Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Sylwadau ar Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau - POLISI TAI18

ID y Sylw: 1803

GWRTHWYNEBU Peter Day

Crynodeb:

Cynnig Clwstwr newydd o'r enw Moranedd gan fod yna 13 o dai yno sydd yn bodloni holl feini prawf / anghenion ar gyfer Clwstwr. Nid yw wedi cael ei gynnwys yn y Cynllun a gofynnaf iddo gael ei gynnwys. Ceir cynllun ynghlwm sydd yn dangos y 13 tŷ sy'n ffurfio Moranedd mewn coch. Mae o fewn 600m i arhosfan bws, sydd efo gwasanaeth i'ch galluogi i gyrraedd canolfan gwaith erbyn 9yb. Ceir gwasanaethau cymdeithasol o fewn 1km gan gynnwys Neuadd Bentref Marianglas, Tŷ Tafarn Parciau a Canolfan Goronwy Owen.

ID y Sylw: 1668

GWRTHWYNEBU Mr Hayden Sandom cyflwynwyd gan Owen Devenport Ltd (Mr Berwyn Owen)

Crynodeb:

Mae'r grŵp o dai sy'n destun y gynrychiolaeth hon (Cae Ficer) yn gydlynol, yn dynn ac yn un y gellid ei ddiffinio'n hawdd. Mae'n cynnwys aneddleoedd digonol i'w hystyried fel clwstwr. Felly, mae'n addas ar gyfer ei gynnwys yn y cynllun fel clwstwr.

ID y Sylw: 1462

CEFNOGI Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

Bydd pa mor ddigonol ydi'r rhwydwaith garthffosiaeth yn cael ei asesu ar adeg cais cynllunio, unwaith y byddwn yn gwybod lle mae'r datblygiad i ddigwydd.

ID y Sylw: 1461

CEFNOGI Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

Does dim materion rydan ni'n gwybod amdanyn nhw o ran y cyflenwad dŵr i effeithio ar gyflawni 2 annedd ym mhob clwstwr, ond bydd asesiad llawn yn digwydd ar adeg cais cynllunio, unwaith y byddwn yn gwybod lle mae'r datblygiad i ddigwydd.

ID y Sylw: 1459

GWRTHWYNEBU Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

Does gan yr aneddiadau a ganlyn ddim cyfleusterau carthffosiaeth cyhoeddus ac felly mae darpariaethau Cylchlythyr 10/99 'Gofynion Cynllunio mewn perthynas â Defnyddio Systemau Carthffosiaeth heb Brif Gyflenwad a Chynnwys Tanciau Septig mewn Datblygiadau Newydd' yn gweithredu a bydd angen ymgynghori efo Adnoddau Naturiol Cymru.
Ynys Môn: Brynteg, Capel Coch, Capel Mawr, Capel Parc, Carmel, Cerrig Mân, Hebron, Llanfairynghornwy, Llanynghenedl, Marianglas, Pentre Canol, Penygraigwen, Traeth Coch / Red Wharf Bay, Trefor, Tyn Lôn.
Gwynedd: Aberpwll, Penrhos (Caeathro), Ceidio, Dinas (Llŷn), Friog, Llanaber, Llangwnadl, Treborth, Waun (Penisarwaun)

ID y Sylw: 1399

GWRTHWYNEBU DP Jones

Crynodeb:

Dylai Gogledd-ddwyrain Llanddaniel gael ei adnabod fel Clwstwr sy'n cynnwys grŵp o dai cydlynol gydag edrychiad trefol o natur debyg i glystyrau eraill sydd wedi'u nodi yn TAI 18. Nid yw wedi'i leoli yn yr AHNE ond mae ei gynnwys yn rhoi cyfle fel rhan o strategaeth gyffredinol i leihau'r pwysau ar dirwedd genedlaethol o bwysigrwydd mawr. Yn ogystal, mae Gogledd-ddwyrain Llanddaniel wedi'i nodi fel clwstwr yn y penderfyniad apêl a amgaeir gyda'r cyflwyniad. Yn ogystal, mae'n leoliad hynod gynaliadwy oherwydd ei agosrwydd at ddulliau cludiant cynaliadwy a dulliau cludiant eraill, ysgol gynradd a'r aneddiadau a'r cyfleusterau a restrwyd.

ID y Sylw: 1291

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Penmynydd a Star (Mr Rhys Davies)

Crynodeb:

Mae gan Penmynydd gymuned gryf a hoffem weld cyfleon ar gyfer cenhedlaethau'r dyfodol i aros yn y pentref. Dylai'r pentref gael ei adnabod fel clwstwr yn y CDLl dan bolisi TAI8 a thabl 21 ym mharagraff 7.4.128.

ID y Sylw: 1279

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Llandderfel (Mrs Bethan Jones)

Crynodeb:

Rydym yn gwrthwynebu'r bwriad i gyfyngu'r uchafswm o ddwy uned fesul clwstwr am gyfnod y Cynllun. Gwell byddai caniatau fel y galw a caniatau'r nifer y bo angen o dai fforddiadwy i bobl lleol. Dylid hefyd cael y gallu i ehangu'r ffin fel y galw i sicrhau bod afleoedd i bobl lleol ar eu tir eu hunain.
Newid: Caniatau codi tai fel y mae'r galw a nid ei gyfyngu i ddwy uned am gyfnod y Cynllun. Ymestyn y ffin pan fydd gofyn i sicrhau bod y bobl lleol yn gallu codi aneddau ar eu tir eu hunain.

ID y Sylw: 1278

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Llandderfel (Mrs Bethan Jones)

Crynodeb:

Rydym yn gwrthwynebu'r bwriad i gyfyngu'r uchafswm o ddwy uned fesul clwstwr am gyfnod y Cynllun. Gwell byddai caniatau fel y galw a caniatau'r nifer y bo angen o dai fforddiadwy i bobl lleol. Dylid hefyd cael y gallu i ehangu'r ffin fel y galw i sicrhau bod afleoedd i bobl lleol ar eu tir eu hunain.
Newid: Caniatau codi tai fel y mae'r galw a nid ei gyfyngu i ddwy uned am gyfnod y Cynllun. Ymestyn y ffin pan fydd gofyn i sicrhau bod y bobl lleol yn gallu codi aneddau ar eu tir eu hunain.

ID y Sylw: 1277

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Llandderfel (Mrs Bethan Jones)

Crynodeb:

Rydym yn gwrthwynebu'r bwriad i gyfyngu'r uchafswm o ddwy uned fesul clwstwr am gyfnod y Cynllun. Gwell byddai caniatau fel y galw a caniatau'r nifer y bo angen o dai fforddiadwy i bobl lleol. Dylid hefyd cael y gallu i ehangu'r ffin fel y galw i sicrhau bod afleoedd i bobl lleol ar eu tir eu hunain.
Newid: Caniatau codi tai fel y mae'r galw a nid ei gyfyngu i ddwy uned am gyfnod y Cynllun. Ymestyn y ffin pan fydd gofyn i sicrhau bod y bobl lleol yn gallu codi aneddau ar eu tir eu hunain.

ID y Sylw: 1272

GWRTHWYNEBU Mr & Mrs O R & M Roberts

Crynodeb:

1. Caiff Rhostrehwfa ei alw yn glwstwr, mewnlenwad yw'r safle hwn rhwng Llangefni a Rhostrehwfa
2. Dylid cynnwys yr ardal fewnlenwad un ai o fewn Rhostrehwfa neu Langefni, ac mae'n fewnlenwad rhwng y mapiau mewnosod perthnasol
3. Mae clwstwr yn cynnwys 10 neu fwy o unedau ac mae'r ardal hon yn cynnwys mwy na'r niferoedd gofynnol
4. Dylid newid yr ardal gyfan o fap mewnosod Rhostrehwfa a Llangefni i adlewyrchu clwstwr yn TAI18.

ID y Sylw: 1094

CEFNOGI Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resource Wales (Ymgynhoriadau Cynllunio

Crynodeb:

Mae CNC yn croesawu'r ffaith bod tai o fewn clystyrau gwledig yn 100% tai fforddiadwy.

ID y Sylw: 970

GWRTHWYNEBU Cyng/Counc Elwyn Edwards

Crynodeb:

Teimlaf nad yw'r Cynllun a fwriedir ar hyn o bryd ynglyn a niferoedd tai fforddiadwy a ganiateir at anghenion lleol yn ddigonnol (2 dy) dros oes y cynllun (hyd at 2026). Hoffwn newid geiriad niferoedd y tai i Fel Bo'r Galw) drwy oes y cynllun yn hytrach na 2.

ID y Sylw: 736

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Llanengan (Ms Einir Wyn)

Crynodeb:

Nid yw'n gwneud synnwyr yr ystyrir pentref mor fawr â Llanengan, sydd â thafarn, capel, eglwys a chanolfan gymdeithasol brysur (sy'n cynnal Ysgol Feithrin) yn glwstwr fel Sarn Bach a Machroes. Adeiladwyd tai angen lleol ynddo yn ystod y pum/chwe blynedd diwethaf ac mae lle i fewnlenwi eto - cais gerbron ar hyn o bryd. Caniatawyd chwe thŷ fforddiadwy/angen lleol eisoes.

Dylid ailystyried y dosbarthiad hwn i fod yn bentref gwledig fel y gellir adeiladu pedwar tŷ fforddiadwy/angen lleol yn Llanengan yn ystod oes y CDLl yn hytrach na'r ddau a ganiateir fel clwstwr.

ID y Sylw: 732

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Llanystumdwy (Mr Richard J Roberts)

Crynodeb:

Mae Pencaenewydd a Rhoslan wedi'u cynnwys yn y tabl clystyrau.

Pam nad yw Llanarmon wedi'i gynnwys? Mae wedi ei gynnwys fel pentref gwledig yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd a theimlwn y dylai gael ei gynnwys eto fel clwstwr. Wedi'r cwbl, mae Eglwys yno ac mae'r un gwasanaeth bysiau yn mynd drwyddo ag sy'n gwasanaethu Pencaenewydd a Llangybi.

Dylid cynnwys Llanarmon yn nhabl 21.

ID y Sylw: 703

GWRTHWYNEBU RCH Douglas Pennant cyflwynwyd gan Carter Jonas (Mr Chris Bell)

Crynodeb:

Gwrthwynebu cyfyngu'r twf yn Nhalybont i 2 annedd ar hap dros gyfnod y cynllun a diffyg ffin ddatblygu. Rwyf yn gwrthwynebu'r asesiad cynaladwyedd ar gyfer Talybont (sgôr anheddiad). Mae'r drefn bresennol mewn gwirionedd yn peri risg i hyfywedd y gwasanaethau lleol. Newid: ffin ddatblygu i ganiatáu nifer uwch o anheddau yn Nhalybont, fyddai'n cefnogi'r gwasanaethau lleol yn well.

ID y Sylw: 702

GWRTHWYNEBU RCH Douglas Pennant cyflwynwyd gan Carter Jonas (Mr Chris Bell)

Crynodeb:

Gwrthwynebu cyfyngu'r twf yn Nhalybont i 2 annedd ar hap dros gyfnod y cynllun a diffyg ffin ddatblygu. Rwyf yn gwrthwynebu'r asesiad cynaladwyedd ar gyfer Talybont (sgôr anheddiad). Mae'r drefn bresennol mewn gwirionedd yn peri risg i hyfywedd y gwasanaethau lleol. Newid: ffin ddatblygu i ganiatáu nifer uwch o anheddau yn Nhalybont, fyddai'n cefnogi'r gwasanaethau lleol yn well.

ID y Sylw: 648

GWRTHWYNEBU Friends of Borth-y Gest (Tom Brooks)

Crynodeb:

Polisi PS15 - Strategaeth Aneddleoedd - yn cyfyngu pentrefi arfordirol i "o fewn safleoedd mewnlenwi neu safleoedd ar hap oddi mewn i ffiniau datblygu." Dynodir potensial dangosol o 10 safle o'r fath i Borth-y-Gest. Noder nad yw hyn yn darged nac yn derfyn.

Cefnogaf yr elfen hon o'r polisi yn enwedig "Bydd datblygiad yn cael ei gyfyngu i'r raddfa a'r math sy'n ateb angen y gymuned am dai ar leiniau ar hap/lleiniau mewnlenwi oddi mewn i ffiniau datblygu. Ni fydd unrhyw safleoedd tai marchnad agored yn cael eu dynodi yn y pentrefi hyn."

Fodd bynnag, mae'r angen ar safleoedd mewnlenwi yn Mhorth-y-Gest ar gyfer tai fforddiadwy ac nid tai marchnad agored. Ail gategoreiddio Borth-y-Gest fel clwstwr.

ID y Sylw: 574

GWRTHWYNEBU Cadnant Planning (Mr Rhys Davies)

Crynodeb:

* Dylid uwchraddio Clystyrau i gynnwys ffin datblygu.
* Dylid cynnwys dynodiad tai penodol ynddynt i ddarparu cyfuniad o dai marchnad a thai fforddiadwy i gyfarch y gwir angen lleol am fath dai.
* Mae'r clystyrau sydd wedi cael ei adnabod yn aneddleoedd cynaliadwy efo cysylltiadau trafnidiaeth dda. Ni ddylid cyfyngu ei lefel twf gan fuasai cyfleusterau a gwasanaethau cymdeithasol yn cael cefnogaeth wedyn.
* Buasai hyn yn cefnogi anghenion y gymuned leol bydd yn cefnogi nifer o wasanaethau a chyfleusterau drwy'r flwyddyn; sydd yn fwy addas na pholisi caeth sydd yn cyfyngu'r nifer o dai i ddau a hefyd yn lleihau effaith crynhoad o dai gwyliau.
* Ystyrir bod dim ond cyfarch 2 dy fforddiadwy o fewn clystyrau yn mynd i wanhau cymunedau yn gymdeithasol ac economaidd gan arwain at gynnydd mewn amddifadedd. Mae'n cael ei adnabod ym Mholisi Cynllunio Cymru bod yna angen i ddarparu cymysgedd o dai fforddiadwy a marchnad o fewn aneddleoedd er mwyn creu cymunedau cynaliadwy. Bydd cyfyngu datblygiad tai i 100& tai fforddiadwy yn creu anghydbwysedd cymdeithasol ac felly yn groes i bolisi cynllunio cenedlaethol.

ID y Sylw: 497

GWRTHWYNEBU Cyngor Cymuned Tref Alaw (Miss Anna M Jones)

Crynodeb:

Mae eitem 6 yn y paragraff yn nodi fod y feddiannaeth wedi'i chyfyngu hyd dragwyddoldeb.
Golyga hyn y bydd yn amhosib cael morgais ar yr annedd.
Bwriad y cynllun yw 'cael gwared' â'r trigolion o'r cefn gwlad a chreu getos yn y trefi.

ID y Sylw: 442

GWRTHWYNEBU Mr B Pritchard cyflwynwyd gan Jones Peckover (Mr Allan Booker)

Crynodeb:

Nid yw pentref Bryn-teg wedi'i gynnwys mewn unrhyw ddosbarthiad y nodweddir bod modd iddo dderbyn datblygiadau tai newydd. Amryfusedd yw hyn gan fod y pentref yn arddangos nifer o'r nodweddion sy'n gysylltiedig â phentrefi a chlystyrau lleol eraill. Er enghraifft, mae Talwrn, pentref tebyg, wedi'i ddosbarthu'n bentref lleol. Mae'n hanfodol i les cymdeithasol ac economaidd Bryn-teg y caiff datblygiadau newydd eu hyrwyddo ac y rhoddir dynodiad o'r fath. Mae safleoedd addas ar gyfer datblygiad o'r fath yn y pentref, gan gynnwys cyfeirnod safle SP162 yn y Gofrestr Safleoedd Arfaethedig.

ID y Sylw: 383

GWRTHWYNEBU Mr Emyr Jones cyflwynwyd gan Jones Peckover (Mr Allan Booker)

Crynodeb:

Mae'r polisi hwn yn diffinio pentref Llan-faes fel clwstwr. O gofio ei faint a'i nodweddion, byddai pentref lleol yn gategori mwy priodol. Ceir anghysonderau yn y broses asesu sydd wedi'i chynnal, o gofio fod Talwrn, er enghraifft, anheddiad sy'n debyg i Lan-faes o ran nodweddion, wedi'i ddiffinio fel pentref lleol. Mae angen tai fforddiadwy a marchnad yn Llan-faes i gefnogi a datblygu gwasanaethau lleol. Byddai'r safle a adwaenir fel SP49 yn y Gofrestr Safleoedd Arfaethedig yn safle addas ar gyfer ehangu'r pentref ar raddfa fechan.

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult