Porth Ymgynghori Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Sylwadau ar Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Adnau - POLISI CYF1, C31 - Cyn safle Eaton Electrical, Caergybi

ID y Sylw: 1689

GWRTHWYNEBU Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

* Mae angen i ddatblygwyr posibl fod yn ymwybodol bod carthffos yn croesi'r safle. O dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 mae gan Ddŵr Cymru Welsh Water hawliau i gael mynediad at ei gyfarpar gydol yr amser. Bydd angen mesurau amddiffyn ar gyfer yr asedau hyn, naill ai ar ffurf hawddfraint dros led benodol o dir neu efallai gael gwyriad ar yr ased. Mae llifogydd wedi digwydd ar rai adegau yn y system garthffosiaeth gyhoeddus, fydd efallai angen eu hateb cyn gallu symud ymlaen i ddatblygu yma. Gall datblygwyr posibl naill ai aros i DCWW gael ateb i'r llifogydd, yn amodol ar fod ein rheoleiddiwr ni, Ofwat, yn cymeradwyo ariannu hynny, neu symud ymlaen efo'r gwelliannau trwy ddefnyddio'r drefn ar gyfer gofyn am ddarpariaethau carthffosiaeth trwy Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 neu Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

ID y Sylw: 1655

CEFNOGI Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

Mae Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Caergybi'n gallu derbyn y llif dŵr budr o'r gofynion domestig yn deillio o'r ardal ddatblygu hon.

ID y Sylw: 1654

CEFNOGI Dwr Cymru Welsh Water (Mr Dewi Griffiths )

Crynodeb:

Mae ein rhwydwaith dŵr lleol ni'n ddigon ar gyfer y gofynion dŵr domestig, i wasanaethu'r ardal ddatblygu hon.
Mae angen i ddatblygwyr posibl fod yn ymwybodol bod carthffos yn croesi'r safle. O dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 mae gan Ddŵr Cymru Welsh Water hawliau i gael mynediad at ei gyfarpar gydol yr amser. Bydd angen mesurau amddiffyn ar gyfer yr asedau hyn, naill ai ar ffurf hawddfraint dros led benodol o dir neu efallai gael gwyriad ar yr ased. Mae llifogydd wedi digwydd ar rai adegau yn y system garthffosiaeth gyhoeddus, fydd efallai angen eu hateb cyn gallu symud ymlaen i ddatblygu yma. Gall datblygwyr posibl naill ai aros i DCWW gael ateb i'r llifogydd, yn amodol ar fod ein rheoleiddiwr ni, Ofwat, yn cymeradwyo ariannu hynny, neu symud ymlaen efo'r gwelliannau trwy ddefnyddio'r drefn ar gyfer gofyn am ddarpariaethau carthffosiaeth trwy Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 neu Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult