Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Sylwadau ar Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau - POLISI CYF1, C27 - Stad Ddiwydiannol Y Ffôr, Y Ffôr

ID y Sylw: 1648

GWRTHWYNEBU Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

Byddai'r twf arfaethedig sy'n cael ei hyrwyddo ar gyfer yr anheddiad yma'n golygu bod angen gwelliannau yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff y Ffôr, a'u hariannu trwy ein Cynllun Rheoli Asedau neu efallai'n gynharach na hynny trwy gyfraniadau datblygwr.

ID y Sylw: 1647

GWRTHWYNEBU Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

Mae ein rhwydwaith dŵr lleol ni'n ddigon ar gyfer y gofynion dŵr domestig, i wasanaethu'r ardal ddatblygu hon.
Mae'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus yn gallu derbyn y llif dŵr budr yn deillio o'r ardal ddatblygu hon. Mae angen i ddatblygwyr posibl fod yn ymwybodol bod carthffos yn croesi'r safle. O dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 mae gan Ddŵr Cymru Welsh Water hawliau i gael mynediad at ei gyfarpar gydol yr amser. Bydd angen mesurau amddiffyn ar gyfer yr asedau hyn, naill ai ar ffurf hawddfraint dros led benodol o dir neu efallai gael gwyriad ar yr ased.

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult