Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Sylwadau ar Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau - POLISI CYF1, C19 - Peblig, Caernarfon

ID y Sylw: 1638

GWRTHWYNEBU Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

Mae angen i ddatblygwyr posibl fod yn ymwybodol bod carthffos yn croesi'r safle hwn. O dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 mae gan Ddŵr Cymru Welsh Water hawliau i gael mynediad at ei gyfarpar gydol yr amser. Bydd angen mesurau amddiffyn ar gyfer yr asedau hyn, naill ai ar ffurf hawddfraint dros led benodol o dir neu efallai gael gwyriad ar yr ased.
Byddai'r twf arfaethedig sy'n cael ei hyrwyddo ar gyfer yr anheddiad yma'n golygu bod angen gwelliannau yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Caernarfon, a'u hariannu trwy ein Cynllun Rheoli Asedau neu efallai'n gynharach na hynny trwy gyfraniadau datblygwr.

ID y Sylw: 1637

GWRTHWYNEBU Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

Fe ddylai ein rhwydwaith dŵr lleol ni fod yn ddigon ar gyfer y gofynion dŵr domestig, i wasanaethu'r ardal ddatblygu hon. Mae angen i ddatblygwyr posibl fod yn ymwybodol bod prif gyflenwad dŵr yn croesi'r safle hwn, a gallai gyfyngu ar ddwysedd datblygiad y safle. O dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 mae gan Ddŵr Cymru Welsh Water hawliau i gael mynediad at ei gyfarpar gydol yr amser. Bydd angen mesurau amddiffyn ar gyfer yr asedau hyn, naill ai ar ffurf hawddfraint dros led benodol o dir neu efallai gael gwyriad ar yr ased.

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult