Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Sylwadau ar Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau - POLISI TAI15, T47 - Tir ger Helyg, Nefyn

ID y Sylw: 1369

GWRTHWYNEBU Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

Mae modd darparu cyflenwad dŵr i wasanaethu'r safle hwn.
Mae llifogydd wedi digwydd ar rai adegau yn y system garthffosiaeth gyhoeddus, a bydd angen eu hateb cyn gallu symud ymlaen i ddatblygu yma. Gall datblygwyr posibl naill ai aros i DCWW gael ateb i'r llifogydd, yn amodol ar fod ein rheoleiddiwr ni, Ofwat, yn cymeradwyo ariannu hynny, neu symud ymlaen efo'r gwelliannau trwy ddefnyddio'r drefn ar gyfer gofyn am ddarpariaethau carthffosiaeth trwy Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 neu Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Mae Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Nefyn yn gallu derbyn y llif dŵr budr o'r ffigwr twf arfaethedig a ddyrannwyd i'r dalgylch yma.

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult