Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Sylwadau ar Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau - POLISI TAI15

ID y Sylw: 1697

GWRTHWYNEBU Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

* Byddai'r twf arfaethedig sy'n cael ei hyrwyddo yn nalgylch y gweithfeydd trin dŵr DC a ganlyn angen gwaith gwella yn y gweithfeydd trin:

Biwmares, Cemaes, Porthaethwy/Menai Bridge (Treborth, Bangor), Pentraeth, Rhosneigr a Chricieth.

Byddai'r angen i'r gwelliannau gael eu hariannu trwy ein Cynllun Rheoli Asedau ni neu efallai'n gynharach na hynny trwy gyfraniadau datblygwr.

ID y Sylw: 1696

GWRTHWYNEBU Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

* Mae llifogydd wedi digwydd ar rai adegau yn y system garthffosiaeth gyhoeddus yn yr aneddiadau a ganlyn, y gallai fod angen eu hateb cyn gallu symud ymlaen i ddatblygu:

Biwmares, Benllech, Bethesda, Gaerwen, Llanfairpwll, Rhosneigr, Y Fali, Abermaw/Barmouth, Abersoch, Llanberis, Llanrug, Nefyn, Penygroes a Thywyn.

Gall datblygwyr posibl naill ai aros i DCWW gael ateb i'r llifogydd, yn amodol ar fod ein rheoleiddiwr ni, Ofwat, yn cymeradwyo ariannu hynny, neu symud ymlaen efo'r gwelliannau trwy ddefnyddio'r drefn ar gyfer gofyn am ddarpariaethau carthffosiaeth trwy Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 neu Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Efallai y bydd angen gwneud asesiadau modelu i benderfynu lle byddai modd cysylltu'r datblygiad arfaethedig efo'r system garthffosiaeth gyhoeddus.

ID y Sylw: 1695

CEFNOGI Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

* Gallai'r twf arfaethedig ar safleoedd hap ar gyfer yr aneddiadau hyn gael effaith ar asedau dŵr a charthffosiaeth DCWW. Gan nad ydym yn gwybod ar hyn o bryd lle bydd datblygiadau hap yn digwydd, byddwn yn gwneud asesiad a sylwadau ar safleoedd datblygu arfaethedig ar adeg y cais cynllunio.

ID y Sylw: 1431

GWRTHWYNEBU Cyngor Tref Penrhyddeudraeth (Mr Glyn Roberts)

Crynodeb:

Dylai'r ffaith mai dim ond cynnydd o 2.2% a fu yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011 ym Mhenrhyndeudraeth, bod y boblogaeth rhwng 20-29 mlwydd oed wedi gostwng 6.1% tra bod y boblogaeth dros 65 mlwydd oed wedi cynyddu 16% a nifer y mewnfudwyr wedi codi o 169 i 242 (+43.2%) rhwng 1991 a 2001 (Byddai dadansoddiad o ffigyrau 2001-2011 wedi dangos cynnydd mwy eto, fyth.) fod yn canu clychau yn glir a thaer. Nid sefyllfa i ymgysuro ynddi ydyw sefyllfa'r Gymraeg ym Mhenrhyndeudraeth, bellach. Ni ellir osgoi'r casgliad bod yma anghysondeb a chroesddweud ac anallu i sylweddoli arwyddocȃd ystadegau.

ID y Sylw: 754

GWRTHWYNEBU Mr Rob Booth

Crynodeb:

Dylai polisi TAI15 nodi bod rhaid i ddatblygiadau o fwy na naw thŷ gynnwys o leiaf 10% o dai sy'n fforddiadwy. Mae'n rhaid i ddatblygiadau o fwy na 20 tŷ gynnwys o leiaf 20% o dai fforddiadwy, dylai datblygiadau o fwy na 50 tŷ gynnwys 30% o dai fforddiadwy/tai sy'n perthyn i gymdeithasau tai a dylai datblygiadau o 100 tŷ neu fwy gynnwys 50% o dai fforddiadwy/tai sy'n perthyn i gymdeithasau tai.

ID y Sylw: 618

CEFNOGI Bleddyn & Bethan Hughes and 1 other

Crynodeb:

Rydym yn cefnogi'r dynodiad newydd ym mhentref Bodedern yn llawn - Map Mewnosod 11 - T34 yn Nhreangharad. Mae'r plot hwn mewn lleoliad da. Mae'r safle/cae yn fflat ac wedi'i ddraenio'n dda. Mae mynediad da i'r safle o'r briffordd, ble mae gwelededd da ymhob cyfeiriad. Mae ysgol uwchradd llai na chanllath i ogledd y plot ac mae ysgol gynradd oddeutu 700 llath i ffwrdd. Mae'r safle ar y llwybr bysus a beicio a dim ond un filltir o'r A55. Gellir cerdded yn rhwydd i'r feddygfa lle mae cyfleusterau feryllfa ac i siopau'r pentref.

ID y Sylw: 522

GWRTHWYNEBU Campaign for the Protection of Rural Wales (Mr Noel Davey)

Crynodeb:

Yn synnu nad oes safleoedd tai wedi cael eu hadnabod ar gyfer Bethesda, gyda 82 o unedau i'w hadnabod ar hap. Mae'r safle CDU sydd ger Maes Coetmor, a ddeallwn sydd wedi derbyn caniatad, du allan i'r ffin datblygu. Nid oeddwn yn credu bod hwn yn addas oherwydd dwysedd a mynediad anigonol. Yn gwrthwynebu tai ar SP633 i'r tir gwyrdd agored i'r gogledd, sy'n cynnwys tir amaethyddol da ac yn cyfrannu at ddatblygiad rhuban. Byddwn yn cefnogi tai ar nifer o safleoedd tir llwyd mewn lleoliad fwy canolig, yn ddarostyngedig i oresgyn problemau llifogydd. pam dim safleoedd? Pam fod y safle CDU tu allan i'r ffin datblygu?

ID y Sylw: 316

GWRTHWYNEBU mr paul green

Crynodeb:

Dylai dyrannu tai i Lanfairpwll, Porthaethwy, Llandegfan a Biwmares adlewyrchu eu cysylltiad â hyb rhanbarthol Bangor. Dylid rhai o'r tai sydd wedi cael ei ddynodi yng Nghaergybi, Amlwch a Llangefni cael ei ddynodi yn yr anheddloedd ar hyd yr Afon Menai.

ID y Sylw: 102

GWRTHWYNEBU Cyngor Tref Biwmares (Prof TW Ashenden)

Crynodeb:

CYNYDDU DYRANIAD TAI YM MIWMARES A LLAN-FAES

Ni roddwyd digon o bwys i rôl ardal Biwmares fel maestref Bangor. Caiff galwadau ar dai ym Mangor eu gyrru gan lwyddiant economaidd Bangor a choridor yr A55 i'r dwyrain. O'r herwydd, mae'r glorian o ran dynodi tai rhwng canolfannau Caergybi, Llangefni, Amlwch a Biwmares yn gogwyddo'n amhriodol o blaid Caergybi, Llangefni and Amlwch gyda chanlyniad y bydd y sefyllfa bresennol o brinder tai ym Miwmares yn gwaethygu. Dylid dyrannu mwy o dai i ardal Biwmares/Llan-faes.

Dylai ychydig o'r dynodiadau tai ar gyfer caergybi, Llangefni ac Amlwch gael ei ailddosbarthu i Biwmares.

ID y Sylw: 69

GWRTHWYNEBU Cyngor Tref Nefyn (Liz Saville Roberts)

Crynodeb:

Nid yw Cyngor Tref Nefyn o'r farn bod angen 37 o dai ychwanegol yn Nefyn rhwng nawr a 2016, sef y nifer a nodir yn y fersiwn Adnau, Mawrth 2015. Teimlir bod y 30 o dai sydd yn y banc tir yn ddigonol ar gyfer anghenion lleol.

Tystiolaeth - 21 o dai a godwyd yn Nefyn rhwng 2001 a 2011. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu lleihad o 3% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn Nefyn. Gwerthfawrogir nad oes cysylltiad uniongyrchol rhwng canran siaradwyr Cymraeg a datblygiadau tai, ond mae'r Cyngor o'r farn bod perthynas rhyngddynt yn yr ardal hon.

Lleihau lefel twf Nefyn i adlewyrchu graddfa twf rhwng 2001 a 2011 er mwyn i ddatblygiadau tai adlewyrchu anghenion lleol.

ID y Sylw: 50

CEFNOGI Cynghorydd Charles Jones

Crynodeb:

Bodlon efo'r ffordd mae'r ffin ddatblygu wedi cael ei dynnu.

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult