunedol am dai, stoc tai presennol, fforddiadwyedd tai, tai ar werth/ar osod, data Cyfrifiad 2011, asesiad effaith ieithyddol newydd yn unol ag egwyddorion cymdeithaseg iaith.

ID y Sylw: 1030

GWRTHWYNEBU Llywodraeth Cymru (Mr Mark Newey)

Crynodeb:

Nid ydym yn cwestiynu strategaeth y cynllun; fodd bynnag, nid ydych wedi cyfiawnhau'r cyfyngiad twf a grëir gan eiriad y polisi ar gyfer y prif ganolfannau. Byddai'n fwy rhesymegol creu cyfyngiadau twf ar gyfer yr haenau is yn hytrach nag ar gyfer yr ardaloedd mwyaf cynaliadwy.

ID y Sylw: 939

GWRTHWYNEBU Menter Iaith Bangor (Mrs Branwen Thomas)

Crynodeb:

Gormod o dai am gael eu hadeiladu ym Mangor. Pryderwn am effaith ar y Gymraeg. Dylid cwblhau astudiaeth fanwl o anghenion tai dinas Bangor i gyd (gan gynnwys Penrhosgarnedd) - angen diffinio fel endyd. Nid oes gwaith o'r math wedi ei gwblhau yn y gorffennol.

Cwblhau ymchwil manwl ar anghenion tai a'r effaith ar yr iaith ym Mangor fel un endid, yn hytrach nag edrych ar un ward (Hirael). Angen cynnwys Penrhosgarnedd hefyd.

ID y Sylw: 938

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Llanfihangel Esc (Alun Foulkes)

Crynodeb:

Pryderon ynglyn a gorddatblygu pentref Gaerwen wrth ganiatau gormod o dai yn y pentref, yn enwedig lle mae yna dai gwag yn y pentref yn barod. Mae'n bwysig bod tai sydd yn cael eu hadeiladu'n addas i'r lleoliad ac fod yna nifer o dai fforddiadwy yn cael eu caniatau.

ID y Sylw: 936

GWRTHWYNEBU Richard Williams

Crynodeb:

Mae y ffigyrau yn dangos fod llai o dai eu hangen yn y dyfodol yn ardal Porthmadog na beth sydd eu hangen yn Penrhyndeudraeth. Mae trigolion Porthmadog angen gwell trefniadau i sicrhau gwell stoc o dai yn y gymuned. Gallwn ddim derbyn y ddadl llifogydd yma yn y Port pan nad oes llifogydd wedi bod yma. Mae gwir angen datblygu yma yn Porthmadog i wella stoc tai.Mae ein pobol ifanc a rhai hyn angen tai newydd. Dim yn Penrhyndeudraeth ond yma yn eu cymuned hwy.

ID y Sylw: 911

GWRTHWYNEBU CPERA (Cynghorydd Elin Walker Jones)

Crynodeb:

Cynhaliwyd gwaith ymchwil ar lefel gymunedol yn sawl ardal yng Ngwynedd, yn dilyn
caniatad gan y Cyngor i wneud hynny. Serch hynny, ni ddigwyddodd hynny ym Mangor. Mae anghenion Bangor ychydig yn wahanol i weddill y Sir; mae'n ganolfan ranbarthol sy'n cael ei chydnabod fel hynny gan Lywodraeth Cymru, ac felly, er mwyn cynnal y fath waith ymchwil ym Mangor, mi fyddai angen cydlynu'r gwaith yn ofalus, ac hefyd cynnwys Penrhosgarnedd, sydd ar hyn o bryd yn ran o ward Pentir. Mae angen edrych eto ar ba rannau o Wynedd sy'n dod o fewn ffiniau dinas Bangor.

ID y Sylw: 907

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Llanddeiniolen (Ms Eleri Bean)

Crynodeb:

Deugain o dai yw'r ffigwr ar gyfer Deiniolen. Ar ba sail mae awduron y cynllun yn dweud fod angen codi cymaint a hyn o dai? Yn drist iawn mae 5 ty newydd yng nghanol y pentref ac maent i gyd yn wag a'r ofn mawr yw mai gwag fyddant. Dylid cael arolwg manwl lleol o angen ym mhob pentref fel hwn, ond yn anffodus nid yw hyn o gwbwl yn y Cynllun arfaethedig. Trwy arolwg lleol buasai modd darganfod anghenion pob cymdogaeth - ai tai i'r henoed, tai ar rent ag ati sydd wir ei angen. Dyfalu ble i roi tai mae'r cynllun.

ID y Sylw: 895

GWRTHWYNEBU Barton Willmore (Mr Mark Roberts)

Crynodeb:

Dylid cyfeirio'r twf mewn tai i'r ardaloedd a'r aneddleoedd mwyaf ar sail gyfrannol, gan adlewyrchu swyddogaeth, rôl a maint yr aneddleoedd hynny. Mae 55% wedi'i gyfeirio at y ganolfan isranbarthol/canolfannau gwasanaeth trefol. Mae 45% wedi'i ddosbarthu i'r pentrefi/clystyrau, sy'n arwain at wasgaru a lledaenu'r ddarpariaeth tai. Bydd y tai yn cael eu dosbarthu i ardaloedd lle mae'r dewis o ddulliau teithio ar wahân i geir yn gyfyng. Mae cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau allweddol hefyd yn brin yn yr ardaloedd hyn. Mae angen dosbarthu o leiaf 60% i'r Canolfannau Is-ranbarthol/ Canolfannau Gwasanaethau Trefol, 25% i'r canolfannau gwasanaethau lleol a 15% i'r pentrefi a chlystyrau.

ID y Sylw: 868

GWRTHWYNEBU Hughes Bros Ltd - cyflwynwyd gan Alyn Nicholls

Crynodeb:

Byddai canolfan is-ranbarthol Bangor a'r canolfannau gwasanaeth trefol, yn arbennig Llangefni, yn medru dygymod, a dylent ddygymod â chanran uwch o'r gofyn am dai er mwyn hwyluso gwneud y defnydd gorau o adnoddau ac isadeiledd i gyflawni patrwm datblygu cynaliadwy. Yn fwy na hyn, wrth nodi y dylai "hyd at" 55% o dwf y cynllun gael ei leoli yn y prif ganolfannau, mae'r polisi mewn ffordd yn gosod cyfyngiad nad yw'n gyson â strategaeth y cynllun, yn enwedig pan fyddai datblygiadau'n gallu cael eu hymgorffori heb fynd yn groes i amcanion polisi eraill.

ID y Sylw: 842

GWRTHWYNEBU Jina Gwyrfai

Crynodeb:

Fel un a'i gwreiddiau yn y Bermo, teimlaf yn gryf nad oes angen rhagor o dai yn y dre (nac yn Llanaber). Mae'r ardal wedi ei difetha gan or-ddatblygu a mewnfudo. Ni allaf ganfod unrhyw dystiolaeth yn y Cynllun nac ar lawr gwlad i gyfiawnhau codi 91 o dai newydd. hap ddatblygwyr yw'r unig rai i broffidio o'r cynlluniau hyn. Nid yw lles trigolion a chymuned yn cael sylw. Tynnu Abermaw o'r Cynllun.

ID y Sylw: 841

GWRTHWYNEBU Jina Gwyrfai

Crynodeb:

Nid oes angen demograffeg am ragor o dai yn Neiniolen - mae digon ar y farchnad/ yn wag yn barod. Diogelu cymunedau Cymraeg naturiol sy'n bwysig yma. Dim rhagor o dai yn Neiniolen (nac ardaloedd cyfagos - Clwt y Bont, Gallt y Foel, Dinorwig). Yn gyffredinol dim ond tai yn ôl twf naturiol i bobl leol.

ID y Sylw: 838

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Llannor (Mr Haydn Jones)

Crynodeb:

Mae'r Cynllun yn rhoi ffigwr dangosol fod angen adeiladu 40 o dai ym mhentref y Ffôr rhwng 2011 - 2026. Mae caniatad cynllunio wedi ei roi i adeiladu 9 ty yn barod sydd yn lleihau'r angen i 31 o dai. Cyfeirir at gais cynllunio ar gyfer 40 o dai ar safle sydd wedi ei ddynodi'n barod, ond heb dderbyn caniatad cynllunio. Nid yw'r Cyngor Cymuned yn gefnogol i ychwanegu at y ffigwr o 40 o dai ar gyfer pentref Y Ffôr.

ID y Sylw: 837

GWRTHWYNEBU Cydbwyllgor Ymgynghorol AHNE (Cynghorydd Gruffydd Williams)

Crynodeb:

Tai newydd. Roedd pryder am lefel y ddarpariaeth dai yn ardal Llŷn ac effaith posibl
hynny ar y gymdeithas a lles yr Iaith Gymraeg. Yn benodol roedd pryder am y ddarpariaeth ym Motwnnog a Phwllheli sydd yn ymddangos yn ormodol o ystyried
maint a chymeriad yr anheddleoedd.

ID y Sylw: 836

GWRTHWYNEBU Cyngor Gwynedd (Cyng/Counc Ann Williams)

Crynodeb:

Yr wyf yn teimlo fod y ddarpariaeth ar hap o 82 eiddo, yn ddigonol i'r ardal hon (Bethesda).
Mawr obeithiaf fod y tiroedd sydd wedi eisoes wedi ei ddynodi ar gyfer adeiladu
y tu mewn i'r rhif hwn, gan fod dyraniad sylweddol eisoes ar gyfer fy ward.
Byddai hyn yn golygu y byddai'r rhif o 82 eiddo eisoes wedi ei gyrraedd,
oherwydd caniatad cynllunio sydd eisoes wedi ei roi, a cheisiadau sydd yn yr
arfaeth.

ID y Sylw: 835

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Tudweiliog (Mrs Glenys Peters)

Crynodeb:

Mae pryder mawr am or-ddatblygu yn Botwnnog a Pwllheli yn mynd i gael effaith mawr ar yr iaith Gymraeg.

ID y Sylw: 822

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Botwnnog (Mrs Gwenda Roberts)

Crynodeb:

Cyfeirir mai 3% a ganiateir o dai newydd yng nghefn gwlad yn ystod cyfnod y Cynllun hwn. Mae'r nifer yma'n isel iawn o ystyried nifer o flynyddoedd bydd y Cynllun yn weithredol. Eto rhaid ceisio denu'r ifanc i barhau yn eu cynefin a thryw hynny bydd sicrwydd o ddyfodol i'n hysgolion, etifeddiaeth, ayb.

ID y Sylw: 814

CEFNOGI Campaign for the Protection of Rural Wales (Mr Noel Davey)

Crynodeb:

Caiff polisi dyrannu tai 'cytbwys' eang ei gynnig, fel yr ymgynghorwyd arno y llynedd, ac mae'n cynnwys: hyd at 55% ym Mangor a'r prif drefi (yn cynnwys Caernarfon, Pwllheli, Porthmadog), o leiaf 20% mewn Canolfannau Gwasanaeth Lleol (yn cynnwys Abersoch, Criccieth, Nefyn), a hyd at 25% mewn canolfannau llai. Cefnogwn y dull hwn.

ID y Sylw: 730

GWRTHWYNEBU RCH Douglas Pennant cyflwynwyd gan Carter Jonas (Mr Chris Bell)

Crynodeb:

Gwrthwynebu cyfyngu'r twf yn Llandygai i wyth annedd ar hap dros gyfnod y cynllun a llunio'r ffin ddatblygu. Rwyf yn gwrthwynebu'r asesiad cynaladwyedd ar gyfer Llandygai (sgôr anheddle). Mae'r drefn bresennol mewn gwirionedd yn peri risg i hyfywedd y gwasanaethau lleol. Newidiadau: ffin ddatblygu ehangach er mwyn caniatáu nifer uwch o aneddiadau yn Llandygai, a fyddai'n cefnogi'r gwasanaethau lleol yn well.

ID y Sylw: 729

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Llanystumdwy (Mr Richard J Roberts)

Crynodeb:

Dywed pwynt (ix) 'Dim ond datblygiadau sy'n cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a NCT6 fydd yn cael eu caniatau yng Nghefn Gwlad agored'.

Rydym yn anghytuno â hyn gan y teimlwn ei fod yn cau'r drws ar unrhyw ddatblygiad yng nghefn gwlad, rhywbeth sy'n hollol groes i natur yr ardal hon.

Nid yw'r Cynllun yn rhoi digon o sylw i natur gynheniad datblygiadau cefn gwlad, fel yr ardal hon.

ID y Sylw: 701

GWRTHWYNEBU RCH Douglas Pennant cyflwynwyd gan Carter Jonas (Mr Chris Bell)

Crynodeb:

Gwrthwynebu cyfyngu'r twf yn Nhalybont i 2 annedd ar hap dros gyfnod y cynllun a diffyg ffin ddatblygu. Rwyf yn gwrthwynebu'r asesiad cynaladwyedd ar gyfer Talybont (sgôr anheddiad). Mae'r drefn bresennol mewn gwirionedd yn peri risg i hyfywedd y gwasanaethau lleol. Newid: ffin ddatblygu i ganiatáu nifer uwch o anheddau yn Nhalybont, fyddai'n cefnogi'r gwasanaethau lleol yn well.

ID y Sylw: 651

CEFNOGI Friends of Borth-y Gest (Tom Brooks)

Crynodeb:

Mae Polisi PS15 - Strategaeth Aneddleoedd - yn cyfyngu pentrefi arfordirol i "o fewn ffiniau datblygu, safleoedd mewnlenwi neu safleoedd a ddaw ar gael ar hap". Dynodir potensial dangosol o 10 safle o'r fath i Borth-y-Gest. Nodwn nad yw hyn yn darged nac yn derfyn.

Cefnogwn y polisi hwn, yn enwedig, "Bydd datblygiad yn cael ei gyfyngu i'r raddfa a'r math sy'n ateb angen y gymuned am dai ar leiniau ar hap/lleiniau mewnlenwi oddi mewn i ffiniau datblygu. Ni fydd unrhyw safleoedd tai marchnad agored yn cael eu dynodi yn y Pentrefi hyn."

ID y Sylw: 482

GWRTHWYNEBU Mon a Gwynedd Friends of the Earth (Mr Richard Mills)

Crynodeb:

Nid yw'r cynigion o ran dosbarthu twf tai yn cydymffurfio'n ddigonol gyda pholisi cynllunio cenedlaethol, sy'n cynghori y dylai cynlluniau datblygu lleol sicrhau patrwm aneddleoedd cynaliadwy sy'n cwrdd a gofynion yr economi, yr amgylchedd ac iechyd, tra'n parchu amrywiaeth lleol a gwarchod cymeriad a hunaniaeth diwylliannol cymunedau. Fe ddylid rhoi llai o ffocws i Fangor a'r coridor A55 a mwy o sylw i gymunedau llai.

ID y Sylw: 461

GWRTHWYNEBU Tai Twnti Cyf cyflwynwyd gan Mr P Lloyd

Crynodeb:

1. Mae Morfa Nefyn yn anheddiad sy'n addas ar gyfer twf rhesymol mewn tai marchnad agored.

2.Ni fyddai safleoedd tai marchnad agored ychwanegol yn niweidio strategaeth y cynllun na'r Gymraeg.

3. Gellid neilltuo tir ychwanegol ar gyfer tai neu ymestyn y ffin ddatblygu er mwyn gwneud lle i'r datblygiadau.

Awgrymir dau safle.

ID y Sylw: 354

CEFNOGI WYG/Alliance Planning (Mr Mark Walton)

Crynodeb:

Mae ein Cleient, Admiral Taverns, yn cefnogi'r lleoliad arfaethedig a'r rhaniad dosbarthu arfaethedig o ran tai mewn aneddiadau cynaliadwy yn enwedig felly bwysigrwydd Pentrefi Gwasanaethau wrth barhau i gyflawni hyd at 25% o'r twf tai yn yr ardaloedd lle mae'r awdurdodau'n gweithio ar y cyd.

ID y Sylw: 347

GWRTHWYNEBU Mr Geoff Wood cyflwynwyd gan WYG (Mrs Diane Ellis)

Crynodeb:

Mewn rhai amgylchiadau, gallai fod yn briodol adfer adeiladau gwerinol (gan gynnwys anheddau gwag) yn y cefn gwlad agored er mwyn diogelu cymeriad lleol a/neu dreftadaeth Cymreig. Ar hyn o bryd ni chaiff y math hwn o ddatblygiad ei ystyried yn y polisi.

Ychwanegu'r hyn a ganlyn at ran ix (Cefn Gwlad Agored) "Mewn rhai achosion, efallai y byddai'n dderbyniol creu annedd newydd neu ail-sefydlu annedd blaenorol yng nghefn gwlad agored os yw'n cynnwys atgyweirio neu ailwampio ased treftadaeth sy'n helpu i ddiogelu cymeriad lleol a/neu'r diwylliant Cymreig."

ID y Sylw: 292

GWRTHWYNEBU Home Builders Federation Ltd (Mr Mark Harris)

Crynodeb:

Ystyried darparu mwy o dai yn y canolfannau Isranbarthol a chanolfannau gwasanaethau trefol, gan y byddai hyn yn fwy cynaliadwy ac yn darparu tai mewn ardaloedd lle mae ar y farchnad eu heisiau.

ID y Sylw: 284

GWRTHWYNEBU Mr Aled Evans

Crynodeb:

Strategaeth aneddleoedd

ID y Sylw: 132

GWRTHWYNEBU Cyngor Tref Biwmares (Prof TW Ashenden)

Crynodeb:

Ni roddwyd digon o bwys i rôl ardal Biwmares/Llan-faes fel maestref Bangor. Caiff galwadau ar dai ym Mangor eu gyrru gan lwyddiant economaidd Bangor a choridor yr A55 i'r dwyrain. O'r herwydd, mae'r glorian o ran dynodi tai rhwng canolfannau Caergybi, Llangefni, Amlwch a Biwmares/Llan-faes yn gogwyddo'n amhriodol o blaid Caergybi, Llangefni and Amlwch gyda chanlyniad y bydd y sefyllfa bresennol o brinder tai ym Miwmares/Llan-faes yn gwaethygu. Dylid dyrannu mwy o dai i ardal Biwmares/Llan-faes.

ID y Sylw: 83

GWRTHWYNEBU Cyngor Tref Biwmares (Prof TW Ashenden)

Crynodeb:

Mae'r aneddiadau rhwng Llanfairpwllgwyngyll a Llan-faes yn gweithredu fel maestref Bangor. Caiff galwadau ar dai ym Mangor eu gyrru gan lwyddiant economaidd Bangor a choridor yr A55 i'r dwyrain. O'r herwydd, mae'r glorian o ran dynodi tai rhwng canolfannau Caergybi, Llangefni ac Amlwch a'r aneddiadau ar hyd y Fenai yn gogwyddo'n amhriodol o blaid Caergybi, Llangefni and Amlwch gyda chanlyniad y bydd y sefyllfa bresennol o brinder tai yn yr ardal yn gwaethygu. Dylid ailgyfeirio rhan o ddynodiadau tai Caergybi, Llangefni, Amlwch a Bangor i aneddiadau Llanfairpwllgwyngyll, Porthaethwy, Llandegfan a Biwmares.

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult